Gweithio gyda’r egwyddorion a’r modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau
Rôl perthnasau, partneriaid ac eraill sy’n agos i’r claf
Gall y bobl sy’n agos i glaf gyflawni rôl sylweddol wrth sicrhau bod y claf yn cael gofal o ansawdd uchel wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hoes, mewn lleoliadau cymunedol ac yn yr ysbyty. Bydd nifer o rieni, perthnasau agos eraill a phartneriaid, yn ogystal â gofalwyr cyflogedig a digyflog, yn ymwneud gyda’r broses o drafod materion gyda chlaf, eu galluogi i wneud dewisiadau, eu cynorthwyo i gyfleu eu dymuniadau, neu i gymryd rhan uniongyrchol yn eu triniaeth a’u gofal. Mewn rhai achosion, efallai y byddant wedi cael pŵer cyfreithiol gan y claf, neu’r llys, i wneud penderfyniadau gofal iechyd pan na fydd y claf yn meddu ar alluedd i wneud eu dewisiadau eu hunain.
Mae’n bwysig eich bod chi ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd yn cydnabod rôl a chyfrifoldebau pobl sy’n agos i’r claf. Dylech sicrhau, gymaint ag y bo modd, bod yr angen iddynt gael cymorth yn cael ei ddiwallu a bod eu teimladau’n cael eu parchu, er bod yn rhaid i’r gofal barhau i ganolbwyntio ar y claf.
Efallai y bydd y rhai sy’n agos at glaf yn dymuno cael gwybodaeth ynghylch diagnosis y claf ac ynghylch datblygiad tebygol y cyflwr neu’r clefyd, ac efallai y bydd angen iddynt gael gwybodaeth o’r fath er mwyn eu helpu i ddarparu gofal ac i gydnabod ac ymateb i newidiadau yng nghyflwr y claf. Os bydd claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniadau, dylech sicrhau eu bod yn cytuno i chi rannu’r wybodaeth hon. Os na fydd claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad ynghylch rhannu gwybodaeth, mae’n rhesymol tybio, oni bai eu bod yn mynegi fel arall, y byddent yn dymuno i’r rhai agosaf atynt i gael gwybodaeth berthnasol am eu cyflwr cyffredinol a’u prognosis. (Ceir canllawiau manylach yn Cyfrinachedd yn cynnwys rhagor o arweiniad.) Dylech holi a yw claf wedi enwebu rhywun sy’n agos iddynt i gael gwybodaeth ac i ymgynghori gyda nhw ynghylch eu triniaeth.
Wrth ddarparu gwybodaeth, rhaid i chi wneud eich gorau i esbonio materion clinigol mewn ffordd y bydd y person yn gallu ei deall, gan drin materion anodd neu faterion a allai beri gofid ynghylch gofal a phrognosis y claf, mewn ffordd ystyriol a sensitif. (Gweler paragraffau paragraphs 33 - 36 ynghylch delio gydag anawsterau emosiynol a ffynonellau cymorth posibl.)
Efallai y bydd rhai o aelodau’r tîm gofal iechyd neu bobl sy’n agos i’r claf yn ei chael hi’n anoddach ystyried rhoi’r gorau i roi triniaeth ymestyn bywyd, na phenderfynu peidio cychwyn rhoi’r driniaeth yn y lle cyntaf. Gallai hyn fod oherwydd y gofid emosiynol sy’n gallu cyd-fynd â phenderfyniad i roi’r gorau i roi triniaeth ymestyn bywyd, neu oherwydd y byddent yn teimlo’n gyfrifol am farwolaeth y claf. Fodd bynnag, ni ddylech ganiatáu i’r pryderon hyn fod yn drech na’ch barn glinigol, gan arwain at sefyllfa lle y byddwch naill ai’n peidio dechrau rhoi triniaeth a allai fod o ryw fudd i’r claf, neu’n parhau i roi triniaeth nad yw’n cynnig unrhyw fudd cyffredinol.
Dylech esbonio i’r rhai sydd agosaf i’r claf y bydd cyflwr y claf yn cael ei fonitro a’i reoli er mwyn sicrhau eu bod yn gyffyrddus a’u bod yn rhydd o boen a symptomau gofidus eraill gymaint ag y bo modd, beth bynnag fo’r penderfyniadau a wneir ynghylch darparu triniaethau penodol. Yn ogystal, dylech nodi’n eglur y bydd penderfyniad i roi’r gorau i ddarparu triniaeth neu i beidio dechrau cynnig triniaeth yn cael ei hadolygu os bydd y sefyllfa glinigol yn newid.
Dylech gynnig cyngor ynghylch unrhyw gymorth a allai fod ar gael i’r claf, y rhai sy’n agos iddynt ac i aelodau’r tîm gofal iechyd, os byddant o’r farn bod y sefyllfa yn heriol ar lefel emosiynol. Mae ffynonellau cymorth yn cynnwys gwasanaethau eiriolaeth a chymorth ar gyfer cleifion a gofalwyr, gwasanaethau cwnsela a chaplaniaeth, a rhwydweithiau cymorth moeseg.
Dylech wneud eich gorau i sicrhau bod cleifion y gallent fod yn arbennig o agored i niwed neu y gallent gael eu rhoi dan bwysau ar yr adeg hon, yn cael eu cynorthwyo i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Os ydych chi’n pryderu nad yw claf yn gallu gwneud penderfyniad o’u gwirfodd, gallwch weld cyngor manwl ynghylch sut i reoli hyn ym mharagraffau 69-75 Gwneud penderfyniadau a chaniatâd.
Wrth drafod y materion gyda phobl nad ydynt yn meddu ar awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran claf heb alluedd, dylech nodi’n eglur mai eu rôl nhw yw cynghori’r tîm gofal iechyd ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd hysbys neu debygol y claf. Ni ddylech roi’r argraff iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad.
Gweithio mewn timau ac ar draws terfynau gwasanaethau
Caiff y rhan fwyaf o’r driniaeth a’r gofal tuag at ddiwedd oes rhywun ei darparu gan dimau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol, sy’n cydweithio er mwyn diwallu anghenion cleifion wrth iddynt symud rhwng gwahanol leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a manteisio ar wasanaethau gwahanol. Mae hyn yn gallu cynnwys practisau meddygon teulu, cartrefi gofal lleol, fferyllfeydd, hosbisau, gwasanaethau ambiwlans, ysbytai lleol, a gwasanaethau cymorth awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. Rhaid i chi gyfathrebu mewn ffordd effeithiol gydag aelodau eraill y tîm iechyd a gofal cymdeithasol neu dimau sy’n ymwneud gyda’r gofal ar gyfer claf, gan rannu’r wybodaeth angenrheidiol gyda nhw er mwyn darparu gofal diogel, effeithiol ac amserol i’r claf. (Gweler paragraphs 75 - 77 ynghylch cofnodi a chyfleu penderfyniadau). Wrth ystyried dewisiadau ynghylch darparu triniaeth a gofal ac wrth adolygu cynnydd y claf, dylech ymgynghori gydag aelodau eraill y tîm a allai fod yn meddu ar wybodaeth ynghylch y claf neu wybodaeth a phrofiad perthnasol a allai helpu wrth reoli neu drin cyflwr y claf.
Rhaid i chi wneud cofnod o’r penderfyniadau a wnaethpwyd ynghylch triniaeth a gofal claf, a’r sawl yr ymgynghorwyd â nhw mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny.
Rhaid i chi wneud eich gorau i sicrhau bod yr holl rai yr ymgynghorwyd â nhw, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gofal, yn cael eu hysbysu o’r penderfyniadau a’u bod yn ymwybodol o’r nodau a’r cynllun gofal y cytunwyd arno, oni bai bod y claf yn nodi na ddylid hysbysu unigolion penodol.
Dylech fwrw golwg dros y trefniadau trosglwyddo lle’r ydych yn gweithio, a defnyddio’r trefniadau a’r systemau sydd ar gael er mwyn storio a chyfnewid gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod y cynllun gofal y cytunwyd arno yn cael ei rannu gyda’r tîm gofal iechyd, gyda gofalwyr cyflogedig a digyflog y tu allan i’r tîm, a gyda’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â darparu gofal ar gyfer y claf. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo cleifion yn symud rhwng gwahanol leoliadau gofal (ysbyty, ambiwlans, cartref gofal) ac yn ystod unrhyw gyfnod y tu allan i oriau arferol. Gallai methu cyfleu rhywfaint neu’r holl wybodaeth berthnasol arwain at driniaeth amhriodol yn cael ei rhoi (er enghraifft, ni fydd penderfyniadau ynghylch DNACPR yn hysbys), a methiant i ddiwallu anghenion y claf (er enghraifft, methiant i ystyried eu dymuniad i aros yn eu cartref).
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall cwmpas a chyfrifoldebau eich rôl chi o fewn y tîm gofal iechyd, rolau a sgiliau arbenigol aelodau eraill y tîm iechyd a gofal cymdeithasol, a’r llinellau atebolrwydd dros ofal y claf.17 Dylech gymryd camau i egluro unrhyw amwysedd ynghylch eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau unigolion eraill gyda’r sefydliad sy’n eich contractio neu sy’n eich cyflogi, os bydd gennych bryderon y gallai’r amwysedd beryglu diogelwch cla.18
Gweler Arfer meddygol da (2024), paragraffau 16, 19, 21,23,28,32,34,35,37,38,48-51,53,61-63,65,66,74.
Mae arweiniad CMC, Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012) yn darparu cyngor manylach.
Ffurfio barn glinigol gadarn
Y man cychwyn er mwyn gwneud penderfyniadau da yw rhoi ystyriaeth ofalus i sefyllfa glinigol y claf, os darparir gofal mewn lleoliad cymunedol neu mewn ysbyty. Rhaid i chi gynnal asesiad trylwyr o gyflwr y claf, gan ystyried y prognosis tebygol. Mae amcangyfrif yr adeg pan fydd claf yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn gallu bod yn dasg anodd, a dylech ystyried ystod o bosibiliadau wrth gynllunio gofal.
Dylech nodi dewisiadau posibl o ran triniaethau, wedi’u seilio ar:
- y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf ynghylch effeithiolrwydd, sgîl- effeithiau a risgiau eraill
- canllawiau clinigol perthnasol ynghylch sut i drin a rheoli cyflwr y claf, neu gleifion y mae ganddynt ffactorau risg sylfaenol tebyg, megis y rhai a gyhoeddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a Scottish Intercollegiate Guidelines Network (SIGN).
Yn ogystal, rhaid i chi roi ystyriaeth gynnar i anghenion gofal lliniarol y claf, a chymryd camau i reoli unrhyw boen, diffyg anadl, aflonyddwch neu symptomau corfforol neu seicolegol eraill sy’n peri gofid, y gallant fod yn eu dioddef, yn ogystal â pharhau i adolygu statws eu maeth a’u hydradiad.
Rhaid i chi geisio cyngor19 neu ail farn20 cydweithiwr sy’n meddu ar brofiad perthnasol (a allai fod mewn maes arbenigol arall megis gofal lliniarol, neu ddisgyblaeth arall, megis nyrsio):
- os ydych chi a’r tîm gofal iechyd yn meddu ar brofiad cyfyngedig o’r cyflwr
- os ydych yn ansicr ynghylch y ffordd o reoli symptomau claf mewn ffordd effeithiol
- os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch ystod y dewisiadau, neu fanteision, beichiau a risgiau dewis penodol ar gyfer y claf unigol
- os ceir gwahaniaeth barn ddifrifol rhyngoch chi a’r claf, o fewn y tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm a’r rhai sy’n agos i glaf heb alluedd, ynghylch y dewis yr ydych yn ei ffafrio ar gyfer triniaeth a gofal claf
- os penderfynir y dylid rhoi’r gorau i roi maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol neu na ddylid cychwyn ei roi yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau paragraphs 119-120 .
Os bydd claf wedi cyrraedd cyfnod olaf clefyd neu gyflwr, ond rydych o’r farn na ddisgwylir iddynt farw ymhen oriau neu ddyddiau, rhaid darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol iddo os byddai’n cynnig budd cyffredinol, gan ystyried credoau a gwerthoedd y claf, unrhyw gais a wnaethpwyd yn flaenorol am faeth neu hydradiad trwy diwb neu drip ac unrhyw safbwyntiau eraill y maent wedi’u mynegi yn flaenorol ynghylch eu gofal. Rhaid rhoi pwys ar gais y claf a phan fo’r cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, hwn fydd y ffactor penderfynodol fel arfer.
Rhaid i chi asesu anghenion y claf am faeth a hydradiad ar wahân. Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am ei driniaeth a’i ofal a’ch bod o’r farn na fyddai darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnig budd cyffredinol i’r claf, gallwch ddod i’r casgliad na ddylid cychwyn rhoi’r driniaeth ar yr adeg honno, neu y dylid rhoi’r gorau i’w rhoi. Dylech esbonio’ch safbwynt i’r claf, os yw hynny’n briodol, ac i’r rhai sy’n agos iddynt, gan ymateb i unrhyw gwestiynau neu bryderon y byddant yn eu mynegi.
Fel arfer, dylai’r cyngor gael ei ddarparu gan gydweithiwr profiadol y tu allan i’r tîm. Gellir gofyn am gyngor dros y ffôn, yn ôl yr angen, ar yr amod eich bod wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cydweithiwr hwnnw ynghylch cyflwr y claf.
Dylai ail farn gael ei darparu gan glinigwr uwch y mae ganddynt brofiad o gyflwr y claf, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gofal y claf. Dylid ei seilio ar archwiliad o’r claf a gynhelir gan y clinigwr.
Esbonio’r materion clinigol
Dylech ystyried dewisiadau o ran triniaethau gyda chleifion (a, phan fo hynny’n briodol, gyda’r rhai sy’n agos atynt), gan ganolbwyntio ar nodau gofal, a chan esbonio’r manteision, y beichiau a’r risgiau tebygol. Dylech gofio na fydd cleifion a’r rhai sydd agosaf atynt bob amser yn meddu ar ddealltwriaeth eglur neu realistig o’r diagnosis neu o fanteision, beichiau a risgiau triniaeth efallai. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer triniaethau megis adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR) a maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol, lle y gallai gwybodaeth y cyhoedd am y cymhlethdodau clinigol fod yn gyfyngedig.
Yn ogystal, gallai cleifion a’r rhai sy’n agos atynt ffurfio casgliadau anghywir o’r derminoleg a ddefnyddir gan staff gofal iechyd ynghylch risgiau neu ganlyniadau disgwyliedig y triniaethau hyn. Dylech esbonio’r dewisiadau o ran triniaethau mewn ffordd y gallant ei deall, gan esbonio unrhyw derminoleg meddygol neu derminoleg technegol arall y byddwch yn ei defnyddio.
Dylech fod yn agored am unrhyw ansicrwydd sylfaenol, gan bod hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a lleihau’r posibilrwydd y bydd gwrthdaro yn codi yn nes ymlaen. Gallwch weld cyngor penodol ynghylch sut i gyfathrebu mewn ffordd eglur ac effeithiol gyda chleifion a’r rhai sy’n agos iddynt, yn enwedig wrth esbonio’r sgîl-effeithiau neu’r risgiau eraill sy’n gysylltiedig gyda thriniaethau, trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd (paragraffau 10-13, paragraffau 16-30, paragraffau 41 and paragraffau 66-67)).
Delio gydag ansicrwydd
Os ceir ansicrwydd rhesymol ynghylch a fydd triniaeth benodol yn cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd i wneud y penderfyniad, dylid cychwyn y driniaeth er mwyn gallu cael asesiad mwy eglur.
Rhaid i chi gynnig esboniad eglur i’r rhai sy’n agos i’r claf ac i’r tîm gofal iechyd, y bydd y driniaeth yn cael ei hadolygu a’i monitro, ac y gallai gael ei hatal yn nes ymlaen os na fydd yn effeithiol neu os bydd yn rhy feichus i’r claf mewn perthynas â’r manteision. Dylech esbonio’r hyn y bydd y penderfyniad ynghylch a fydd y driniaeth yn parhau neu’n cael ei hatal, yn cael ei seilio arno.
Anawsterau emosiynol wrth wneud penderfyniadau ar ddiwedd oes
Efallai y bydd rhai o aelodau’r tîm gofal iechyd neu bobl sy’n agos i’r claf yn ei chael hi’n anoddach ystyried rhoi’r gorau i roi triniaeth ymestyn bywyd, na phenderfynu peidio cychwyn rhoi’r driniaeth yn y lle cyntaf. Gallai hyn fod oherwydd y gofid emosiynol sy’n gallu cyd-fynd â phenderfyniad i roi’r gorau i roi triniaeth ymestyn bywyd, neu oherwydd y byddent yn teimlo’n gyfrifol am farwolaeth y claf. Fodd bynnag, ni ddylech ganiatáu i’r pryderon hyn fod yn drech na’ch barn glinigol, gan arwain at sefyllfa lle y byddwch naill ai’n peidio dechrau rhoi triniaeth a allai fod o ryw fudd i’r claf, neu’n parhau i roi triniaeth nad yw’n cynnig unrhyw fudd cyffredinol.
Dylech esbonio i’r rhai sydd agosaf i’r claf y bydd cyflwr y claf yn cael ei fonitro a’i reoli er mwyn sicrhau eu bod yn gyffyrddus a’u bod yn rhydd o boen a symptomau gofidus eraill gymaint ag y bo modd, beth bynnag fo’r penderfyniadau a wneir ynghylch darparu triniaethau penodol. Yn ogystal, dylech nodi’n eglur y bydd penderfyniad i roi’r gorau i ddarparu triniaeth neu i beidio dechrau cynnig triniaeth yn cael ei hadolygu os bydd y sefyllfa glinigol yn newid.
Dylech gynnig cyngor ynghylch unrhyw gymorth a allai fod ar gael i’r claf, y rhai sy’n agos iddynt ac i aelodau’r tîm gofal iechyd, os byddant o’r farn bod y sefyllfa yn heriol ar lefel emosiynol. Mae ffynonellau cymorth yn cynnwys gwasanaethau eiriolaeth a chymorth ar gyfer cleifion a gofalwyr, gwasanaethau cwnsela a chaplaniaeth, a rhwydweithiau cymorth moeseg.
Dylech wneud eich gorau i sicrhau bod cleifion y gallent fod yn arbennig o agored i niwed neu y gallent gael eu rhoi dan bwysau ar yr adeg hon, yn cael eu cynorthwyo i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Os ydych chi’n pryderu nad yw claf yn gallu gwneud penderfyniad o’u gwirfodd, gallwch weld cyngor manwl ynghylch sut i reoli hyn ym mharagraffau 69-75 Gwneud penderfyniadau a chaniatâd.
Cyfyngiadau o ran adnoddau
Gallai penderfyniadau ynghylch pa ddewisiadau o ran triniaeth y gellir eu cynnig, gael eu cymhlethu gan gyfyngiadau o ran adnoddau – megis cyfyngiadau ariannol ar driniaethau penodol yn GIG, neu’r ffaith nad oes gwelyau gofal dwys ar gael. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i chi ddarparu gofal o safon mor dda ag y gallwch i’r claf, gan sicrhau cydbwysedd weithiau rhwng dyletswyddau tuag at glaf unigol, y boblogaeth ehangach, cyrff cyllido a chyflogwyr, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.21 Yn aml, ni fydd ateb syml. Yn ddelfrydol, dylid gwneud penderfyniadau ynghylch manteisio ar driniaethau ar sail polisi lleol neu genedlaethol y cytunwyd arno, sy’n ystyried y goblygiadau o ran hawliau dynol. Mae risg y bydd penderfyniadau a wneir ar sail achosion unigol, heb gyfeirio at bolisi y cytunwyd arno, yn cyflwyno elfennau o wahaniaethu annheg neu fethiant i ystyried hawliau cyfreithiol y claf yn gywir (gweler paragraffau paragraphs 7 - 9 ).
Rhaid i chi roi gofal o’r un ansawdd i gleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, ag y byddwch yn ei roi i bob claf arall. Rhaid i chi drin cleifion a’r rhai sy’n agos atynt gydag urddas, parch a thrugaredd, yn enwedig pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd a phenderfyniadau anodd ynghylch gofal. Rhaid i chi barchu eu preifatrwydd a’u hawl i gyfrinachedd.
Mae rhai grwpiau o gleifion yn gallu wynebu anghydraddoldeb wrth geisio manteisio ar wasanaethau gofal iechyd ac o ran ansawdd y gofal a ddarparir. Mae’n hysbys bod rhai pobl hŷn, pobl y mae ganddynt anableddau a phobl o leiafrifoedd ethnig wedi cael gofal o safon wael tuag at ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn gallu bod o ganlyniad i rwystrau corfforol, rhwystrau cyfathrebu a rhwystrau eraill, a chredoau anghywir neu ddiffyg gwybodaeth ymhlith y rhai sy’n darparu gwasanaethau, ynghylch anghenion a buddiannau’r claf. Mae cyfreithiau cydraddoldeb, galluedd a hawliau dynol yn ategu’ch dyletswydd foesegol i drin cleifion mewn ffordd deg.
Os ydych yn cymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes rhywun, rhaid i chi fod yn ymwybodol o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’i phrif
ddarpariaethau, gan ei bod yn debygol y bydd eich penderfyniadau chi yn ymwneud â’r egwyddorion a’r hawliau sylfaenol a nodir yn y Ddeddf.5
Arfer meddygol da (2024), paragraff 20.
Os bydd cyfyngiadau ar adnoddau yn ffactor, rhaid i chi:
- ddarparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael
- bod yn gyfarwydd gydag unrhyw bolisïau lleol a chenedlaethol sy’n nodi meini prawf y cytunwyd arnynt er mwyn manteisio ar y driniaeth benodol (megis fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol a chanllawiau NICE a SIGN)
- sicrhau bod penderfyniadau a wneir ynghylch blaenoriaethu cleifion yn deg ac wedi’u seilio ar angen clinigol a gallu’r claf i gael budd, ac nid ar sail oedran, hil, statws cymdeithasol neu ffactorau eraill yn unig, a allai gyflwyno sefyllfa wahaniaethol o ran manteisio ar ofal
- bod yn agored ac yn onest gyda’r claf (os ydynt yn meddu ar alluedd), neu’r rhai sy’n agos iddynt, a gweddill y tîm gofal iechyd, ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a’r meini prawf ar gyfer blaenoriaethu cleifion mewn achosion unigol.
Ni ddylech roi’r gorau i roi triniaeth neu benderfynu peidio dechrau rhoi triniaeth pan fyddai hyn yn arwain at risg sylweddol i’r claf, a phan fo’r unig gyfiawnhad dros wneud hynny yn ymwneud â chyfyngiadau ar adnoddau. Os bydd gennych reswm da dros gredu bod diogelwch claf yn cael ei beryglu gan adnoddau annigonol, ac nid oes gennych chi y grym i gywiro’r sefyllfa, dylech dynnu sylw’r unigolyn neu’r sefydliad priodol at y sefyllfa, gan ddilyn ein harweiniad am Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012).
Ystyried manteision, beichiau a risgiau triniaethau ac osgoi tuedd
Pwyso a mesur y manteision, y beichiau a’r risgiau
Rhaid pwyso a mesur manteision triniaeth a allai ymestyn bywyd, gwella cyflwr claf neu reoli eu symptomau, yn erbyn y beichiau a’r risgiau i’r claf hwnnw, cyn y gallwch ffurfio barn ynghylch ei gallu i gynnig budd iddynt. Er enghraifft, efallai na fydd o fudd i glaf gael triniaethau a allai ymestyn bywyd, ond sy’n feichus, yn ystod diwrnodau olaf eu hoes, pan fo ffocws y gofal yn newid o gynnig triniaeth weithredol, i reoli symptomau’r claf a’u cadw’n gyffyrddus.
Nid yw’r manteision, y beichiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thriniaeth wedi’u cyfyngu i ystyriaethau clinigol bob amser, a dylech fod yn ofalus wrth ystyried y ffactorau eraill sy’n berthnasol i amgylchiadau pob claf.
Bydd cleifion sy’n meddu ar alluedd yn ffurfio’u barn eu hunain ynghylch y ffactorau personol y maent yn dymuno’u hystyried a’r pwys y maent yn dymuno’i roi ar y rhain, ochr yn ochr â’r ystyriaethau clinigol. paragraph 14)
Os yw claf yn meddu ar alluedd7 i wneud penderfyniad dros ei, dyma’r model a fydd yn berthnasol wrth benderfynu:
- Byddwch chi a’r claf yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried ei hanes meddygol, ei safbwyntiau, ei brofiad a’i wybodaeth.
- Byddwch chi'n manteisio ar brofiad a gwybodaeth arbenigol a barn glinigol, yn ogystal â safbwyntiau a dealltwriaeth y claf o’i gyflwr, i nodi pa ddewisiadau er mwyn ymchwilio, trin neu reoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio cymryd unrhyw gamau) sy’n briodol yn glinigol. Byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r claf, gan nodi manteision, beichiau a risgiau posibl pob dewis. Efallai byddwch yn argymell dewis penodol sy’n cyfateb â’r dewis gorau i’r claf yn eich barn, ond rhaid ichi beidio â rhoi pwysau ar y claf i dderbyn eich cyngor.
- Bydd y claf yn ystyried manteision, beichiau a risgiau posibl y dewisiadau amrywiol, yn ogystal ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol iddo. Bydd y claf yn penderfynu rhwng y dewisiadau. Yn ogystal, bydd ganddo’r hawl i dderbyn neu wrthod dewis am reswm a allai ymddangos yn afresymol i chi, neu am ddim rheswm o gwbl.
- Os bydd y claf yn gofyn am driniaeth na fyddai o fudd cyffredinol iddo yn eich barn chi, dylech ystyried ei resymau dros ofyn am hyn, ei ddealltwriaeth o’r hyn y byddai’r driniaeth/gofal yn ei olygu, a’i ddisgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd canlyniad y drafodaeth hon yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl trafod y sefyllfa, os byddwch chi o’r farn na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r claf, gan ystyried pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael, gan gynnwys hawl y claf i geisio ail farn.
Yn achos cleifion heb alluedd, bydd eu dirprwy cyfreithiol yn ffurfio’r barnau hyn ar ôl cael cyngor gennych chi ac eraill sy’n ymwneud â gofal y claf. Os ydych chi yn gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch budd cyffredinol, mae’n debygol y bydd y rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau’r tîm gofal iechyd yn meddu ar wybodaeth ynghylch dymuniadau, gwerthoedd a dewisiadau ac unrhyw ffactorau personol eraill y dylid eu hystyried. (Gweler y model ar gyfer gwneud penderfyniadau ym paragraph 16.) Yn ogystal, efallai y bydd modd i chi weld gwybodaeth am ddymuniadau’r claf yn eu nodiadau, yn eu cynllun gofal ymlaen llaw neu mewn cofnod arall, megis cais ymlaen llaw am driniaeth neu benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth.
Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:
- Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr.
- Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
- Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
- Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
- Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
- Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
- Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
- Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
- Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.
Osgoi tuedd
Efallai na fydd rhai cleifion, a’r rhai sy’n agos iddynt, yn ymwybodol o ystod y gwasanaethau a’r triniaethau sydd ar gael iddynt, ac fe allai hyn gael effaith ar y dewisiadau a fyddai’n cynnig budd iddynt yn eu barn nhw. Dylech deimlo’n fodlon bod y claf yn meddu ar wybodaeth a chymorth digonol er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth fanteisio ar ofal a thriniaeth fuddiol.
Gallai fod yn arbennig o anodd ffurfio barn ynghylch budd cyffredinol triniaeth os yw’r claf yn cael problemau wrth gyfleu eu dymuniadau a’u dewisiadau, neu pan fyddant heb alluedd. Mewn achosion o’r fath, ni ddylech ddibynnu ar eich gwerthoedd chi neu werthoedd y bobl hynny yr ymgynghorwyd â nhw ynghylch y claf. Dylech gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn cynyddu gallu’r claf i gymryd rhan yn y broses o benderfynu gymaint ag y bo modd. Gallwch weld cyngor manwl ynghylch y ffordd o fynd ati yn hyn o beth trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd..
Rhaid i chi fod yn ofalus na fyddwch yn dibynnu ar eich safbwyntiau personol ynghylch ansawdd bywyd claf, gan osgoi ffurfio barn ar sail tybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth sydd ymhell o fod yn dda ynghylch anghenion gofal iechyd grwpiau penodol, megis pobl hŷn a’r rhai sydd ag anableddau.
Datrys anghytundebau
Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.
Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli.
Mewn sefyllfaoedd pan fo claf sy’n meddu ar alluedd i benderfynu yn gofyn am driniaeth, ac nid ydynt yn derbyn eich barn chi na fyddai’r driniaeth yn briodol ar lefel glinigol, gallai’r camau a awgrymir uchod er mwyn datrys anghytundeb fod o gymorth hefyd.