Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Gwybodaeth am ein callawiau thriniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yw’r rheolydd statudol ar gyfer y proffesiwn meddygol yn y DU, ac mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn) sy’n gweithio ym mhob un o bedair gwlad y DU. Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.

Seiliwyd yr canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, ar egwyddorion moesegol cyfarwydd, sy’n cynnwys rhwymedigaethau gweithwyr meddygol proffesiynol i ddangos parch tuag at fywyd dynol; diogelu iechyd cleifion; trin cleifion gyda pharch ac urddas; a sicrhau eu bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal ar gyfer eu cleifion. Mae’n ymhelaethu ar yr egwyddorion arfer da yn nogfennau Arfer meddygol da (2024) a Gwneud penderfyniadau a chydsynio (2020) y GMC, gan ddisodli’r llyfryn Gwrthod a Rhoi’r Gorau i Roi Triniaethau Estyn Bywyd (2002).

Mae’r canllawiau hyn yn ystyried y gyfraith sydd mewn grym ar draws y DU ar hyn o bryd, ac mae’n cyd-fynd â hi, gan gynnwys y cyfreithiau ynghylch gwneud penderfyniadau ar ran cleifion heb alluedd (Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005); y gyfraith sy’n gwahardd lladd (gan gynnwys ewthanasia) a chynorthwyo hunanladdiad; a gofynion Deddf Hawliau Dynol 1998. Fodd bynnag, nid diben y ddogfen hon yw cynnig datganiad ynghylch yr egwyddorion cyfreithiol, neu ddisodli cyngor cyfreithiol. Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol geisio’r cyngor diweddaraf pryd bynnag y ceir ansicrwydd ynghylch sut y byddai penderfyniad penodol yn cael ei ystyried yn ôl y gyfraith o fewn yr awdurdodaeth y maent yn gwneud gwaith meddygol ynddi.

Cyfeiriwyd y canllawiau hyn at feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Fodd bynnag, fe allai helpu cleifion a’r cyhoedd i ddeall yr hyn i’w ddisgwyl gan  y gweithwyr meddygol proffesiynol hyn mewn amgylchiadau pan allai cleifion a’r rhai sy’n agos atynt fod yn arbennig o agored i niwed a phan fydd angen cymorth arnynt. Yn ogystal, efallai y bydd aelodau’r tîm gofal iechyd yn gallu cael budd o’r canllawiau hyn, o ystyried eu rôl hanfodol wrth ddarparu gofal tuag at ddiwedd oes.

Sut y mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i chi

Yn yr arweiniad hwn, defnyddir y termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech chi’ yn y ffyrdd canlynol:

  • Caiff ‘rhaid i chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei
    chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
  • Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
  • ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
  • na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth

Diben y troednodion, y cyfeiriadau, yr ôl-nodion a’r atodiad cyfreithiol yw cynnig gwybodaeth yn unig, a allai fod o gymorth fel gwybodaeth ychwanegol am y cefndir. Bwriad y cyfeiriadau at gyhoeddiadau gan sefydliadau eraill yw cynnig enghreifftiau o’r adnoddau cenedlaethol sydd ar gael yn unig.

Nid yw’r canllawiau hyn yn hollgynhwysfawr. Felly, dylech ddefnyddio eich crebwyll i gymhwyso’r egwyddorion sy’n disgrifio’r sefyllfaoedd rydych chi’n eu hwynebu yn eich ymarfer eich hun.

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn achos difrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i weithredu’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn sôn mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn berthnasol i’n prosesau addasrwydd i ymarfer, arfarnu ac ailddilysu ar ddechrau Arfer meddygol da.