Arfer da mewn ymchwil
Rydym wedi cyfuno dau ganllaw sy’n bodoli eisoes, Arfer da mewn ymchwil a Cydsynio i ymchwil (2010), i greu un cyhoeddiad newydd.
Bydd hwn yn dod i rym 18 Rhagfyr 2024.
Rydym wedi diweddaru’r canllaw hwn i wneud y canlynol:
- adeiladu ar yr egwyddorion sy’n ymwneud ag ymchwil yn Ymarfer meddygol da 2024 ac adlewyrchu ein datganiad sefyllfa ar gyfer 2022, Normaleiddio ymchwil - Hybu ymchwil i bob meddyg
- amlygu manteision cefnogi ymchwil, annog ymwybyddiaeth o ymchwil a phwysleisio pwysigrwydd amgylcheddau gwaith sy’n cefnogi ymchwil
- ystyried newidiadau mawr ers 2010 yn y sefydliadau sy'n ymwneud â chynnal ymchwil, a'r fframwaith cyfreithiol a'r trefniadau llywodraethu sy'n sail i ymchwil yn y DU
- pwysleisio bod llawer o ffyrdd y gall cleifion a'r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil, a’u hannog i fod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo eu cyfranogiad. Mae'r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd annog grwpiau penodol nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil
- ychwanegu disgwyliadau manylach ynghylch adnabod, datgan, a mynd i’r afael â gwrthdaro rhwng buddiannau, er mwyn adlewyrchu canllawiau cenedlaethol ar y pwnc hwn.