Addysg a hyfforddiant

Drwy nodi’r wybodaeth, yr ymddygiad a’r sgiliau a ddisgwylir gan gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sydd newydd gymhwyso, a sicrhau ansawdd cyrsiau, mae rheoleiddio’n sicrhau bod cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia graddedig yn barod i weithio’n ddiogel.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod deilliannau addysg a hyfforddiant yn paratoi cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia i ddarparu gofal da a diogel i gleifion. 

I gael rhagor o wybodaeth am addysg i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia a’n proses ni, ewch i’n tudalennau gwe ar addysg (Saesneg yn unig).

Canlyniadau

Mae ein fframwaith addysg cyn-gymhwyso ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (Saesneg yn unig) yn cynnwys deilliannau dysgu cyffredinol a chwricwlwm yn seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer pob proffesiwn. Mae’r deilliannau’n sicrhau cysondeb, lle bo hynny’n briodol, rhwng y cwricwla ar gyfer proffesiynau’r cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar draws galluoedd proffesiynol fel addysgu ac arweinyddiaeth. Mae pob cwricwlwm yn nodi'r galluoedd penodol i'r proffesiwn y byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr eu datblygu. Bydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sy’n fyfyrwyr sydd wedi cael eu haddysgu o dan y fframwaith newydd yn dechrau graddio o haf 2025 ymlaen.

Asesiad Cofrestru Cymdeithion Meddygol

Rydym wedi gweithio gyda Choleg Brenhinol y Meddygon ac eraill i ddatblygu Asesiad Cofrestru newydd i Gymdeithion Meddygol (PARA). Mae myfyrwyr a ddechreuodd ar eu cwrs cydymaith meddygol ar ôl mis Medi 2023 wedi cael eu haddysgu yn unol â’r fframwaith addysg cyn-gymhwyso (Saesneg yn unig) newydd. Bydd angen iddynt basio’r Asesiad Cofrestru i gofrestru gyda ni.

Mae’r map cynnwys ar gyfer yr asesiad hwn (Saesneg yn unig)yn amlinellu’r hyn yr ydym yn disgwyl i’r asesiad ei gynnwys, ac rydym yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Meddygon ac eraill i baratoi ar gyfer ei gyflwyno. Bydd y myfyrwyr presennol a ddechreuodd ar eu cwrs cyn mis Medi 2023 yn sefyll yr Arholiad Cenedlaethol presennol i Gymdeithion Meddygol (Saesneg yn unig), a gyflwynir gan Goleg Brenhinol y Meddygon.

Asesiad Cofrestru Cymdeithion Anesthesia

Rydym wedi gweithio gyda Choleg Brenhinol yr Anesthetyddion ac eraill i ddatblygu Asesiad Cofrestru newydd i Gymdeithion Anesthesia (Saesneg yn unig) (AARA). Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi cael eu haddysgu yn unol â’r fframwaith addysg cyn-gymhwyso newydd basio'r Asesiad Cofrestru yn ogystal â'u cymhwyster cydymaith anesthesia i gofrestru gyda ni. Bydd yr Asesiad Cofrestru newydd i Gymdeithion Anesthesia yn dechrau o haf 2025 ymlaen. Ni fydd myfyrwyr y dechreuodd eu cwrs cyn i'r cwricwlwm newydd gael ei roi ar waith yn sefyll yr Asesiad Cofrestru newydd i Gymdeithion Anesthesia.

Sicrhau ansawdd

Yn ystod y cyfnod paratoi cyn rheoleiddio, roeddem wedi gweithio gyda darparwyr cyrsiau ac wedi gofyn iddynt ddiweddaru eu cyrsiau, gan gynnwys eu maes llafur a’u hasesiadau, gan ddefnyddio’r cwricwlwm perthnasol. Nawr fod y gwaith rheoleiddio wedi dechrau, rydym wedi cyhoeddi’r rhestr o gyrsiau cymeradwy ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Bydd yr adroddiadau a gyhoeddir gennym yn cynnwys crynodeb blynyddol ar bob darparwr cwrs.

Mae rhagor o wybodaeth am ein proses sicrhau ansawdd ar gael yma. (Saesneg yn unig)

Safonau proffesiynoldeb ar gyfer myfyrwyr

Mae cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sy’n fyfyrwyr yn astudio i ymuno â phroffesiwn dibynadwy a fydd yn golygu eu bod yn dod i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, felly, mae disgwyl safonau ymddygiad uwch wrth astudio. Mae Cyflawni arfer meddygol da: canllaw i fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia – ar eu cwrs neu leoliad a’r tu allan i hynny – yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol iddynt fel myfyrwyr.

Hefyd, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr cyrsiau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ar reoli pryderon o ran proffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer. Mae'r canllawiau'n amlinellu'r prosesau y dylai darparwyr cyrsiau eu dilyn os ydynt yn poeni am broffesiynoldeb myfyrwyr neu eu haddasrwydd i ymarfer, ac efallai y byddant yn ddeunydd cyfeirio defnyddiol i fyfyrwyr hefyd.