Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Atodiad Cyfreithiol

Am yr atodion cyfreithiol hwn

 

Mae’r atodiad cyfreithiol hwn yn nodi rhywfaint o’r ddeddfwriaeth statudol allweddol a’r gyfraith achosion sy’n effeithio ar benderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes sy’n ymwneud ag oedolion (sy’n meddu ar alluedd a heb alluedd i wneud eu penderfyniadau eu hunain), babanod newydd-anedig, plant a phobl ifanc.

Nid diben yr atodiad hwn yw cynnig datganiad cynhwysfawr o’r gyfraith neu restr o’r ddeddfwriaeth a’r gyfraith achosion berthnasol, ac nid yw’n gallu disodli’r cyngor cyfreithiol annibynnol diweddaraf ychwaith. Fe’i cyflwynir at ddibenion cyfeirio yn unig. Disgwylir i weithwyr meddygol proffesiynol fod yn ymwybodol o’r gyfraith a’n canllawiau diweddaraf, a’u dilyn.

Gellir darllen yr arweiniad hwn law yn llaw ag arweiniad CMC, ‘Gwneud penderfyniadau a chydsynio (2020)’.

Deddfwriaeth statudol

Galluedd Meddyliol – Cymru a Lloegr

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae’r Ddeddf hon yn cynnig fframwaith cyfreithiol er mwyn gwneud penderfyniadau ar ran pobl 16 oed neu’n hŷn heb alluedd i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae’n egluro:

  • y sawl sy’n gallu gwneud penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau am ofal a thriniaeth feddygol, ar gyfer pobl na allant wneud penderfyniadau dros eu hunain; a
  • sut y dylid gwneud y penderfyniadau hyn.

Rhaid i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill droi at God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, y’n esbonio sut y dylai’r Ddeddf weithio o ddydd i ddydd, ac mae’n nodi’r camau y dylai’r rhai sy’n ei defnyddio ac yn ei dehongli eu dilyn wrth:

  • asesu galluedd unigolyn; ac
  • wrth wneud penderfyniad er budd pennaf unigolyn heb alluedd.

Dolenni a deunydd i’w lawrlwytho

Galluedd Meddyliol – Yr Alban

Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 

Mae’r Ddeddf hon yn cynnig ffyrdd o helpu i ddiogelu lles pobl 16 oed a throsodd nad ydynt yn meddu ar y galluedd i wneud rhai o’r penderfyniadau neu’r holl benderfyniadau drostynt eu hunain, oherwydd anhwylder meddyliol neu’r ffaith na allant gyfathrebu. Yn ogystal, mae’n caniatáu i bobl arall wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae’r Ddeddf yn nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid eu gweithredu wrth wneud penderfyniadau am anghenion oedolion heb alluedd, gan gynnwys mewn perthynas â gofal iechyd.

Dolenni a deunydd i’w lawrlwytho

Galluedd Meddyliol – Gogledd Iwerddon

Ar hyn o bryd, ystyrir penderfyniadau ynghylch galluedd a thriniaeth a gofal ar gyfer pobl heb alluedd trwy gyfeirio at y gyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon.

Mental Capacity Act (NI) 2016

Nid yw Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 mewn grym yn llawn eto. Pan fydd mewn grym, bydd y Ddeddf yn cynnig un fframwaith cyfreithiol ar gyfer materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a galluedd. Bydd yn nodi’r egwyddorion er mwyn gwneud penderfyniadau ar ran pobl 16 oed neu’n hŷn heb alluedd i wneud penderfyniadau dros eu hunain, gan gynnwys y rhagofalon y mae’n rhaid eu gweithredu.

Dolenni a deunydd i’w lawrlwytho 

Rhoi organau a meinwe

Mae Deddf Meinwe Dynol 2004 a Human Tissue (Scotland) Act 2006 yn llywodraethu trefniadau rhoi organau a meinwe yn y DU. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, efallai y bydd rhai cleifion yn dod dan system ‘cydsyniad tybiedig’ pan fo’r rhoi at ddibenion trawsblannu (1).

Mae’r Awdurdod Meinwe Dynol yn rheoleiddio ac yn cyhoeddi codau ymarfer ynghylch rhoi organau a meinwe yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (2). Mae gan weinidogion yr Alban y pwerau hynny yn yr Alban. Pan fo rhoi yn bosibilrwydd, rhaid i chi ystyried y gofynion mewn deddfwriaeth berthnasol. (3)

Dolenni a nodiadau

Deddf Hawliau Dynol 1998

Daeth Deddf Hawliau Dynol 1998 i rym yn llawn ar draws y DU yn 2000. Mae’r Ddeddf yn cynnwys mwyafrif yr hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) mewn cyfraith ddomestig. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod pob ‘awdurdod cyhoeddus’, sy’n cynnwys GIG, yn gweithredu yn unol â’r hawliau a’r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf.

Mae’n ofynnol i bob aelod o’r tîm gofal iechyd sy’n darparu gwasanaethau ar ran y GIG gydymffurfio â’r Ddeddf wrth wneud penderfyniadau ynghylch cleifion unigol ac mewn perthynas ag agweddau eraill ar ddarpariaeth gwasanaethau’r GIG.

Mae’r hawliau o fewn ECHR sydd fwyaf perthnasol i benderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal wrth agosáu at ddiwedd oes claf, fel a ganlyn: 

  • Erthygl 2: Yr hawl i fywyd a’r ddyletswydd gadarnhaol ar awdurdodau cyhoeddus i ddiogelu bywyd.
  • Erthygl 3: Yr hawl i fod yn rhydd rhag triniaeth annynol a diraddiol.
  • Erthygl 5: Yr hawl i ddiogelwch y person.
  • Erthygl 8: Yr hawl i barch tuag at fywyd preifat a bywyd teuluol.
  • Erthygl 9: Yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
  • Erthygl 14: Yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu wrth fwynhau’r hawliau eraill hyn.

Mae hawliau ECHR rywfaint yn agored i’w dehongli ac er 2000, defnyddiwyd y Ddeddf mewn nifer o achosion i herio penderfyniadau meddygol penodol. Mae’r gyfraith achosion hyd yn hyn yn cadarnhau bod yr egwyddorion a’r rhwymedigaethau moesegol sefydledig sy’n sail i arfer meddygol da, yn cyd- fynd â’r hawliau a’r dyletswyddau a bennir dan ECHR.1Yn ogystal, mae’n eglur bod y Ddeddf yn caniatáu i’r llys ystyried rhinweddau penderfyniad penodol a’r broses benderfynu. Felly, mae’n gynyddol bwysig bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw, sy’n deg ac sy’n gyfiawnadwy, a bod mwy o sylw yn cael ei roi i gofnodi manylion penderfyniadau a’r rhesymau drostynt. 

1

Ymddiriedolaeth Iechyd Genedlaethol v D (2000) 55 BMLR 19; Ymddiriedolaeth GIG A v M ac Ymddiriedolaeth GIG B v H (2000) 58 BMLR 87.

Rheoliadau hysbysu ynghylch marwolaeth 2019

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi dyletswydd gyfreithiol newydd ar yr holl ymarferwyr meddygol sy’n dod i wybod am farwolaeth i sicrhau ei bod wedi cael ei hadrodd i Grwner pan ei bod yn ymddangos bod unrhyw rai o’r amgylchiadau y gallent ysgogi dyletswyddau ymchwilio y Crwner, yn bresennol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi arweiniad er mwyn helpu ymarferwyr meddygol i ddeall pan fydd rheidrwydd arnynt i adrodd am farwolaeth i’r crwner.

Dolen a deunydd i’w lawrlwytho

Cyfraith achosion

Mae nifer o ddyfarniadau cyfreithiol ynghylch gwrthod a rhoi’r gorau i roi triniaeth, yn llysoedd Lloegr yn bennaf, wedi dangos nad w’r llysoedd o’r farn bod diogelu bywyd bob amser yn drech nag ystyriaethau eraill. Mae’r gyfraith achosion yn pennu nifer o egwyddorion perthnasol. Mae’r crynodeb isod yn cyfateb â’n dealltwriaeth ni o’r pwyntiau allweddol. Nid ei ddiben yw cynnig datganiad swyddogol ynghylch y gyfraith achosion, ac nid ydym yn defnyddio’r un derminoleg sy’n ymddangos yn y dyfarniadau llys. Mae’r ôl-nodion yn cynnwys y cyfeiriadau at yr achosion.

  • Byddai gweithred lle y gwelir mai'r prif fwriad2 yw sicrhau marwolaeth claf, yn anghyfreithlon.3  
  • Gall oedolyn sy’n meddu ar alluedd benderfynu gwrthod triniaeth, hyd yn oed os y gallai ei gwrthod achosi niwed iddo ef/hi neu achosi eu marwolaeth.4 Bydd yr hawl hon yr un mor berthnasol i fenywod beichiog ag y bydd i gleifion eraill, ac mae’n cynnwys yr hawl i wrthod triniaeth pan fo diben y driniaeth yn ymwneud â chynnig budd i’r plentyn yn y groth.5 Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol barchu penderfyniad gan glaf sy’n meddu ar alluedd i wrthod triniaeth ac os byddant yn gwrthwynebu’r penderfyniad, bydd dyletswydd arnynt i ddod o hyd i feddyg arall a fydd yn cyflawni dymuniadau’r claf.6  
  • Gallai fod yn gyfreithlon gwrthod neu roi’r gorau i roi triniaeth ymestyn bywyd i glaf heb alluedd wrth gychwyn neu barhau triniaeth nad yw er eu budd pennaf.7  
  • Ni cheir unrhyw rwymedigaeth i roi triniaeth sy’n ddiwerth neu’n feichus.8  
  • Os bydd claf sy’n oedolyn wedi colli galluedd, rhaid parchu penderfyniad a wnaethpwyd i wrthod triniaeth pan oeddent yn meddu ar alluedd, ar yr amod ei fod yn amlwg yn berthnasol i’r amgylchiadau presennol, ac nid oes unrhyw reswm dros gredu bod y claf wedi newid eu meddwl.9  
  • Yn achos plant neu oedolion heb alluedd i benderfynu, wrth ffurfio barn ynghylch a fyddai triniaeth benodol yn fwy beichus na buddiol, gallai asesiadau ynghylch ansawdd bywyd tebygol y claf o gael y driniaeth benodol neu o beidio cael y driniaeth benodol, fod yn un o’r ystyriaethau priodol.10  
  • Nid ‘annioddefoldeb’ triniaeth yw’r unig brawf ynghylch a yw triniaeth er budd pennaf claf neu beidio. Mae’r term ‘budd pennaf’ yn cynnwys ffactorau meddygol, ffactorau emosiynol a’r holl ffactorau eraill sy’n berthnasol i les y claf.11 
  • Byddai modd pennu bod budd pennaf claf yn golygu na ddylai claf wynebu mwy o driniaeth na’r hyn sydd angen ei roi iddynt er mwyn caniatáu iddynt i farw yn dawel a gydag urddas.12 
  • Dylid cymryd yr holl gamau rhesymol i oresgyn sialensiau wrth gyfathrebu gyda chleifion neu reoli gofal cleifion y mae ganddynt anableddau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y driniaeth y byddant ei hangen, ac a fyddai er budd pennaf y claf.13  
  • Pan geir anghytundeb sylfaenol rhwng clinigwyr a theulu plentyn ynghylch y driniaeth ar gyfer y plentyn, dylid ceisio safbwyntiau’r llys.14  
  • Os bydd claf yn gofyn am driniaeth na gafodd ei chynnig gan y gweithiwr meddygol proffesiynol a bod y gweithiwr meddygol hwnnw’n dod i’r casgliad na fydd y driniaeth yn briodol i’r claf ar lefel glinigol, nid oes rheidrwydd ar y gweithiwr meddygol proffesiynol i roi’r driniaeth honno, er y dylai gynnig trefnu ail farn.15  
  • Pan fydd angen rhoi maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol er mwyn cadw claf yn fyw, bydd y ddyletswydd gofal yn mynnu bod hynny'n cael ei ddarparu fel arfer, os bydd claf sy’n meddu ar alluedd yn dymuno’i gael.16 
  • Gellir gwrthod neu roi’r gorau i roi maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol pan na fydd y claf yn dymuno’i gael; neu pan fo’r claf yn marw a phan fo nodau’r gofal yn newid i ofal lliniarol a lleddfu dioddefaint; neu pan fo’r claf heb alluedd i benderfynu, a bernir na fyddai darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol er eu budd pennaf17 ,hyd yn oed pan fydd aelod o’r teulu yn anghytuno gyda’r penderfyniad i roi’r gorau i’w roi.18  
  • Yn achos cleifion mewn cyflwr diymateb parhaol (PVS), mae maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn cyfateb â thriniaeth feddygol ac mae modd rhoi’r gorau i’w rhoi mewn amgylchiadau penodol.19 Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd go iawn, dylid ceisio datganiad gan y llys mewn rhai achosion.20 
  • Ni fydd angen i feddygon sy’n gwneud gwaith meddygol yng Nghymru a Lloegr, ac sy’n ystyried rhoi’r gorau i roi maeth neu hydradiad i glaf sy’n oedolyn mewn cyflwr PVS neu MCS, droi at y llysoedd am ddyfarniad, ar yr amod y bodlonir y meini prawf canlynol:
    1. dilynwyd darpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005
    2. arsylwyd y canllawiau proffesiynol perthnasol36 
    3. ceir cytundeb ynghylch budd pennaf y claf.21 
  • Y meddyg sy’n gyfrifol am benderfynu pa driniaethau y mae galw amdanynt ar lefel glinigol ac y dylid eu cynnig i’r claf. Dylai’r penderfyniad i ddarparu triniaeth fod yn unol â chaniatâd y claf os ydynt yn meddu ar alluedd neu, os nad ydynt yn meddu ar alluedd, unrhyw safbwyntiau’r claf sy’n hysbys ac a fynegwyd cyn iddynt golli galluedd, ac unrhyw safbwyntiau a gynigir gan y rhai sy’n agos iddynt.22  
  • Pan ofynnir i’r Llys ffurfio barn ynghylch gwrthod neu roi’r gorau i roi triniaeth, bydd yn ystyried a yw’r hyn a gynigir yn cyd-fynd â barn feddygol briodol. Ond bydd y Llys yn penderfynu dros ei hun a yw triniaeth neu ddiffyg triniaeth er budd pennaf y claf.23 
  • Oni bai bod rhesymau argyhoeddiadol i’r gwrthwyneb, rhaid ymgynghori gyda chlaf sy’n oedolyn ac sy’n meddu ar alluedd fel rhan o'r broses sy’n arwain at gwblhau hysbysiad DNACPR.24  
  • Rhaid ymgynghori â gofalwr neu gynrychiolydd penodedig cleifion analluog cyn cynnwys hysbysiadau DNACPR yn eu ffeiliau os yw hyn yn ymarferol neu’n briodol.25 

Yn y maes hwn, er nad yw’r gyfraith achosion yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon wedi cael ei datblygu rhyw lawer, yn gyffredinol, gellir disgwyl i lysoedd yn yr Alban ddilyn y penderfyniadau a wneir yn Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon, mae penderfyniadau Tŷ’r Arglwyddi yn rhwymol ar y llysoedd; ystyrir bod penderfyniadau’r Llys Apêl yn Lloegr yn hynod o berswadiol; a chaiff penderfyniadau’r Uchel Lys yn Lloegr eu darllen yn frwdfrydig ac yn aml, fe’u dilynir. 

2

R v Cox (1992) 12 BMLR 38. 

3

Am eithriad prin iawn yn achos efeilliaid cyfunedig gweler Re: A (Children) (Conjoined twins: surgical separation) [2000] 4 All ER 961.

4

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821 ar dudalen 860 trwy Arglwydd Keith a thudalen 866 trwy Arglwydd Goff. Yn ogystal, Re JT (Adult: Refusal of Medical Treatment)[1998] 1 FLR 48 a Re AK (Medical Treatment: Consent) [2001] 1 FLR 129.

5

Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd St George v S (Rhif 2). R v Louise Collins ac Eraill, Ex Parte S (No 2) [1993] 3 WLR 936.

6

Re Ms B v Ymddiriedolaeth Ysbyty GIG [2002] EWHC 429 (Fam).

7

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821.

8

Re J (A Minor) (Wardship: Medical Treatment) [1990] 3 All ER 930.

9

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821 ar dudalen 860 trwy Arglwydd Keith a thudalen 866 trwy Arglwydd Goff. Re T (Adult: Refusal of Treatment) [1992] 4 All ER 349 a Re AK (Medical Treatment: Consent) [2001] 1 FLR 129. Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd W v H [2005] 1 WLR 834

10

Re B [1981] 1 WLR 421; Re C (A Minor) [1989] 2 All ER 782; Re J (A Minor) (Wardship: Medical Treatment) [1990] 3 All ER 930; Re R (Adult: Medical Treatment) [1996] 2 FLR 99.

11

Wyatt & Anor v GIG Ysbyty Portsmouth ac Anor [2005] EWCA Civ 1181. Burke v CMC [2005] EWCA Civ 1003. Ymddiriedolaeth GIG v MB [2006] EWHC 507 (Fam).

12

Ymddiriedolaeth GIG v Ms D [2005] EWHC 2439 (Fam). Burke v CMC [2005] EWCA Civ 1003.

13

Ymddiriedolaeth GIG v S & Ors [2003] EWHC 365 (Fam).

14

Glass v y Deyrnas Unedig (ECHR, 2004).

15

Re J (A Minor) (Child in Care: Medical Treatment) [1992] 2 all ER 614; Burke v CMC [2005] EWCA Civ 1003.

16

Burke v GMC [2005] EWCA Civ 1003.

17

Burke v CMC [2005] EWCA Civ 1003. Ymddiriedolaeth GIG v Ms D [2005] EWHC 2439 (Fam).

18

Grŵp Comisiynu Clinigol Gogledd Orllewin Llundain a GU [2021] EWCOP 59

19

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821; Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Law v Arglwydd Adfocad 1996 SLT 848.

20

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821; Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Law v Arglwydd Adfocad 1996 SLT 848. Yn ogystal, dylid cyfeirio at Practice Note (Official Solicitor: Declaratory Proceedings: Medical and Welfare Decisions for Adults Who Lack Capacity) [2001] 2 FLR.

36

Gallwch drafod y dewisiadau gyda’ch sefydliad amddiffyn neu adran gyfreithiol eich cyflogwr. Yng Ngogledd Iwerddon, lle na cheir deddfwriaeth sylfaenol neu gyfraith achosion berthnasol sy’n ymwneud â’r awdurdodaeth, gallai fod yn arbennig o bwysig gwneud hynny cyn gweithredu ar sail penderfyniadau.

21

Ymddiriedolaeth GIG v Y - [2018] UKSC 46

22

Re J (A Minor) (Child in Care: Medical Treatment) [1992] 2 All ER 614; a Re G (Persistent Vegetative State) [1995] 2 FCR 46.

23

Re A (Male Sterilisation) [2000] FCR 193; a Re S (Adult: Sterilisation) [2000] 2 FLR 389. Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol v PM & Anor [2007] NIFam 13 (21 Rhagfyr 2007).

24

Tracey v Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt [2014] EWCA Civ 822

25

Winspear v Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Dinas Sunderland [2016] 2WLR 1089.