Byddwn yn penderfynu pwy sy’n gallu gweithio fel cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia drwy osod y safonau ar gyfer mynediad i’r proffesiynau hyn a dweud pa dystiolaeth y bydd rhaid iddynt ei dangos inni i brofi eu bod wedi bodloni’r safonau hynny. Wrth wneud cais i ymuno â’n cofrestr, rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddarparu neu gadarnhau:

  • bod ganddynt gymhwyster perthnasol 
  • eu bod wedi pasio'r Arholiad Cenedlaethol i gymdeithion meddygol (cymdeithion meddygol yn unig)
  • eu hanes gwaith dros y pum mlynedd ddiwethaf
  • geirdaon gan gyflogwyr a rheoleiddwyr
  • tystiolaeth o sgiliau Saesneg os ydynt wedi ennill eu cymhwyster y tu allan i’r DU 
  • datganiad iechyd ac addasrwydd i ymarfer 
  • bod ganddynt yswiriant ac indemniad digonol.

Cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch cofrestru, mae’n rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia hefyd gwblhau gwiriad adnabod y GMC a thalu ffi ymgeisio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i’n tudalennau cofrestru ar y we (Saesneg yn unig).

Y broses gofrestru

Rydym yn annog cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia i ymuno â’n cofrestrau cyn gynted â phosibl os ydynt eisoes yn ymarfer yn y DU.

Fodd bynnag, mae cyfnod pontio o ddwy flynedd, a nodir yn y gyfraith, cyn y daw’n drosedd ymarfer fel cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia heb gofrestru gyda’r GMC. Bydd hyn yn caniatáu i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia barhau i weithio wrth iddynt gwblhau unrhyw gamau ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru, ac er mwyn i ni allu prosesu ceisiadau.

O fis Rhagfyr 2026 ymlaen, mae’n rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia fod wedi cofrestru â’r GMC i ymarfer yn y DU.  

Ein proses gofrestru

Y gofrestr cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia

Mae’r cyfeirnod a roddir i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia pan fyddant yn cael eu cofrestru gyda ni yn dechrau gyda’r llythyren ‘A’, ar gyfer ‘associate’, sy’n ei wahaniaethu oddi wrth y fformat rhifau’n unig sydd gan feddygon cofrestredig. 

Yn ogystal â’r llythyren, rydym wedi labelu pob math o broffesiwn yn amlwg ar ein cofrestrau cyhoeddus, ac mewn swyddogaethau chwilio. Mae hyn yn golygu y bydd yn glir iawn pan fydd cleifion yn chwilio drwy ein cofrestrau a yw unigolyn yn feddyg, yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia.

Chwilio ein cofrestrau