Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Babanod newydd-anedig, plant a phobl ifanc

90

Mae plant, gan gynnwys plant newydd-anedig a phobl ifanc, yn unigolion y mae ganddynt hawliau, ac y mae’n rhaid eu parchu. Mae hyn yn golygu, os ydynt yn gallu mynegi barn a chymryd rhan wrth wneud penderfyniadau, bod yn rhaid i chi wrando arnynt ac ystyried yr hyn y mae ganddynt i’w ddweud am y pethau sy’n effeithio arnynt, gan barchu eu penderfyniadau a’u cyfrinachedd. Mae gennych ddyletswydd i ddiogelu ac i amddiffyn iechyd a lles plant a phobl ifanc. Yn ogystal, rhaid i chi ystyried rôl a chyfrifoldebau rhieni ac eraill sy’n agos iddynt, ond mae’ch dyletswydd pennaf tuag at y plentyn neu’r person ifanc sy’n glaf i chi. 

91

Mae’n harweiniad, 0–18 oed n cynnig cyngor manwl ynghylch gweithredu’r egwyddorion hyn wrth ofalu am blant a phobl ifanc. Mae’r cyngor isod yn canolbwyntio ar eich helpu chi I weithredu’r egwyddorion mewn sefyllfaoedd lle y gallai plant neu bobl ifanc fod yn agosáu at ddiwedd eu hoes.

Ystyried manteision, beichiau a risgiau triniaeth

92

Dylai penderfyniadau a wneir ynghylch triniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc fod er eu budd pennaf nhw bob amser.30  Mae hyn yn golygu pwyso a mesur manteision, beichiau a risgiau triniaeth ar gyfer y plentyn unigol. Nid yw budd pennaf plentyn wedi cael ei gyfyngu i ystyriaethau clinigol bob amser ac os ydych chi’n asesu budd pennaf, dylech fod yn ofalus eich bod yn ystyried unrhyw ffactorau eraill sy’n berthnasol i amgylchiadau pob plentyn.

30

Defnyddir ‘budd pennaf’ yma fel y term a dderbynnir ac a ddefnyddir yn eang ar draws y DU o ran penderfyniadau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae’n golygu pwyso a mesur manteision, beichiau a risgiau triniaeth, yn yr un modd ag y mae penderfyniadau ynghylch ‘budd cyffredinol’ yn ei wneud yn achos oedolion nad ydynt yn meddu ar alluedd i benderfynu.

93

Mae nodi budd pennaf plant neu bobl ifanc a allai fod yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn gallu bod yn heriol. Mae hyn yn arbennig o wir pan geir ansicrwydd ynghylch canlyniadau triniaeth yn y tymor hir, pan fydd argyfyngau’n codi, ac yn achos plant newydd-anedig a anwyd ymhell cyn pryd ac y mae’n hysbys bod y tebygolrwydd y byddant yn goroesi yn fach iawn. Efallai y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau cymhleth a phenderfyniadau sy’n hynod o anodd ar lefel emosiynol; er enghraifft, ynghylch a ddylid adfywio plentyn newydd-anedig a’i anfon i gael gofal dwys, ac a ddylid parhau i ddarparu gofal dwys ymyrrol neu ei ddisodli gyda gofal lliniarol. Gall fod yn anodd iawn barnu pryd y mae’r beichiau a’r risgiau, gan gynnwys graddau’r dioddefaint a achosir gan driniaeth, yn drech na manteision y driniaeth i’r claf.

94

Rhaid i chi ystyried yr arweiniad clinigol awdurdodol diweddaraf wrth ystyried pa driniaeth a allai fod er budd pennaf plentyn neu berson ifanc. Os ceir ansicrwydd ynghylch ystod y dewisiadau ar gyfer rheoli eu cyflwr, neu’r canlyniadau tebygol, dylech geisio cyngor neu ail farn mor gynnar ag y bo modd gan gydweithiwr sy’n meddu ar arbenigedd perthnasol (a allai fod mewn maes arbenigol arall, megis gofal lliniarol, neu ddisgyblaeth arall, megis nyrsio).

95

Mae rhieni31 yn cyflawni rôl pwysig wrth asesu budd pennaf eu plentyn, a dylech weithio mewn partneriaeth gyda nhw wrth ystyried penderfyniadau ynghylch triniaeth eu plentyn. Dylech gynorthwyo rhieni, ac mae’n rhaid rhannu’r wybodaeth y maent yn dymuno’i chael neu y bydd angen iddynt ei chael ynghylch cyflwr eu plentyn, a’r dewisiadau o ran y gofal ar eu cyfer, gyda nhw (yn unol ag ystyriaethau ynghylch cyfrinachedd). Rhaid i chi ystyried eu safbwyntiau wrth nodi dewisiadau sy’n briodol ar lefel glinigol ac sy’n debygol o fod er budd pennaf y plentyn.

31

Mae ‘rhiant’ yn golygu unrhyw un sy’n meddu ar ‘awdurdod rhiant’ Am fanylion ynghylch y sawl sy’n gallu meddu ar awdurdod rhiant, trowch at 0–18 oed: arweiniad i bob meddyg.

96

Rhaid eich bod yn gallu esbonio a chyfiawnhau’r ffactorau y dylid eu hystyried yn eich barn chi wrth ystyried penderfyniadau ynghylch pa driniaeth a allai fod er budd pennaf plentyn neu berson ifanc. Ni ddylech ddibynnu ar eich gwerthoedd personol wrth ffurfio barn ar sail tybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth sydd ymhell o fod yn dda ynghylch effaith bosibl anabledd ar ansawdd bywyd plentyn neu berson ifanc.

Gwneud y penderfyniad

97

Gallwch ddarparu triniaeth feddygol i blentyn neu berson ifanc gyda’u caniatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i wneud y penderfyniad, neu gyda chaniatâd rhiant neu’r llys. Darparir arweiniad manwl ynghylch gwahanol awdurdod pobl y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant, aelodau teuluol a gofalwyr anffurfiol dros wneud penderfyniadau, yng nghanllawiau, 0–18 oed y GMC.

98

Gallwch ddarparu triniaeth mewn argyfwng heb orfod sicrhau caniatâd, er mwyn achub bywyd plentyn neu berson ifanc neu er mwyn atal eu hiechyd rhag gwaethygu mewn ffordd ddifrifol.

Plant a phobl ifanc sy’n meddu ar alluedd

99

Rhaid i chi benderfynu a yw’r plentyn neu’r person ifanc yn gallu deall natur, diben a chanlyniadau posibl archwiliadau neu driniaethau yr ydych yn eu cynnig, yn ogystal â chanlyniadau peidio cael triniaeth. Dim ond os byddant yn gallu deall, cofio, defnyddio a phwyso a mesur y wybodaeth hon, a chyfleu eu penderfyniad i eraill, y gallant roi eu caniatâd i archwiliad neu driniaeth.

100

Mae’r galluedd i roi eu caniatâd yn dibynnu’n fwy ar allu pobl ifanc i ddeall ac i bwyso a mesur y dewisiadau, yn hytrach na’u hoedran. Wrth asesu galluedd person ifanc i roi eu caniatâd, dylech gofio:

  1. y gellir cymryd bod person ifanc yn meddu ar alluedd i roi eu caniatâd pan fyddant yn 16 oed
  2. y gallai person ifanc dan 16 oed fod yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, gan ddibynnu ar eu haeddfedrwydd a’u gallu i ddeall.
     
101

Mae’n bwysig eich bod yn asesu aeddfedrwydd a dealltwriaeth ar sail unigol, gan ystyried cymhlethdod a phwysigrwydd y penderfyniad i’w wneud. Dylech gofio na fydd person ifanc sy’n meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd i driniaeth syml ac sy’n gymharol rhydd o risg, o reidrwydd yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd i driniaeth gymhleth sy’n cynnwys risgiau uchel neu ganlyniadau difrifol. Yn ogystal, gall eu galluedd i roi eu caniatâd gael ei effeithio gan eu datblygiad corfforol ac emosiynol, a chan newidiadau i’w hiechyd a’u triniaeth.

102

Dylech wrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc ynghylch eu hiechyd, gan ymateb iddynt, a chan ystyried y ffordd orau o’u cynorthwyo i feithrin dealltwriaeth o’r materion clinigol, gymaint ag y gallant. Dylech eu cynnwys gymaint ag y bo modd mewn trafodaethau ynghylch eu gofal, os ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain neu beidio. Ni ddylech gadw gwybodaeth yn ôl ynghylch eu diagnosis a’u prognosis y byddent yn gallu ei deall, oni bai eu bod yn gofyn i chi wneud hynny, neu os byddwch yn barnu y gallai rhoi’r wybodaeth hon beri niwed difrifol iddynt. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘niwed difrifol’ yn golygu mwy na’r posibilrwydd y bydd hyn yn peri gofid i’r plentyn, neu y byddant yn penderfynu gwrthod y driniaeth.

103

Dylech weithio mewn ffordd adeiladol gyda’r plentyn neu’r person ifanc os oes modd, a gyda’u rhieni neu eu gofalwyr ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, gan geisio sicrhau consensws ynghylch y dewisiadau o ran triniaethau ac ynghylch pa gamau gweithredu a fyddai’n cynnig y budd pennaf iddynt. Dylech fod yn ymwybodol o’r trefniadau ynghylch eiriolaeth a chyfryngu lle’r ydych yn gweithio, er mwyn i chi allu cynghori’r plentyn a’u rhieni ynghylch ble y mae modd iddynt gael help a chymorth wrth wneud eu penderfyniad os ydynt yn dymuno’i gael neu os bydd angen iddynt i’w gael. 

C Plant a phobl ifanc heb alluedd

104

Os na fydd plentyn yn meddu ar alluedd i roi eu caniatâd, dylech drafod y triniaethau sy’n briodol ar lefel glinigol yn ôl eich asesiad chi, gyda’u rhieni, a cheisio’u caniatâd nhw i’r driniaeth os byddant o’r farn ei bod er budd pennaf y plentyn. Fel arfer, bydd yn ddigonol sicrhau caniatâd un rhiant ond os bydd mwy nag un person yn meddu ar awdurdod rhiant, dylech eu hannog i sicrhau consensws. Ar ôl trafod, os byddwch chi a’r rhieni yn sicrhau consensws na fyddai triniaeth i ymestyn oes y plentyn er eu budd pennaf, ac mae’r driniaeth yn cael ei hatal neu ni fydd y driniaeth yn cychwyn, rhaid i chi sicrhau bod unrhyw symptomau gofidus yn cael sylw a bod y plentyn yn cael eu cadw mewn cyflwr mor gyffyrddus ag y bo modd. Rhaid i chi fonitro cyflwr y plentyn a bod yn barod i ailasesu manteision, beichiau a risgiau triniaeth yng ngoleuni newidiadau i’w cyflwr. Rhaid i chi barhau i gynnwys y rhieni yn llawn.

105

Os na fydd person ifanc sy’n 16 neu’n 17 oed yn meddu ar alluedd, yn yr Alban, bydd modd i chi wneud penderfyniadau ar yr un sail ag y byddwch yn eu gwneud ar ran oedolyn heb alluedd i benderfynu (gweler paragraffau paragraphs 15 - 16). Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 104 ond os na fydd rhiant ar gael, gallwch wneud y penderfyniad ynghylch triniaeth a gofal gan ddilyn yr arweiniad ym mharagraff paragraph 16(f).

15

Os byddwch yn asesu nad yw claf yn meddu ar alluedd8 i wneud penderfyniad, rhaid i chi:

a. fod yn eglur ynghylch pa benderfyniadau y mae angen eu gwneud am driniaeth a gofal

b. Gwirio pwy sy’n meddu ar y cyfrifoldeb dros benderfynu pa ddewis fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf, gan sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i ddarganfod:

  1. a oes unrhyw dystiolaeth o werthoedd a dewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol, y gallent fod yn gyfreithiol rwymol, megis gwrthod triniaeth ymlaen llaw
  2. a oes rhywun arall yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf neu wedi cael eu penodi i’w cynrychioli. *[neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)]. Dylech gofio nad yw’r pwerau y bydd dirprwy cyfreithiol9 yn meddu arnynt yn cynnwys pob math o driniaeth efallai, felly dylech chi archwilio cwmpas eu hawdurdod er mwyn gwneud penderfyniad10  

c. Os nad oes tystiolaeth o benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, sy’n gyfreithiol rwymol, ac nid oes gan unrhyw un awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad hwn ar ran y claf,*neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)] yna, os mai chi sydd â’r prif gyfrifoldeb dros driniaeth a gofal y claf, rydych chi’n gyfrifol am benderfynu ar yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol iddynt11 . 

Wrth wneud hyn, rhaid i chi:

  1. ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, gan ystyried eu safbwyntiau ynghylch yr hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, gan geisio dod i gytundeb gyda nhw
  2. ystyried pa ddewis sy’n cyd-fynd agosaf ag anghenion, dewisiadau, gwerthoedd a blaenoriaethau’r claf
  3. ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol
16

Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:

  1. Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
  3. Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
  4. Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
  5. Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
  6. Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n  y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch  y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
  7. Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
  8. Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
  9. Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.

Plant newydd-anedig a phlant bach

106

Mae’n gallu bod yn arbennig o anodd gwneud penderfyniad ar sail yr hyn sydd er budd pennaf plentyn newydd-anedig neu blentyn bach. Wrth ystyried manteision, beichiau a risgiau triniaeth (gan gynnwys adfywio, a maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol), os byddwch yn dod i’r casgliad, er y byddai darparu triniaeth yn debygol o ymestyn eu hoes, y byddai’n achosi poen neu feichiau eraill a fyddai’n gorbwyso unrhyw fanteision, ac rydych yn sicrhau consensws gyda rhieni’r plentyn a’r tîm gofal iechyd y byddai er budd pennaf y plentyn i atal neu i beidio cychwyn y driniaeth, gallwch wneud hynny. Fodd bynnag, yn achos penderfyniadau ynghylch maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol, cyn i chi wneud penderfyniad pendant i atal neu i beidio cychwyn y driniaeth, rhai i chi geisio ail farn (neu, os na fydd modd gwneud hyn, cyngor) gan ddilyn yr arweiniad ym mharagraff paragraph 121. Beth bynnag fo’r penderfyniad a wneir, rhaid i chi sicrhau bod unrhyw symptomau gofidus y gallai’r plentyn fod yn eu hwynebu yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithiol, a bod cyflwr y plentyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

121

Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i chi sicrhau bod buddiannau’r claf wedi cael eu hystyried yn drylwyr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn sicrhau ail farn gan glinigwr uwch (a allai fod yn gweithio mewn disgyblaeth arall), y mae ganddynt brofiad o gyflwr y claf, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gofal y claf. Dylid seilio’r farn hon ar archwiliad o’r claf gan y clinigwr. Mewn amgylchiadau arbennig, os na fydd modd gwneud hyn am resymau ymarferol, rhaid i chi sicrhau cyngor gan gydweithiwr o hyd, er enghraifft, dros y ffôn, ar ôl rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gyflwr y claf. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol hefyd.36 

Pryderon a gofidiau rhieni

107

Dylech fod yn sensitif i bryderon a gofidiau rhieni pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch atal neu beidio cychwyn darparu triniaeth a allai ymestyn oes. Er enghraifft, efallai y bydd rhieni yn teimlo’n gyfrifol am unrhyw ganlyniadau niweidiol ac yn dymuno cael sicrwydd bod yr holl driniaeth briodol yn cael ei chynnig i’w plentyn. Rhaid i chi wrando ar eu pryderon, ystyried eu safbwyntiau’n ofalus ynghylch newidiadau yng nghyflwr eu plentyn, a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar wybodaeth neu gymorth os byddant ei angen neu os byddant yn ei ddymuno. Dylech geisio sicrhau eu bod yn cael negeseuon eglur a chyson am ofal neu gyflwr eu plentyn gan wahanol aelodau’r tîm gofal iechyd.

Datrys anghytundebau

108

Os bydd anghytundebau’n codi ynghylch y camau a fyddai er budd pennaf plentyn neu berson ifanc, bydd modd eu datrys fel arfer, er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol; trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol; trwy geisio ail farn; trwy gynnal cynhadledd achos neu ymgynghoriad moeseg; neu thrwy ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Ar ôl cymryd camau o’r fath, os bydd anghytundeb sylweddol yn bodoli o hyd, dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Dylid ystyried y cam o droi at y llys fel ffordd adeiladol o ystyried y materion yn drylwyr ac o gynnig sicrwydd i’r plentyn a’r rhieni bod buddiannau’r plentyn wedi cael eu hystyried yn gywir wrth wneud y penderfyniad.