Cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y gwaith

  1. Ailddilysu
  2. Addysg a hyfforddiant
  3. Cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y gwaith
  4. Codi pryder

Llywodraethu clinigol

Mae systemau llywodraethu clinigol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn ddiogel. Dylai sefydliadau sy’n cyflogi cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (Saesneg yn unig) sicrhau bod eu trefniadau llywodraethu yn ystyried bod y gweithwyr proffesiynol hyn yn cael eu hyfforddi, ac yn cael eu cofrestru ar y sail y byddant yn gweithio dan oruchwyliaeth bob amser.

Rydym yn argymell bod sefydliadau’n nodi unigolyn ar lefel bwrdd sy’n gyfrifol am gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, a bod prosesau lleol yn cael eu sefydlu sy’n rheoli sut mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn cael eu defnyddio a’u goruchwylio. Dylai’r prosesau hyn anelu at sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel, a chefnogi gwaith amlddisgyblaethol effeithiol.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen ein canllawiau llywodraethu clinigol effeithiol i gefnogi ailddilysu (Saesneg yn unig).

Cwmpas

Er mwyn sicrhau gofal diogel i gleifion, mae’n ofynnol i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia weithio o fewn eu cymhwysedd bob amser. Mae Arfer meddygol da, y safonau proffesiynol sy’n berthnasol i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, yn nodi: ‘Rhaid i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu.’ [paragraff 1], a ‘Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd.’ [paragraff 2]

Mae’r tasgau y gall gweithwyr proffesiynol unigol eu cyflawni’n ddiogel yn dibynnu ar eu sgiliau a’u cymhwysedd, sy’n datblygu dros amser. Weithiau byddwch yn clywed hyn yn cael ei alw’n gwmpas ymarfer gweithiwr proffesiynol. Nid yw rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol fel arfer yn pennu hyn ar gyfer eu hunigolion cofrestredig. Nid ydym yn gwneud hyn ar gyfer meddygon, nac ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

Goruchwyliaeth

Mae ein llawlyfr llywodraethu clinigol yn nodi ein disgwyliad y dylai sefydliadau sy’n cyflogi cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia wneud trefniadau priodol ar gyfer eu defnyddio a’u goruchwylio.

Yn yr un modd â gweithwyr proffesiynol eraill y mae meddygon yn eu goruchwylio ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw mewn timau amlddisgyblaethol, nid yw meddygon yn atebol i ni am benderfyniadau a gweithredoedd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, ar yr amod eu bod wedi dirprwyo cyfrifoldeb yn unol â’r safonau a’r canllawiau yn:

Mae llawer o feddygon eisoes yn goruchwylio cydweithwyr neu’n arwain timau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. O ran goruchwyliaeth dda, nid oes un ateb i bawb. Mae hyn yn golygu y dylai cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, a’u goruchwylwyr a enwir, gytuno ar lefel o oruchwyliaeth sy’n briodol i lefel sgiliau, profiad a rôl yr unigolyn, a natur y dasg.

Gweithio o fewn cymhwysedd

Yn yr un modd â meddygon, bydd gofyn i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia weithio o fewn eu cymhwysedd ar ôl iddynt gofrestru gyda ni i sicrhau gofal diogel i gleifion.

Arfer meddygol da, yw’r safonau proffesiynol sy’n berthnasol i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sydd wedi cofrestru gyda ni, ac mae’n dweud:

  • Rhaid i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu. [paragraff 1]
  • Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd. [paragraff 2] 

Cyflwyniadau

Yn yr un modd â meddygon, mae gan gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gyfrifoldeb i gyfleu'n glir pwy ydyn nhw, a'u rôl yn y tîm. Mae Arfer meddygol da, sy’n nodi’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob gweithiwr proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda ni, yn dweud ‘Rhaid i chi wastad fod yn onest am eich profiad, eich cymwysterau a’ch rôl bresennol. Dylech eich cyflwyno eich hun i gleifion ac egluro eich rôl yn eu gofal.’ [paragraff 82].

Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia:

  • defnyddio ac esbonio eu teitl yn llawn cyn defnyddio unrhyw dalfyriadau
  • cymryd amser i esbonio eu rôl yn ystod rhyngweithiadau clinigol
  • cofio nad yw teitlau rolau bob amser yn glir i bobl eraill ar unwaith ac y gellid eu camddeall weithiau os nad ydynt yn cael eu hesbonio’n glir
  • cynnig cyfle i gleifion a staff ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl a chymryd digon o amser i egluro. 

Rhoi presgripsiwn am ymbelydredd ïoneiddio

Yn gyfreithiol, ni all cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia roi presgripsiwn am ymbelydredd ïoneiddio na’i archebu, ond gallant gynnig neu argymell meddyginiaethau i bresgripsiynydd awdurdodedig eu hadolygu a'u cymeradwyo.

Llywodraeth y DU, ac nid y rheoleiddiwr, fydd yn penderfynu a ddylid rhoi cyfrifoldebau presgripsiynu i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y dyfodol. Byddai angen deddfwriaeth ar wahân i wneud hynny.

Nid yw ymbelydredd ïoneiddio yn perthyn i’r un ddeddfwriaeth â phresgripsiynu. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ofyn am ymbelydredd ïoneiddio ar gyfer cleifion fel ‘atgyfeirwyr anfeddygol’ (NMRs) ar yr amod bod eu cyflogwr wedi rhoi’r hawl NMR iddynt a’u bod wedi cael yr hyfforddiant priodol.

Mae’r datganiad sefyllfa (Saesneg yn unig) gan Sefydliad Radioleg Prydain yn darparu rhagor o fanylion am ofynion hyfforddi a llywodraethu NMRs a’r gwahanol fathau o hawliau NMR. Mae’n bosibl y bydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn gallu bod yn NMRs ar ôl cofrestru gyda ni.

Indemniad ac yswiriant

Yn yr un modd â meddygon, mae angen yswiriant ac indemniad priodol (Saesneg yn unig) ar gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ar gyfer y gwaith maen nhw’n ei wneud

Rydym yn gofyn i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia lofnodi datganiad bod ganddynt drefniant indemniad, polisi yswiriant, neu gyfuniad sy’n darparu gwarchodaeth ddigonol ar gyfer pob agwedd ar eu hymarfer pan fyddant yn gwneud cais i gofrestru (Saesneg yn unig). PEfallai y bydd angen i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ofyn am gyngor eu cyflogwr ynghylch lefel y warchodaeth sydd ei hangen arnynt.