Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Geirfa

Cynllunio gofal ymlaen llaw: Y broses o drafod a chofnodi y math o driniaeth a gofal y byddai claf yn dymuno’i gael neu na fyddent yn dymuno’i gael yn y dyfodol. Fel arfer, mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn canolbwyntio ar gyfrannu at benderfyniadau ar ôl i unigolyn golli galluedd, neu os na fyddant yn gallu cyfleu eu dymuniadau. Fodd bynnag, gall y broses helpu rhywun sy’n dioddef salwch sy’n byrhau bywyd i ystyried y trefniadau clinigol neu bersonol er mwyn rheoli eu cyflwr wrth iddo ddatblygu. Er enghraifft, ble y dylent gael eu gofal a’r sawl y byddent yn dymuno iddynt fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau am wahanol agweddau ar eu gofal. Caiff cynllun gofal ymlaen llaw ei greu gyda chlaf ac mae’n darparu cofnod o ddymuniadau a gwerthoedd, dewisiadau a phenderfyniadau’r claf, er mwyn sicrhau bod y gofal yn cael ei gynllunio a’i ddarparu mewn ffordd sy’n bodloni eu hanghenion nhw a chan gynnwys a bodloni anghenion y rhai sy’n agos i’r claf. Fel rhan o weithgarwch cynllunio gofal ymlaen llaw, efallai y bydd cleifion yn dymuno cael cynllun gofal brys (megis proses ReSPECT a modelau cymeradwy eraill), sy’n cynnig argymhellion clinigol cryno ac y mae modd troi atynt yn gyflym os bydd angen gwneud penderfyniadau brys ynghylch triniaeth a gofal. 

Penderfyniad ymlaen llaw neu gyfarwyddyd ymlaen llaw: Datganiad ynghylch dymuniad claf i wrthod math penodol o ofal neu driniaeth feddygol os na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu’n gallu cyfleu penderfyniadau o’r fath. Fe’u gelwir yn benderfyniadau ymlaen llaw yng Nghymru a Lloegr, a chyfarwyddiadau ymlaen llaw yn yr Alban. Os bydd penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth yn ddilys ac yn berthnasol i amgylchiadau presennol y person, ac yn bodloni unrhyw feini prawf cyfreithiol eraill, rhaid ei barchu. Bydd yn gyfreithiol rwymol ar y rhai sy’n darparu gofal yng Nghymru a Lloegr (ar yr amod ei fod yn bodloni’r meini prawf cyfreithiol ychwanegol os yw’n ymwneud â thriniaeth i ymestyn bywyd), ac mae’n debygol o fod yn gyfreithiol rwymol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.

Datganiad ymlaen llaw: Datganiad ynghylch safbwyntiau claf am y ffordd y byddent neu’r ffordd na fyddent yn dymuno cael eu trin os na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu’n gallu cyfleu penderfyniadau o’r fath. Gall hwn fod yn ddatganiad cyffredinol ynghylch, er enghraifft, dymuniadau sy’n ymwneud â’r man lle y byddant yn preswylio, credoau crefyddol a diwylliannol, a gwerthoedd a dewisiadau personol eraill, yn ogystal ag ynghylch gofal a thriniaeth feddygol. 

Maeth a hydradiad artiffisial (ANH): Gweler maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol. 

Galluedd: Y gallu i wneud penderfyniad. Bernir bod oedolyn yn meddu ar alluedd oni bai, ar ôl iddynt gael yr holl help a chymorth priodol, ei bod yn amlwg na allant ddeall, cofio, defnyddio neu bwyso a mesur y wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad penodol, neu gyfleu eu dymuniadau.

Maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol (CANH): Mae maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnwys bwydo trwynol-gastrig a thrwy stumog- drychiad endosgopig trwy’r croen (PEG) neu diwbiau bwydo stumog-drychiad wedi’u gosod mewn ffordd radiolegol (RIG) trwy wal yr abdomen. Yn ogystal, mae PEG, RIS a bwydo gyda chymorth tiwb trwynol-gastrig yn darparu’r hylifau sy’n angenrheidiol er mwyn cadw cleifion wedi’u hydradu. Mae hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnwys rhoi hylifau mewn ffordd mewnwythiennol neu isgroenol (defnyddio ‘drip’), a bwydo gyda chymorth tiwb trwynol-gastrig neu roi hylif. Nid yw’r term ‘maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol’ yn cyfeirio at yr help a roddir i gleifion fwyta neu yfed, er enghraifft, trwy eu bwydo â llwy.

Clinigwr: Gweithiwr iechyd proffesiynol, megis meddyg neu nyrs, sy’n ymwneud â gwaith clinigol.

DNACPR: Byrfodd y term Saesneg ‘Do Not Attempt Cardiopulmonary Resuscitation’, sef Peidio Rhoi Cynnig ar Adfywio’r Galon a’r Ysgyfaint yn Gymraeg. Efallai y gelwir y cynlluniau rheoli ymlaen llaw hyn yn ffurflenni DNAR neu’n benderfyniadau Caniatáu Marwolaeth Naturiol mewn rhai lleoliadau gofal iechyd. 

Diwedd oes: Bydd cleifion yn ‘agosáu at ddiwedd eu hoes’ pan fyddant yn debygol o farw yn ystod y 12 mis nesaf. Mae hyn yn cynnwys y cleifion hynny y disgwylir iddynt farw ymhen oriau neu ddiwrnodau; y rhai y mae ganddynt gyflyrau datblygedig, cynyddol anwelladwy; y rhai y maent yn dioddef eiddilwch cyffredinol a chyflyrau cydfodol, sy’n golygu y disgwylir iddynt farw cyn pen 12 mis; y rhai y maent mewn perygl o farw o ganlyniad i argyfwng aciwt sydyn o ganlyniad i gyflwr presennol; a’r rhai y mae ganddynt gyflyrau aciwt sy’n bygwth eu bywyd, a achoswyd gan ddigwyddiadau catastroffig sydyn. Yn ogystal, gall y term ‘agosáu at ddiwedd oes’ fod yn berthnasol i fabanod sy’n cael eu geni ymhell cyn pryd hefyd, ac y mae’n hysbys bod eu siawns o oroesi yn fach iawn, a chleifion y rhoddir diagnosis eu bod mewn cyflwr diymateb parhaol (PVS) ac y gallai penderfyniad i roi’r gorau i roi triniaeth iddynt, arwain at eu marwolaeth.

Cyfnod olaf: Cam neu gyfnod olaf clefyd cynyddol sy’n arwain at farwolaeth claf. 

Dirprwy cyfreithiol: Person sy’n meddu ar awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau penodol ar ran oedolyn arall. Mae dirprwyon cyfreithiol sy’n gallu gwneud penderfyniadau gofal iechyd yn cynnwys: person sy’n meddu ar Atwrneiaeth Barhaol (Cymru a Lloegr) neu Atwrneiaeth Lles (yr Alban); dirprwy a benodir gan lys (Cymru a Lloegr); a gwarcheidwad a benodir gan lys neu ymyrrwr a benodir gan lys (yr Alban). Ar hyn o bryd, nid oes gan Ogledd Iwerddon ddarpariaeth ar gyfer penodi dirprwyon cyfreithiol sy’n meddu ar y grym i wneud penderfyniadau gofal iechyd.

Cyflwr lled-anymwybodol (MCS): Cyflwr o ymwybod sydd wedi newid mewn ffordd ddifrifol, lle y dangosir tystiolaeth ymddygiadol neu ymwybyddiaeth o’r hunan neu ymwybyddiaeth amgylcheddol bach iawn, ond dirnadwy. Nodweddir MCS gan ymatebion anghyson, ond atgynyrchadwy, sy’n uwch na lefel ymddygiad digymell neu atblygol, sy’n dynodi rhywfaint o ryngweithio gyda’u hamgylchedd. (RCP Prolonged disorders of consciousness following sudden onset brain injury: national clinical guidelines s.1.2)

Plant newydd-anedig: Babanod newydd-anedig (llai na mis oed). 

Budd cyffredinol: Yn yr arweiniad hwn, mae’r term ‘budd cyffredinol’ yn disgrifio’r sail foesegol er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal ar gyfer cleifion y maent yn oedolion, ond heb alluedd i benderfynu dros eu hunain. Mae hyn yn ymwneud â phwyso a mesur risgiau niwed, beichiau a manteision posibl pob un o’r dewisiadau sydd ar gael i’r claf unigol, gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth. Mae’n cynnwys ffactorau clinigol posibl, ond hefyd, ffactorau anghlinigol posibl megis amgylchiadau personol, dymuniadau, credoau a gwerthoedd y claf. Mae arweiniad CMC ynghylch budd cyffredinol, a weithredir gyda’r egwyddorion ynghylch gwneud penderfyniadau ym mharagraffau 7–13, yn cyd-fynd gyda’r gofyniad cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth yn cynnig ‘budd’ i glaf (yr Alban), neu a yw er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). 

Gofal lliniarol: Gofal holistig ar gyfer cleifion sy’n dioddef salwch datblygedig, cynyddol ac anwelladwy, sy’n canolbwyntio ar reoli poen claf ac unrhyw symptomau llethol eraill, a darparu cymorth seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol i gleifion a’u teuluoedd. Nid yw gofal lliniarol yn ddibynnol ar ddiagnosis neu brognosis ac mae modd ei ddarparu ar unrhyw adeg yn ystod salwch claf, nid yn ystod diwrnodau olaf eu hoes yn unig. Yr amcan yw cynorthwyo cleifion i fyw bywyd mor dda ag y bo modd nes y byddant yn marw, ac i farw gydag urddas. 

Cyflwr diymateb parhaol (PVS): Fe’i gelwir yn ‘gyflwr diymateb parhaus’ hefyd. Cyflwr diwrthdro sy’n deillio o niwed i’r ymennydd, ac a nodweddir gan ddiffyg ymwybyddiaeth, meddwl, a theimlad, er bod rhai gweithgareddau ymateb, megis anadlu, yn parhau. 

Ail farn: Barn annibynnol gan glinigwr uwch (a allai fod yn gweithio mewn disgyblaeth arall) y mae ganddynt brofiad o gyflwr y claf, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gofal y claf. Dylid seilio ail farn ar archwiliad o’r claf gan y clinigwr. 

Y rhai sy’n agos i’r claf: Unrhyw un a enwebir gan y claf, perthnasau agos (gan gynnwys rhieni os yw’r claf yn blentyn), partneriaid, ffrindiau agos, gofalwyr cyflogedig neu ddigyflog y tu allan i’r tîm gofal iechyd, eiriolwyr annibynnol neu eraill y mae ganddynt ddiddordeb yn lles y claf. Gallai gynnwys atwrneiod ar gyfer materion ariannol a materion sy’n ymwneud ag eiddo a dirprwyon cyfreithiol eraill mewn rhai amgylchiadau.