Safonau proffesiynol
Arfer meddygol da
Ar ôl cofrestru gyda ni, bydd yn rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddilyn Arfer meddygol da, sy’n nodi’r safonau gofal cleifion ac ymddygiad a ddisgwylir gan bawb ar ein cofrestrau.
Mae Arfer meddygol da wedi’i gynllunio i fod yn fframwaith ategol i arwain y rhai sydd ar y gofrestr wrth ofalu am gleifion a gweithio gyda chydweithwyr. Mae’r safonau’n disgrifio arfer da, heb fod yn gyfres o reolau. Dylai cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eu dilyn gan ddefnyddio eu barn yn yr amgylchiadau penodol maen nhw’n eu hwynebu.
Canllawiau manylach
Mae Arfer meddygol da wedi’i ategu gan ganllawiau manylach, sy’n esbonio rhagor ynghylch meysydd penodol sy’n codi’n aml mewn cwestiynau i ni, neu feysydd lle mae’n ddefnyddiol darparu manylion ychwanegol. Mae’r pynciau’n cynnwys dirprwyo ac atgyfeirio, cynnal ffiniau personol a phroffesiynol, a defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae ein hwb moesegol (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth ychwanegol sy’n esbonio sut i roi ein safonau proffesiynol ar waith yn ymarferol.