Pan fydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn gwneud cais i fod yn weithwyr proffesiynol rheoleiddiedig, bydd angen iddynt dalu ffi, sy'n talu am eu blwyddyn gyntaf ar y gofrestr. Ar ben-blwydd eu cofrestriad bob blwyddyn, byddant hefyd yn talu ffi flynyddol i barhau i fod yn gofrestredig gyda ni.

Mae’r ffioedd cyfredol i’w gweld ar ein rhestr ffioedd.  

Rydym yn adolygu ein ffioedd yn flynyddol ac yn eu haddasu yn unol â chwyddiant bob mis Ebrill. Ein nod yw cadw ein holl ffioedd mor isel â phosibl gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gallu cyflawni ein cyfrifoldebau statudol.

Isod, rydym wedi amlinellu beth mae’r ffi’n ei gynnwys a sut rydym wedi’i chyfrifo. 

Beth mae’r ffi’n ei gynnwys

Mae’r ffi’n cynnwys y gost ddisgwyliedig o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, a chyflawni ein cyfrifoldebau statudol, fel y maen nhw wedi’u hamlinellu mewn deddfwriaeth, i wneud y canlynol:

  • gosod y safonau gofal cleifion ac ymddygiad proffesiynol y mae angen i gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia eu bodloni
  • pennu'r deilliannau a'r safonau y mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n cymhwyso o gyrsiau i gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia eu bodloni i ymuno â'n cofrestr, a chymeradwyo'r cwricwla y mae'n rhaid i gyrsiau eu cyflwyno 
  • cadarnhau pwy sy'n gymwys i weithio fel cydymaith meddygol a chydymaith anaesthesia yn y DU, a gwneud yn siŵr eu bod yn parhau drwy gydol eu gyrfaoedd i fodloni'r safonau proffesiynol a osodwyd gennym
  • ymchwilio i bryderon fod risg i ddiogelwch cleifion, neu os oes risg i hyder y cyhoedd mewn cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, a chymryd camau os oes angen.

Bydd y ffi hefyd yn cyfrannu at gostau cyffredinol ein sefydliad a’n gorbenion, yn ogystal â’n gwaith yn darparu arweiniad a chymorth i gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, gan eu helpu i ddeall eu cyfrifoldebau proffesiynol a chynnal y safonau a ddisgwylir drwy gydol eu gyrfaoedd.

Ar hyn o bryd, mae costau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn cael eu talu drwy gyfuniad o ffioedd cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia a chyllid penodol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Sut rydym wedi cyfrifo’r ffi 

Bydd costau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn cael eu hariannu gan y ffioedd maen nhw’n yn eu talu, yn union fel y mae meddygon yn talu am eu costau rheoleiddio hwythau. Rydym wedi cyfrifo’r ffi ar sail y costau disgwyliedig o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, a chyflawni’r dyletswyddau statudol sydd wedi’u hamlinellu mewn deddfwriaeth.

Bydd gan gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia strwythur ffioedd safonol, lle bydd un ffi gofrestru a ffi flynyddol. Mae’r ffi gyfredol i’w gweld ar y rhestr ffioedd ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

Wrth i wir gost rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ddod yn fwy eglur dros amser, byddwn yn adolygu ein ffioedd yn rheolaidd i ddeall a oes angen gwneud unrhyw addasiadau.

Sut mae ein ffioedd yn cymharu

Mae’r strwythur ffioedd ar gyfer meddygon yn amrywio ar sail eu cam gyrfa a’u hincwm. Mae meddygon sydd newydd gymhwyso yn cael ffi gofrestru ostyngedig a hyd at bedair blynedd o ostyngiad ar eu ffioedd blynyddol (gostyngiad tymor penodol). Os nad yw meddygon ym mhum mlynedd gyntaf eu hymarfer mwyach – ond eu bod yn ennill cyflog sy’n is na’r trothwy presennol i gael gostyngiad – gallent wneud cais am ostyngiad incwm, sy’n rhoi gostyngiad o 50% iddynt oddi ar eu ffioedd blynyddol.

Mae hyn yn golygu y bydd rhai cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn talu mwy na meddygon am eu cofrestriad a’u ffi flynyddol, ac eraill yn talu llai. 

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cynnig gostyngiadau i gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia sydd ar ddechrau eu gyrfa neu ar incwm isel oherwydd yr incwm ffioedd cyffredinol gan gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, ond byddwn yn ailedrych ar hyn yn y dyfodol i sicrhau bod ein ffioedd yn parhau i fod yn deg.