Gweithio gyda’r egwyddorion a’r modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau - cont.
Cofnodi a chyfleu penderfyniadau
Rhaid i chi wneud cofnod o’r penderfyniadau a wnaethpwyd ynghylch triniaeth a gofal claf, a’r sawl yr ymgynghorwyd â nhw mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny.
Rhaid i chi wneud eich gorau i sicrhau bod yr holl rai yr ymgynghorwyd â nhw, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gofal, yn cael eu hysbysu o’r penderfyniadau a’u bod yn ymwybodol o’r nodau a’r cynllun gofal y cytunwyd arno, oni bai bod y claf yn nodi na ddylid hysbysu unigolion penodol.
Dylech fwrw golwg dros y trefniadau trosglwyddo lle’r ydych yn gweithio, a defnyddio’r trefniadau a’r systemau sydd ar gael er mwyn storio a chyfnewid gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod y cynllun gofal y cytunwyd arno yn cael ei rannu gyda’r tîm gofal iechyd, gyda gofalwyr cyflogedig a digyflog y tu allan i’r tîm, a gyda’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â darparu gofal ar gyfer y claf. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo cleifion yn symud rhwng gwahanol leoliadau gofal (ysbyty, ambiwlans, cartref gofal) ac yn ystod unrhyw gyfnod y tu allan i oriau arferol. Gallai methu cyfleu rhywfaint neu’r holl wybodaeth berthnasol arwain at driniaeth amhriodol yn cael ei rhoi (er enghraifft, ni fydd penderfyniadau ynghylch DNACPR yn hysbys), a methiant i ddiwallu anghenion y claf (er enghraifft, methiant i ystyried eu dymuniad i aros yn eu cartref).
Adolygu penderfyniadau
Efallai y bydd cyflwr claf yn gwella mewn ffordd annisgwyl neu efallai na fydd ei ddatblygiad yn unol â’r hyn a ddisgwyliwyd, neu efallai y bydd eu safbwyntiau ynghylch manteision, beichiau a risgiau triniaeth yn newid gydag amser. Dylech sicrhau bod trefniadau eglur wedi cael eu gwneud er mwyn adolygu penderfyniadau. Efallai y bydd angen gwneud penderfyniadau newydd ynghylch cychwyn triniaeth neu barhau i ddarparu triniaeth yng ngoleuni newidiadau yng nghyflwr ac amgylchiadau’r claf, ac efallai y bydd angen ceisio ail farn neu, os na fydd modd gwneud hynny, ceisio cyngor cydweithiwr profiadol.
Gwrthwynebiadau cydwybodol
Gallwch dynnu yn ôl o sefyllfa lle y byddwch yn darparu gofal, os bydd eich credoau crefyddol, eich credoau moesol neu unrhyw gredoau personol eraill sydd gennych ynghylch darparu triniaeth a fydd yn ymestyn oes, yn eich arwain i wrthwynebu cydymffurfiaeth gyda:
- phenderfyniad claf i wrthod triniaeth o’r fath, neu
- benderfyniad nad yw darparu triniaeth o’r fath yn cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd i benderfynu.
Fodd bynnag, ni ddylech wneud hynny cyn sicrhau yn gyntaf bod trefniadau wedi cael eu gwneud i feddyg arall ymgymryd â’ch rôl. Nid yw’n dderbyniol tynnu’n ôl o’ch sefyllfa o ddarparu gofal ar gyfer claf os byddai hyn yn golygu na fyddai gan y claf, neu gydweithwyr, unrhyw le i droi. Trowch at ein harweiniad ynghylch Credoau personol ac arfer meddygol (2013) am fwy o wybodaeth.
Os byddwch yn anghytuno gyda phenderfyniad i atal neu i beidio cychwyn darparu triniaeth a fydd yn ymestyn oes y claf ar sail eich barn glinigol ynghylch a ddylid darparu’r driniaeth neu beidio, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 47 - 48 ynghylch datrys anghytundebau.
Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.
Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli.
Rhoi organau a meinwe
81. Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â rhoi organau a meinwe yn amrywio ar draws y DU. Pan fo rhoi yn bosibilrwydd, rhaid i chi ystyried y gofynion mewn deddfwriaeth berthnasol ac mewn unrhyw godau ymarfer ategol. Cyfeirir at y rhain yn yr atodiad cyfreithiol.
Os bydd claf yn agos i farw, ac os na fydd modd canfod eu safbwyntiau, dylech fod yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda’r rhai sy’n agos iddynt ynghylch a oedd y claf wedi mynegi unrhyw safbwyntiau ynghylch rhoi organau neu feinwe. Dylech nodi’n glir y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch a fyddai’r claf yn ymgeisydd addas at ddibenion rhoi, yn cael ei wneud gan y tîm neu’r cydlynydd trawsblannu, ac nid gennych chi a’r tîm sy’n darparu triniaeth.
Gofal ar ôl marwolaeth
Pan fo claf yn marw, ni fydd eich cyfrifoldeb proffesiynol chi yn dod i ben. Ar gyfer teulu’r claf ac eraill sy’n agos atynt, gallai eu hatgofion o’r farwolaeth ac o’r unigolyn a fu farw, gael eu heffeithio gan y ffordd y byddwch chi yn ymddwyn ar yr adeg anodd iawn hon.
Dymuniadau ac anghenion y sawl sy’n galaru
Mae marwolaeth a galar yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, a bydd ymateb unigolyn yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau megis eu credoau, eu diwylliant, eu crefydd a’u gwerthoedd. Rhaid i chi ddangos parch tuag at ddymuniadau ac anghenion y sawl sy’n galaru, gan ymateb mewn ffordd sensitif iddynt a chan ystyried yr hyn yr ydych chi’n ei wybod am ddymuniadau’r claf ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl eu marwolaeth, gan gynnwys eu safbwyntiau am rannu gwybodaeth.28 Dylech fod yn barod i gynnig cymorth i’r sawl sy’n galaru, er enghraifft, trwy esbonio lle y bydd modd iddynt gael gwybodaeth ynghylch y pethau ymarferol gweinyddol yn dilyn marwolaeth, a help gyda hyn; neu thrwy gynnwys aelodau eraill y tîm, megis staff nyrsio, caplaniaeth neu ofal galar.
Caiff datgelu gwybodaeth ar ôl marwolaeth claf ei drafod ym mharagraffau 134 - 138 arweiniad CMC ynghylch Cyfrinachedd.
Tystysgrifau, archwiliadau, ac archwiliadau post-mortem
Rhaid i chi fod yn broffesiynol ac yn dosturiol wrth gadarnhau a datgan marwolaeth ac mae’n rhaid i chi ddilyn y gyfraith a chodau ymarfer statudol sy’n ymwneud â llenwi tystysgrifau marwolaeth neu amlosgi. Os mai’ch cyfrifoldeb chi yw llofnodi tystysgrif farwolaeth neu amlosgi, dylech wneud hynny heb unrhyw oedi dianghenraid.29 Os bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chynnwys ar y dystysgrif farwolaeth na fydd y rhai sy’n agos i’r claf yn ymwybodol ohoni, na fyddant yn ei deall efallai neu a allai beri gofid iddynt, dylech ei hesbonio iddynt mewn ffordd sensitif ac ateb eu cwestiynau, gan ystyried dymuniadau’r claf os ydynt yn hysbys.
Dim ond ymarferwyr meddygol cofrestredig (meddygon sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac sydd â thrwydded i ymarfer fel y’i diffinnir yn Neddf Meddygaeth 1983) sy’n gallu llenwi tystysgrifau meddygol ar gyfer achos marwolaeth (MCCDs) a ffurflenni amlosgi. Gweler y canllawiau i feddygon sy’n llenwi ffurflenni MCCD yng Nghymru a Lloegr, canllawiau i feddygon yn yr Alban a chanllawiau i feddygon yng Ngogledd Iwerddon. Gweler hefyd y canllawiau ar lenwi ffurflenni amlosgi yng Nghymru a Lloegr
Rhaid i chi gydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol lle’r ydych yn gweithio ynghylch adrodd marwolaethau i grwner (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) neu brocuradur ffisgal (yr Alban). Dylech fod yn barod i ateb cwestiynau gan y rhai sy’n agos i’r claf ynghylch gweithdrefnau adrodd ac archwiliadau post-mortem, neu i awgrymu ffynonellau gwybodaeth a chyngor eraill.
Rhaid i chi drin corff y claf gydag urddas a pharch. Dylech sicrhau, pryd bynnag y bo modd, bod y corff yn cael ei drin yn unol â’u credoau crefyddol personol neu unrhyw gredoau personol eraill.
Hyfforddiant ac archwilio
Dylech fod yn gyfarwydd gyda datblygiadau a chanllawiau perthnasol sy’n effeithio ar eich gwaith wrth ddarparu gofal tuag at ddiwedd oes, gan gymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau addysgol a fydd yn cynnal ac yn datblygu’ch cymhwystra a’ch perfformiad yn y maes hwn. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ynghylch y gyfraith ac unrhyw godau ymarfer cefnogol sy’n berthnasol i’r maes hwn, ac sy’n berthnasol lle’r ydych yn gweithio.
Fe allai ddigwyddiadau godi, sy’n deillio o’r gofal ar gyfer claf penodol gan eich tîm, eich huned neu’ch practis, sy’n awgrymu ffyrdd o wella triniaethau neu safonau gofal ar gyfer cleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes. Dylech gyfranogi mewn ffordd adeiladol mewn unrhyw drefniadau lleol megis adolygiadau achosion ac archwiliadau clinigol sy’n ceisio gwella’r canlyniadau a nodi a lledaenu arfer da.