Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR)

128

Pan fydd rhywun yn dioddef ataliad sydyn y galon neu’r system resbiradol, gellir defnyddio CPR mewn ymgais i geisio ailgychwyn eu calon neu eu system anadlu, gan adfer eu cylchrediad. Mae ymyriadau CPR yn ymyrrol ac yn cynnwys cywasgu’r frest, rhoi siociau trydanol gan ddiffibriliwr, chwistrelliad cyffuriau ac awyriad yr ysgyfaint. Os rhoddir cynnig arno yn ddi-oed, mae cyfradd lwyddo CPR yn dda mewn rhai amgylchiadau. Yn gyffredinol fodd bynnag, bydd cyfradd lwyddo CPR yn isel iawn ac mae beichiau a risgiau CPR yn cynnwys niwed i organau mewnol a thorri asennau, a chanlyniadau clinigol niweidiol i’r claf megis niwed hypocsig i’r ymennydd neu fwy o anabledd corfforol. Os na fydd defnyddio CPR yn llwyddo i ailgychwyn y galon neu’r system anadlu, gan adfer cylchrediad, efallai y bydd yn golygu y bydd y claf yn marw mewn ffordd anurddasol a thrawmatig.

Pryd y dylid ystyried gwneud penderfyniad i Beidio Rhoi Cynnig ar CPR (DNACPR)

129

Os disgwylir y bydd ataliad y galon neu’r system resbiradol yn digwydd fel rhan o’r broses farw ac ni fydd CPR yn llwyddo i ailgychwyn anadlu a chylchrediad y gwaed, gall gwneud a chofnodi penderfyniad ymlaen llaw i beidio rhoi cynnig ar CPR helpu i sicrhau bod y claf yn marw mewn ffordd urddasol a heddychlon. Yn ogystal, fe allai helpu i gyflawni dymuniad y claf i dreulio eu horiau neu eu diwrnodau olaf yn y man lle y byddai’n well ganddynt farw. Gelwir y cynlluniau rheoli hyn yn benderfyniadau Peidio Rhoi Cynnig ar CPR (DNACPR), a’r ffordd orau o’u gwneud yw yng nghyd-destun ehangach cynllunio gofal ymlaen llaw (gweler paragraffau 50-55 a’r eirfa). Nid yw penderfyniad DNACPR a gofnodwyd yn gyfreithiol rwymol ynddo’i hun, a dylid ei ystyried fel asesiad clinigol a phenderfyniad, a wnaethpwyd ac a gofnodwyd ymlaen llaw gan y person sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, er mwyn arwain penderfyniadau clinigol os bydd ataliad ar galon a system resbiradol claf.

130

Mewn achosion lle y gallai CPR fod yn llwyddiannus wrth ailgychwyn anadlu a chylchrediad y gwaed, efallai na fydd yn cael ei ystyried yn briodol ar lefel glinigol o hyd oherwydd y potensial o weld canlyniadau clinigol gwael. Wrth ystyried a ddylid rhoi cynnig ar CPR neu beidio, dylech ystyried manteision, beichiau a risgiau triniaeth y bydd ei hangen ar y claf efallai os bydd CPR yn arwain at gylchrediad digymell yn dychwelyd. Mewn achosion lle y byddwch yn asesu bod triniaeth o’r fath yn annhebygol o fod briodol ar lefel glinigol, gallwch ddod i’r casgliad na ddylid rhoi cynnig ar CPR. Efallai y bydd rhai cleifion sy’n meddu ar alluedd i wneud eu penderfyniadau eu hunain, yn dymuno gwrthod CPR; neu yn achos cleifion heb alluedd, efallai y bernir na fyddai rhoi cynnig ar CPR yn cynnig budd cyffredinol iddynt. Fodd bynnag, mae’n gallu bod yn anodd pennu dymuniadau’r claf neu i gael gwybodaeth berthnasol am eu cyflwr sylfaenol er mwyn ffurfio barn gytbwys ar yr adeg pan fyddant yn dioddef ataliad y galon neu’r system resbiradol a bydd yn rhaid gwneud penderfyniad ar unwaith. Felly, os bydd gan glaf gyflwr sy’n bodoli eisoes ac sy’n golygu bod ataliad y galon neu’r system resbiradol yn debygol, bydd creu cynllun rheoli ymlaen llaw yn helpu i sicrhau bod modd ystyried dymuniadau a dewisiadau’r claf ynghylch triniaeth a phan fo hynny’n briodol, bod penderfyniad DNACPR yn cael ei wneud a’i gofnodi.

131

Os bydd claf yn cael eu hanfon i’r ysbyty ac maent yn anhwylus iawn neu maent yn ansefydlog ar lefel glinigol yn eu cartref neu mewn man arall lle y maent yn cael gofal, a cheir risg y byddant yn dioddef ataliad ar y galon neu’r system resbiradol, dylid ffurfio barn mor gynnar ag y bo modd ynghylch llwyddiant tebygol CPR wrth ailgychwyn anadlu a chylchrediad y gwaed a’i fanteision, ei feichiau a’i risgiau. Dylech edrych i weld a oes unrhyw weithgarwch cynllunio gofal ymlaen llaw mewn grym hefyd, ac os bydd y claf heb alluedd, a oes ganddynt benderfyniad ymlaen llaw i’w wrthod, sy’n gyfreithiol rwymol.

Trafodaethau ynghylch a ddylid rhoi cynnig ar CPR

132

Yn yr un modd â thriniaethau eraill, rhaid seilio penderfyniadau a wneir ymlaen llaw ynghylch a ddylid rhoi cynnig ar CPR ar amgylchiadau’r claf unigol, gan ystyried eu dymuniadau a’u dewisiadau. Yn ogystal, dylai hyn gynnwys trafodaethau gydag aelodau’r tîm gofal iechyd, yn ogystal â’r rhai sy’n agos i’r claf (ar ôl sicrhau cytundeb y claf). Rhaid i chi drin trafodaethau mewn ffordd sensitif, gan gofio y gallai fod gan rai cleifion, neu’r rhai sy’n agos iddynt, bryderon y gallai penderfyniadau i beidio rhoi cynnig ar CPR gael eu dylanwadu gan dybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth wael ynghylch effaith anabledd neu’r ffaith bod claf yn oedrannus, ar ansawdd eu bywyd.

133

Os na fydd claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad ynghylch CPR yn y dyfodol, rhaid i chi ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf fel rhan o’r broses o wneud penderfyniad. Rhaid i chi drin trafodaethau mewn ffordd sensitif, gan gofio y gallai fod gan rai pobl bryderon y gallai rhai penderfyniadau i beidio rhoi cynnig ar CPR gael eu dylanwadu gan dybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth wael ynghylch effaith anabledd neu’r ffaith bod claf yn oedrannus, ar ansawdd eu bywyd. Yn ogystal, gallai safbwyntiau aelodau’r tîm gofal iechyd sy’n ymwneud â’u gofal fod yn werthfawr wrth asesu’r tebygolrwydd y byddai CPR yn llwyddo i adfer anadlu a chylchrediad y claf neu a fyddai CPR llwyddiannus yn debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt. Rhaid i chi wneud ymdrechion rhesymol i drafod statws CPR claf gyda’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn.

Pan na fydd CPR yn llwyddo i ailgychwyn anadlu a chylchrediad y gwaed

134

Os bydd modd rhagweld risg y bydd claf yn dioddef ataliad y galon neu’r system resbiradol a bod y person sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf o’r farn na ddylid rhoi cynnig ar CPR oherwydd na fydd yn llwyddo i ailgychwyn calon a system anadlu’r claf, gan adfer cylchrediad, rhaid trafod hyn gyda’r claf mewn ffordd sensitif, oni bai y byddai hyn yn peri niwed difrifol iddynt. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘niwed difrifol’ yn golygu mwy na’r ffaith y gallai’r claf ddechrau gofidio. Diben y ddeialog yw ffurfio dealltwriaeth ar y cyd gyda’r claf am ei sefyllfa, y farn barn a’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw. Rhaid i chi wrando ar y claf a dylech ei annog i ofyn cwestiynau. Fel rhan o’r trafodaethau hyn, dylech ystyried gyda’r claf y math o wybodaeth y mae ei hangen arno neu y bydd ei hangen arno, ei ddymuniadau neu ei ofnau, gan esbonio bod ganddo’r hawl i geisio ail farn. Er y bydd rhai cleifion yn dymuno cael y trafodaethau hyn, efallai na fydd eraill yn dymuno hynny. Ni ddylech orfodi trafodaeth na gwybodaeth ar y claf os nad yw’n dymuno. Ni ddylech benderfynu peidio cyfleu gwybodaeth iddynt oherwydd bod hyn yn brofiad anodd neu’n brofiad anghyffyrddus i chi neu’r tîm gofal iechyd.

135

Os byddwch yn dod i’r casgliad nad yw’r claf yn dymuno cael gwybod am benderfyniad DNACPR neu’n dymuno trafod penderfyniad o’r fath, dylech geisio’u cytundeb i rannu gyda’r rhai sy’n agos iddynt, gyda gofalwyr a gydag eraill, y wybodaeth y byddant ei hangen efallai er mwyn cynorthwyo triniaeth a gofal y claf. Dylech bwysleisio i’r claf y gallant drafod y mater ar unrhyw adeg os byddant yn penderfynu eu bod yn dymuno gwneud hynny.

136

Os na fydd claf yn meddu ar alluedd, rhaid i chi ymgynghori gydag unrhyw ddirprwy cyfreithiol ac eraill sy’n agos i’r claf ynghylch y penderfyniad DNACPR, a’r rhesymau dros ei wneud, oni bai ei bod yn anymarferol neu’n amhriodol gwneud hynny. Dylid cynnal y trafodaethau hyn mor gynnar ag y bo hynny’n ymarferol, a dylent gynnwys esboniad sensitif a gofalus mai’r bwriad yw arbed triniaeth i’r claf na fydd yn cynnig unrhyw fudd iddynt, yn hytrach nag atal unrhyw driniaeth neu ofal arall y bydd ei hangen ar y claf.

Pan allai CPR fod yn llwyddiannus wrth ailgychwyn anadlu a chylchrediad y gwaed

Cleifion sy’n meddu ar alluedd

137

Os y gallai CPR lwyddo i ailgychwyn calon a system anadlu ac adfer cylchrediad claf, rhaid pwyso a mesur y manteision yn erbyn y beichiau a’r risgiau posibl. Nid penderfyniad hollol glinigol yw hwn. Rhaid i chi gynnig cyfleoedd i’r claf drafod (gyda chymorth yn ôl yr angen) a ddylid rhoi cynnig ar CPR os bydd ataliad y galon neu’r system resbiradol yn y dyfodol. Rhaid i chi wneud hyn mewn ffordd sensitif ac ni ddylech orfodi trafodaeth neu wybodaeth ar y claf os nad ydynt yn dymuno hynny. Fodd bynnag, os byddant yn barod i’w drafod, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth fanwl iddynt am feichiau a risgiau CPR, gan gynnwys y canlyniadau clinigol a’r canlyniadau eraill tebygol os bydd CPR yn adfer anadlu a chylchrediad. Dylai hyn gynnwys esboniad sensitif o’r graddau na fydd triniaethau a gweithdrefnau dwys eraill yn cael eu hystyried yn briodol ar lefel glinigol ar ôl dychweliad cylchrediad digymell. Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai na fydd cymorth estynedig ar gyfer methiant organau lluosog mewn uned gofal ddwys yn briodol ar lefel glinigol nac yn cynnig budd cyffredinol, er bod calon y claf wedi cael ei hailgychwyn.

138

Os bydd claf yn dymuno cael CPR ac os mai’ch barn gytbwys chi yw na fyddai CPR yn ddewis clinigol priodol i’r claf, rhaid i chi ystyried eu rhesymau dros ofyn amdani, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai yn ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol mewn ffordd sensitif. Fel rhan o hyn, dylech sicrhau bod ganddynt wybodaeth fanwl ynghylch natur CPR ac, er enghraifft, hyd y cyfnod y byddai disgwyl iddynt oroesi yn realistig, a lefel yr adferiad y byddai modd iddynt ei ddisgwyl yn realistig pe byddai’r ymdrechion i’w hadfywio yn llwyddo. Yn ogystal, dylech geisio dod i gytundeb; er enghraifft, byddai modd cytuno ar ymyriadau CPR cyfyngedig mewn rhai achosion. Pan fydd y cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, cais claf fydd y ffactor a fydd yn penderfynu fel arfer. Ar ôl cynnal trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai CPR yn briodol ar lefel glinigol, ni fydd rheidrwydd arnoch i gytuno ei roi dan yr amgylchiadau a ragwelir. Rhaid i chi esbonio’ch rhesymau ac unrhyw ddewisiadau eraill y gallent fod ar gael i’r claf, gan gynnwys eu hawl i geisio ail farn.

Cleifion heb alluedd

139

Os na fydd claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad ynghylch CPR yn y dyfodol, rhaid i chi ymgynghori gydag unrhyw ddirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar awdurdod i wneud y penderfyniad ar ran y claf, oni bai ei bod yn anymarferol neu’n amhriodol gwneud hynny. Os na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar awdurdod perthnasol, rhaid i chi drafod y mater gyda’r rhai sy’n agos i’r claf a gyda’r tîm gofal iechyd. Rhaid i chi wneud pob ymdrech resymol i gael yr ymgynghoriadau neu’r trafodaethau hyn mor gynnar ag y bo hynny’n ymarferol, a dylid eu cael mewn ffordd sensitif. Yn ystod eich ymgynghoriadau neu’ch trafodaethau, rhaid i chi ddilyn y model penderfynu ym mharagraff 16. Yn arbennig, dylech fod yn glir ynghylch y rôl y gofynnir i chi ac eraill ei gyflawni yn y broses benderfynu. Os na fyddant yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad, dylech fod yn eglur mai eu rôl nhw yw’ei'ch cynghori chi a’r tîm gofal iechyd ynghylch dymuniadau a dewisiadau’r claf er mwyn cyfrannu at y penderfyniad ynghylch a fyddai rhoi cynnig ar CPR yn cynnig budd cyffredinol i’r claf. Ni ddylech roi’r argraff iddynt mai eu cyfrifoldeb nhw yw penderfynu a fydd CPR yn cynnig budd cyffredinol i’r claf, neu y gofynnir iddynt benderfynu a roddir cynnig ar CPR neu beidio. Dylech ddarparu’r un wybodaeth ynghylch natur CPR a’r beichiau a’r risgiau i’r claf, fel yr esbonnir ym mharagraff  137, i unrhyw ddirprwy cyfreithiol a’r rhai sy’n agos i’r claf. 

140

Os bydd y dirprwy cyfreithiol yn gofyn y dylid rhoi cynnig ar CPR yn y dyfodol, er gwaethaf y beichiau a’r risgiau, neu os ydynt yn siŵr mai dyma’r hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, ac os mai’ch barn gytbwys chi yw na fyddai CPR yn briodol ar lefel glinigol ar gyfer y claf, dylech ystyried y rhesymau dros gais y dirprwy, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol mewn ffordd sensitif. Ar ôl cynnal trafodaeth bellach, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai rhoi cynnig ar CPR yn briodol i’r claf ar lefel glinigol, ni fydd rheidrwydd arnoch i’w darparu dan yr amgylchiadau a ragwelir. Dylech esbonio’ch rhesymau ac unrhyw ddewisiadau eraill a allai fod ar gael i’r dirprwy cyfreithiol, gan gynnwys eu hawl i geisio ail farn.

Datrys anghytundebau

141

Os ceir anghytundeb ynghylch a ddylid darparu CPR, dylech geisio’i ddatrys trwy ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 47 - 49.

47

Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.

48

Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli. 

49

Mewn sefyllfaoedd pan fo claf sy’n meddu ar alluedd i benderfynu yn gofyn am driniaeth, ac nid ydynt yn derbyn eich barn chi na fyddai’r driniaeth yn briodol ar lefel glinigol, gallai’r camau a awgrymir uchod er mwyn datrys anghytundeb fod o gymorth hefyd.

Cofnodi a chyfleu penderfyniadau ynghylch CPR

142

Dylid cofnodi unrhyw drafodaethau gyda chlaf, neu’r rhai sy’n agos iddynt, ynghylch a ddylid rhoi cynnig ar CPR, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau a wneir, yng nghofnod ac mewn unrhyw gynllun gofal ymlaen llaw y claf.38  Os bydd penderfyniad DNACPR yn cael ei wneud, ac ni chynhaliwyd unrhyw drafodaeth gyda’r claf oherwydd eif od wedi nodi nad oedd yn dymuno cael osgoi trafodaeth o’r fath, neu oherwydd ystyriwyd y byddai cael y drafodaeth honno gyda’r claf yn peri niwed difrifol iddo, dylech gofnodi hyn yn llawn yng nghofnodion y claf.

38

Gweler y canllawiau ar gofnodi a chyfleu penderfyniadau ym mharagraffau 75–77.

Triniaeth a gofal ar ôl gwneud penderfyniad DNACPR

143

Yn ystod eich ymgynghoriadau a’ch trafodaethau ynghylch CPR, rhaid i chi egluro i’r tîm gofal iechyd, y claf a’r rhai sy’n agos i’r claf bod penderfyniad DNACPR yn berthnasol i CPR yn unig. Nid yw’n lled-awgrymu y bydd triniaethau eraill yn cael eu hatal neu y rhoddir y gorau i’w rhoi. Bydd triniaeth a gofal arall yn cael ei ddarparu os bydd hynny’n briodol ar lefel glinigol ac yn cael ei gytuno gan glaf sy’n meddu ar alluedd, neu os bydd yn cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd.

144

Ni ddylai penderfyniad DNACPR fod yn drech na’ch barn glinigol ynghylch CPR os bydd y claf yn dioddef ataliad y galon neu’r system resbiradol o ganlyniad i achos y byddai modd ei ddadwneud, na chafodd ei drafod na’i ragweld pan gofnodwyd y penderfyniad DNACPR. Os bydd claf y mae penderfyniad DNACPR yn ei le ar eu cyfer yn cael gweithdrefn a gynlluniwyd, a allai achosi ataliad y galon neu’r system resbiradol, megis llawdriniaeth dan anesthesia cyffredinol, dylid cael trafodaeth ofalus gyda’r claf (neu’r rhai sy’n agos i’r claf heb alluedd) ymlaen llaw, gan ddod i gytundeb ynghylch y cam o atal y penderfyniad DNACPR dros dro.

Argyfyngau a CPR

145

Gall argyfyngau ddigwydd pan na fydd amser i droi at yr holl wybodaeth am gyflwr y claf a chanlyniad tebygol CPR; pan na fydd penderfyniad DNACPR wedi cael ei wneud ymlaen llaw; a phan na fydd modd darganfod safbwyntiau’r claf. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid rhoi cynnig ar CPR, oni bai, yn eich barn glinigol chi, na fydd yn llwyddo i ailgychwyn anadlu a chylchrediad y claf.