Bodloni anghenion cleifion am faeth a hydradiad
Mae gan bob claf yr hawl i gael bwyd a diod digonol ac o ansawdd digonol, a’r help y bydd angen iddynt ei gael er mwyn bwyta ac yfed. Gall diffyg maeth a diffyg hylif achosi salwch ac fe allant fod o ganlyniad i salwch, felly mae cynnal lefel iach o ran maeth a hydradiad yn gallu helpu i atal neu drin salwch a symptomau, gan wella canlyniadau triniaeth i gleifion. Rhaid i chi barhau i adolygu statws maeth a hydradiad eich cleifion. Dylech fod yn fodlon bod maeth a hydradiad yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion eich claf, ac yn ôl yr angen, bod cleifion yn cael help digonol er mwyn eu galluogi i fwyta ac yfed.
Os bydd claf yn gwrthod bwyd neu ddiod32, neu os bydd yn cael problemau wrth fwyta neu yfed, dylech asesu a delio gydag unrhyw achosion corfforol neu seicolegol sylfaenol, y byddai modd eu gwella gyda thriniaeth neu ofal, yn gyntaf. Er enghraifft, bydd rhai cleifion yn stopio bwyta oherwydd iselder, neu boen a achosir gan ddannedd gosod neu wlserau yn y geg, neu am resymau eraill y mae modd mynd i’r afael â nhw. Os bydd angen cymorth ar glaf i fwyta neu yfed ac nid yw’r cymorth hwnnw yn cael ei ddarparu, neu os ceir problemau sylfaenol nad ydynt yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithiol, dylech gymryd camau i ddatrys y sefyllfa, os y gallwch. Os na allwch wneud hynny, dylech hysbysu person priodol o fewn y sefydliad sy’n gyfrifol am ofal y claf.
Mae cynnig bwyd a diod trwy’r geg yn rhan o ofal sylfaenol (yn yr un modd ag y mae cynnig lleddfu poen a golchi) ac mae’n rhaid eu cynnig bob amser i gleifion sy’n gallu llyncu heb risg difrifol y byddant yn tagu neu’n anadlu bwyd neu ddiod i mewn. Mae cleifion yn gallu gwrthod bwyd a diod pan fydd yn cael ei gynnig iddynt, ond ni fydd gan y penderfyniad i wrthod bwyd a diod ymlaen llaw, unrhyw rym.
Os ydych yn pryderu nad yw claf yn cael maeth neu hydradiad digonol trwy’r geg, hyd yn oed gyda chymorth, rhaid i chi gynnal asesiad o’u cyflwr a’u gofynion unigol. Rhaid i chi asesu eu hanghenion am faeth a hydradiad ar wahân, gan ystyried pa ffurfiau o faeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol a allai fod yn angenrheidiol er mwyn bodloni eu hanghenion.