Ôl-nodion
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer meddygol da Llundain, CMC
Mae hyn yn cynnwys eich safbwyntiau am ffordd o fyw, diwylliant neu statws cymdeithasol neu economaidd claf neu gydweithiwr, yn ogystal â'r nodweddion sy'n cael eu diogelu gan ddeddfwriaeth: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, priodas a phartneriaeth sifl, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Er enghraifft, os mai chi yw'r unig feddyg sy'n meddu ar y statws cyfreithiol i lofnodi tystysgrif amlosgi, ni ddylech wrthod gwneud hynny ar sail eich gwrthwynebiad personol neu grefyddol chi i amlosgi.
Rhoddir esboniad o'r termau 'gwahaniaethu', 'afonyddu' a 'nodwedd a ddiogelir' yn yr atodiad cyfreithiol ar dudalennau 6-7.
Er enghraifft, mae hyn yn golygu na ddylech wrthod darparu gwasanaethau meddygol i glaf oherwydd bod y claf yn bwriadu ymgymryd â phroses ailbennu rhywedd neu eu bod yn mynd trwy broses o'r fath ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae modd i chi benderfynu peidio darparu neu gyfeirio unrhyw gleifon (gan gynnwys cleifon y maent yn bwriadu ymgymryd â phroses ailbennu rhywedd) am wasanaethau penodol y mae gennych chi wrthwynebiad cydwybodol iddynt, er enghraifft, triniaethau sy'n achosi anffrwythlondeb.
Er enghraifft, er y byddwch yn penderfynu peidio darparu dulliau atal cenhedlu (gan gynnwys atal cenhedlu brys) i unrhyw glaf, mae hyn yn golygu nad oes modd i chi fod yn fodlon eu presgripsiynu i fenywod sy'n byw yn unol â'ch credoau chi yn unig (ee trwy bresgripsiynu ar gyfer menywod priod ond nid ar gyfer menywod di-briod).
Ac eithrio pan na fydd y gofynion hynny yn cydfynd gyda deddfwriaeth neu pan fo'r gyfraith yn cynnig amddiffyniad ar sail cydwybod.
Mae hwn yn ofyniad dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw 'addasiadau rhesymol' yn golygu newidiadau i'r amgylchedd ffsegol yn unig. Gall gynnwys, er enghraifft, bod yn hyblyg ynghylch amser neu hyd apwyntiad, a gwneud trefniadau ar gyfer y sawl y mae ganddynt anawsterau cyfathrebu, megis nam ar eu clyw. Am ragor o wybodaeth, trowch Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wefan.
Pan fyddwch yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profad i wneud hynny mewn ffordd ddiogel.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud penderfyniadau a chaniatâd Llundain, CMC.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2010) Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau Llundain, CMC. Gweler paragraffau 13 a 40 – 46.
Yma, mae 'rhieni' yn golygu'r holl rai sy'n meddu ar gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Yn ogystal, rhaid i chi ddilyn ein harweiniad ynghylch trin cleifon 0-18 oed. Cyngor Meddygol Cyffredinol (2007) 0–18 oed Llundain, CMC, paragraffau 34 – 35.
Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821; Re JT (Oedolyn: Gwrthod Triniaeth Feddygol) [1998] 1 FLR 48 ac Re AK (Triniaeth Feddygol: Caniatâd) [2001] FLR 129.
Er enghraifft, mae gan nifer o Dystion Jehofa wrthwynebiadau cryf i ddefnyddio gwaed a chynhyrchion gwaed, a bydd nifer yn eu gwrthod hyd yn oed os byddant yn marw o ganlyniad efallai. Mae modd i bwyllgorau cyswllt ysbyty a sefydlwyd gan Gymdeithas y Ddisgwylfa (corff llywodraethu Tystion Jehofa) gynnig cyngor ynghylch polisi cyfredol y Gymdeithas. Yn ogystal, maent yn cadw manylion am ysbytai a meddygon y mae ganddynt brofad ym maes gweithdrefnau meddygol 'heb waed'.
Mae cydsyniad un rhiant yn ddigonol, gweler Re N (Plentyn: Crefydd: Tyst Jehofa) [2011] EWHC 3737 (Fam); C (Plentyn: Ymwneud â Chrefydd Tystion Jehofa) [2017] EWFC B29.
Rhaid i chi ddilyn ein harweiniad ynghylch cynnal terfyn proffesiynol rhyngoch chi a'ch claf. Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Cynnal terfyn proffesiynol rhyngoch chi a'ch claf Llundain, CMC.