Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol

112

Mae maeth gyda chymorth clinigol yn cynnwys bwydo mewnwythiennol a bwydo gyda chymorth tiwb trwynol-gastrig a thrwy stumog-drychiad endosgopig trwy’r croen (PEG) a thiwbiau bwydo stumog-drychiad wedi’u gosod mewn ffordd radiolegol (RIG) trwy wal yr abdomen. Mae’r holl ffyrdd hyn o ddarparu maeth yn darparu’r hylifau sy’n angenrheidiol er mwyn cadw cleifion wedi’u hydradu hefyd. Yn ogystal, gellir darparu maeth gyda chymorth clinigol trwy gyfrwng trwythiad mewnwythiennol neu isgroenol hylifau trwy ‘drip’. Nid yw’r termau ‘maeth gyda chymorth clinigol’ a ‘hydradiad gyda chymorth clinigol’ yn cyfeirio at yr help a roddir i gleifion fwyta neu yfed, er enghraifft, trwy eu bwydo â llwy.

113

Gallai darparu maeth a hydradiad trwy diwb neu drip leddfu symptomau, neu ymestyn oes neu wella ansawdd bywyd y claf; ond fe allai arwain at broblemau hefyd. Nid yw’r dystiolaeth bresennol ynghylch manteision, beichiau a risgiau’r technegau hyn wrth i gleifion agosáu at ddiwedd eu hoes, yn bendant. Gall hyn arwain at bryderon y gallai cleifion sy’n anymwybodol neu sy’n lled-ymwybodol fod yn profi cymhlethdodau a symptomau gofidus, neu fel arall, eu bod yn dioddef, naill ai oherwydd nad yw eu hanghenion am faeth neu hydradiad yn cael eu bodloni, neu oherwydd y gallai ymdrechion i fodloni eu hanghenion ymddangosiadol am faeth neu hydradiad fod yn achosi dioddefaint iddynt y byddai modd ei osgoi.

114

Caiff maeth a hydradiad a ddarparir gan diwb neu drip eu hystyried fel triniaeth feddygol gan y gyfraith33, a dylid eu trin yn yr un modd ag y bydd ymyriadau meddygol eraill yn cael eu trin. Er hyn, mae rhai pobl o’r farn bod maeth a hydradiad, os yw’n cael ei gymryd trwy’r geg neu trwy diwb neu drip, yn rhan o’r porthiant sylfaenol ar gyfer y claf, y dylid ei ddarparu bron bob amser. Am y rheswm hwn, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gwrando ar ac yn ystyried safbwyntiau’r claf a’r rhai sy’n agos iddynt (gan gynnwys eu safbwyntiau diwylliannol a chrefyddol), gan esbonio’r materion i’w hystyried, gan gynnwys manteision, beichiau a risgiau darparu maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol. Dylech sicrhau bod cleifion, y rhai sy’n agos iddynt a’r tîm gofal iechyd yn deall y bydd maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol bob amser yn cael ei gynnig pan fydd er budd cyffredinol y claf; ac os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i beidio darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol, y bydd y claf yn parhau i gael gofal o ansawdd uchel, ac y bydd unrhyw symptomau’n cael sylw.

33

Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821

115

Os bydd anghytundeb yn codi rhyngoch chi a’r claf (neu’r rhai sy’n agos i glaf heb alluedd), neu rhyngoch chi ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm a’r rhai sy’n agos i’r claf, ynghylch a ddylid darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol, dylech geisio penderfyniad gan ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 47 - 49. Dylech sicrhau bod y claf, neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan, yn cael eu hysbysu ac yn cael cyngor ynghylch hawliau’r claf a sut y mae modd iddynt fanteisio ar eu cynrychiolaeth neu eu cyngor cyfreithiol eu hunain.

47

Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.

48

Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli. 

49

Mewn sefyllfaoedd pan fo claf sy’n meddu ar alluedd i benderfynu yn gofyn am driniaeth, ac nid ydynt yn derbyn eich barn chi na fyddai’r driniaeth yn briodol ar lefel glinigol, gallai’r camau a awgrymir uchod er mwyn datrys anghytundeb fod o gymorth hefyd.

Cleifion sy’n meddu ar alluedd

116

Os byddwch o’r farn nad yw claf yn cael maeth neu hydradiad digonol trwy’r geg, dylech ddilyn y model penderfynu ym mharagraff paragraph 14. Rhaid i chi asesu anghenion maeth a hydradiad y claf ar wahân a chynnig y triniaethau hynny a fyddai’n briodol ar lefel glinigol i’r claf yn eich barn chi oherwydd, er enghraifft, y byddent yn lleddfu symptomau neu’n debygol o ymestyn hyd oes y claf. Rhaid i chi esbonio’r manteision, y beichiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig gyda’r triniaethau i’r claf, er mwyn i’r claf allu gwneud penderfyniad ynghylch a ddylent eu derbyn neu beidio.34 

14

Os yw claf yn meddu ar alluedd7 i wneud penderfyniad dros ei, dyma’r model a fydd yn berthnasol wrth benderfynu:

  1. Byddwch chi a’r claf yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried ei hanes meddygol, ei safbwyntiau, ei  brofiad a’i wybodaeth. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar brofiad a gwybodaeth arbenigol a barn glinigol, yn ogystal â safbwyntiau a dealltwriaeth y claf o’i gyflwr, i nodi pa ddewisiadau er mwyn ymchwilio, trin neu reoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio cymryd unrhyw gamau) sy’n briodol yn glinigol. Byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r claf, gan nodi manteision, beichiau a risgiau posibl pob dewis. Efallai byddwch yn argymell dewis penodol sy’n cyfateb â’r dewis gorau i’r claf yn eich barn, ond rhaid ichi beidio â rhoi pwysau ar y claf i dderbyn eich cyngor.
  3.  Bydd y claf yn ystyried manteision, beichiau a risgiau posibl y dewisiadau amrywiol, yn ogystal ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol iddo. Bydd y claf yn penderfynu rhwng y dewisiadau. Yn ogystal, bydd ganddo’r hawl i dderbyn neu wrthod dewis am reswm a allai ymddangos yn afresymol i chi, neu am ddim rheswm o gwbl.
  4. Os bydd y claf yn gofyn am driniaeth na fyddai o fudd cyffredinol iddo yn eich barn chi, dylech ystyried ei resymau dros ofyn am hyn, ei ddealltwriaeth o’r hyn y byddai’r driniaeth/gofal yn ei olygu, a’i ddisgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd canlyniad y drafodaeth hon yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl trafod y sefyllfa, os byddwch chi o’r farn na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r claf, gan ystyried pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael, gan gynnwys hawl y claf i geisio ail farn.
34

Mae ystyriaethau ychwanegol yn berthnasol i benderfyniadau ynghylch maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy’n meddu ar alluedd (gweler paragraffau 90 - 91).

117

Os byddwch yn asesu na fyddai maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn briodol ar lefel glinigol, rhaid i chi fonitro cyflwr y claf, gan ailasesu manteision, beichiau a risgiau darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol wrth i gyflwr y claf newid. Os bydd claf yn gofyn i chi ddarparu maeth neu hydradiad trwy gyfrwng tiwb neu drip, dylech drafod y materion gyda’r claf, gan ystyried y rhesymau dros eu cais. Rhaid i chi ailasesu manteision, beichiau a risgiau darparu’r driniaeth y gofynnwyd amdani, gan roi pwys ar ddymuniadau a gwerthoedd y claf. Pan fydd y cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, cais y claf fydd y ffactor penderfynodol fel arfer. Fodd bynnag, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth yn briodol ar lefel glinigol ar ôl cynnal trafodaeth, ni fydd yn rhaid i chi ei darparu. Ond dylech esbonio’ch rhesymau i’r claf, gan esbonio unrhyw ddewisiadau eraill sydd ar gael, gan gynnwys y dewis i geisio ail farn.

Cleifion heb alluedd ac y maent yn oedolion

118

Os na fydd claf yn meddu ar alluedd35 ac os na fydd yn gallu bwyta neu yfed digon er mwyn, bodloni ei anghenion am faeth neu hydradiad, rhaid i’r person sy’n bennaf gyfrifol am ei driniaeth a’i ofal asesu a fyddai darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol o fudd cyffredinol iddynt, gan ddilyn y model penderfynu ym mharagraff paragraph 16 a’r arweiniad ym mharagraffau paragraphs 40 - 48. el arfer, bydd maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnig budd cyffredinol, os er enghraifft, y byddant yn ymestyn bywyd neu’n lleddfu symptomau. Rhaid i chi asesu anghenion y claf am faeth a hydradiad ar wahân. Rhaid i chi fonitro cyflwr y claf, gan ailasesu manteision, beichiau a risgiau darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol wrth i gyflwr y claf newid.

16

Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:

  1. Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
  3. Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
  4. Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
  5. Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
  6. Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n  y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch  y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
  7. Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
  8. Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
  9. Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.
40

Rhaid pwyso a mesur manteision triniaeth a allai ymestyn bywyd, gwella cyflwr claf neu reoli eu symptomau, yn erbyn y beichiau a’r risgiau i’r claf hwnnw, cyn y gallwch ffurfio barn ynghylch ei gallu i gynnig budd iddynt. Er enghraifft, efallai na fydd o fudd i glaf gael triniaethau a allai ymestyn bywyd, ond sy’n feichus, yn ystod diwrnodau olaf eu hoes, pan fo ffocws y gofal yn newid o gynnig triniaeth weithredol, i reoli symptomau’r claf a’u cadw’n gyffyrddus.

41

Nid yw’r manteision, y beichiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thriniaeth wedi’u cyfyngu i ystyriaethau clinigol bob amser, a dylech fod yn ofalus wrth ystyried y ffactorau eraill sy’n berthnasol i amgylchiadau pob claf.

42

Bydd cleifion sy’n meddu ar alluedd yn ffurfio’u barn eu hunain ynghylch y ffactorau personol y maent yn dymuno’u hystyried a’r pwys y maent yn dymuno’i roi ar y rhain, ochr yn ochr â’r ystyriaethau clinigol. paragraph 14)

43

Yn achos cleifion heb alluedd, bydd eu dirprwy cyfreithiol yn ffurfio’r barnau hyn ar ôl cael cyngor gennych chi ac eraill sy’n ymwneud â gofal y claf. Os ydych chi yn gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch budd cyffredinol, mae’n debygol y bydd y rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau’r tîm gofal iechyd yn meddu ar wybodaeth ynghylch dymuniadau, gwerthoedd a dewisiadau ac unrhyw ffactorau personol eraill y dylid eu hystyried. (Gweler y model ar gyfer gwneud penderfyniadau ym paragraph 16.) Yn ogystal, efallai y bydd modd i chi weld gwybodaeth am ddymuniadau’r claf yn eu nodiadau, yn eu cynllun gofal ymlaen llaw neu mewn cofnod arall, megis cais ymlaen llaw am driniaeth neu benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth.

44

Efallai na fydd rhai cleifion, a’r rhai sy’n agos iddynt, yn ymwybodol o ystod y gwasanaethau a’r triniaethau sydd ar gael iddynt, ac fe allai hyn gael effaith ar y dewisiadau a fyddai’n cynnig budd iddynt yn eu barn nhw. Dylech deimlo’n fodlon bod y claf yn meddu ar wybodaeth a chymorth digonol er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth fanteisio ar ofal a thriniaeth fuddiol.

45

Gallai fod yn arbennig o anodd ffurfio barn ynghylch budd cyffredinol triniaeth os yw’r claf yn cael problemau wrth gyfleu eu dymuniadau a’u dewisiadau, neu pan fyddant heb alluedd. Mewn achosion o’r fath, ni ddylech ddibynnu ar eich gwerthoedd chi neu werthoedd y bobl hynny yr ymgynghorwyd â nhw ynghylch y claf. Dylech gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn cynyddu gallu’r claf i gymryd rhan yn y broses o benderfynu gymaint ag y bo modd. Gallwch weld cyngor manwl ynghylch y ffordd o fynd ati yn hyn o beth trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd..

46

Rhaid i chi fod yn ofalus na fyddwch yn dibynnu ar eich safbwyntiau personol ynghylch ansawdd bywyd claf, gan osgoi ffurfio barn ar sail tybiaethau di-sail neu a seiliwyd ar wybodaeth sydd ymhell o fod yn dda ynghylch anghenion gofal iechyd grwpiau penodol, megis pobl hŷn a’r rhai sydd ag anableddau.

47

Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.

48

Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli. 

35

Mae’r adran ynghylch plant newydd-anedig, plant a phobl ifanc yn cynnwys cyngor cyffredinol ynghylch plant heb alluedd. Trafodir penderfyniadau ynghylch maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol sy’n ymwneud â phlant newydd-anedig a phlant bach ym mharagraff 106.

Oedolion analluog: na ddisgwylir iddynt farw ymhen oriau neu ddyddiau

119

Os bydd claf wedi cyrraedd cyfnod olaf clefyd neu gyflwr, ond rydych o’r farn na ddisgwylir iddynt farw ymhen oriau neu ddyddiau, rhaid darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol iddo os byddai’n cynnig budd cyffredinol, gan ystyried credoau a gwerthoedd y claf, unrhyw gais a wnaethpwyd yn flaenorol am faeth neu hydradiad trwy diwb neu drip ac unrhyw safbwyntiau eraill y maent wedi’u mynegi yn flaenorol ynghylch eu gofal. Rhaid rhoi pwys ar gais y claf a phan fo’r cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, hwn fydd y ffactor penderfynodol fel arfer.

120

Rhaid i chi asesu anghenion y claf am faeth a hydradiad ar wahân. Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am ei driniaeth a’i ofal a’ch bod o’r farn na fyddai darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnig budd cyffredinol i’r claf, gallwch ddod i’r casgliad na ddylid cychwyn rhoi’r driniaeth ar yr adeg honno, neu y dylid rhoi’r gorau i’w rhoi. Dylech esbonio’ch safbwynt i’r claf, os yw hynny’n briodol, ac i’r rhai sy’n agos iddynt, gan ymateb i unrhyw gwestiynau neu bryderon y byddant yn eu mynegi.

121

Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i chi sicrhau bod buddiannau’r claf wedi cael eu hystyried yn drylwyr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn sicrhau ail farn gan glinigwr uwch (a allai fod yn gweithio mewn disgyblaeth arall), y mae ganddynt brofiad o gyflwr y claf, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gofal y claf. Dylid seilio’r farn hon ar archwiliad o’r claf gan y clinigwr. Mewn amgylchiadau arbennig, os na fydd modd gwneud hyn am resymau ymarferol, rhaid i chi sicrhau cyngor gan gydweithiwr o hyd, er enghraifft, dros y ffôn, ar ôl rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gyflwr y claf. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol hefyd.36 

36

Gallwch drafod y dewisiadau gyda’ch sefydliad amddiffyn neu adran gyfreithiol eich cyflogwr. Yng Ngogledd Iwerddon, lle na cheir deddfwriaeth sylfaenol neu gyfraith achosion berthnasol sy’n ymwneud â’r awdurdodaeth, gallai fod yn arbennig o bwysig gwneud hynny cyn gweithredu ar sail penderfyniadau.

122

Os byddwch yn sicrhau consensws na fyddai maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn cynnig budd cyffredinol i’r claf, ac mae’r driniaeth yn cael ei hatal neu ni fydd yn cychwyn, rhaid i chi sicrhau bod y claf yn cael eu cadw’n gyffyrddus ac y rhoddir sylw i unrhyw symptomau gofidus. Rhaid i chi fonitro cyflwr y claf a bod yn barod i ailasesu manteision, beichiau a risgiau darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yng ngoleuni newidiadau i’w cyflwr. Os bydd maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn dechrau cael ei roi neu’n cael ei roi unwaith eto ar ôl asesiad yn nes ymlaen, ac os byddwch yn dod i’r casgliad wedi hyn na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i barhau gyda’r driniaeth, rhaid i chi geisio ail farn (neu, os na fydd modd gwneud hyn, dylech geisio cyngor), gan ddilyn y cyngor ym mharagraff 121.

Oedolion analluog: y ddisgwylir iddynt farw ymhen oriau neu ddyddiau

123

Os disgwylir i glaf farw cyn pen ychydig oriau neu ddiwrnodau, a phan fyddwch o’r farn y byddai beichiau neu risgiau darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol yn gorbwyso’r manteision y maent yn debygol o’u cynnig, ni fyddai fel arfer yn briodol cychwyn y driniaeth neu barhau’r driniaeth. Rhaid i chi ystyried anghenion y claf am faeth a hydradiad ar wahân.

124

Os bydd claf wedi gofyn ymlaen llaw y dylid darparu maeth neu hydradiad nes eu marwolaeth, neu mae’r rhai sy’n agos i’r claf yn siŵr mai dyma’r hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, rhaid rhoi pwys i ddymuniadau’r claf, a phan fo’r cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, hwn fydd y ffactor penderfynodol fel arfer.

125

Rhaid i chi barhau i adolygu cyflwr y claf, yn enwedig os byddant yn byw am gyfnod hwy na’r disgwyl. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid ailasesu manteision, beichiau a risgiau darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol wrth i gyflwr y claf newid.

Cleifion mewn cyflwr diymateb parhaol (PVS) neu gyflwr lled-anymwybodol (MCS)

126

Tan 2018, roedd y llysoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn mynnu bod meddygon yr oeddent yn ystyried rhoi’r gorau i ddarparu maeth neu hydradiad i glaf PVS neu MCS yn troi atynt am ddyfarniad. Yn dilyn penderfyniad a wnaethpwyd gan y Goruchaf Lys ym mis Gorffennaf 2018, cadarnhawyd nad oes angen i feddygon sy’n gwneud gwaith meddygol yng Nghymru a Lloegr wneud hyn ym mhob achos, ar yr amod y bodlonir meini prawf penodol. Mae’r meini prawf fel a ganlyn:

  1. dilynwyd darpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  2. Mae hyn yn cynnwys arweiniad gan RCP a BMA37 
  3. pan geir cytundeb am yr hyn sy’n cynnig budd pennaf i’r claf

Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi sicrhau bod buddiannau’r claf  wedi'u hystyried yn drylwyr (gweler paragraff 121). Dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch cymhwysedd y penderfyniad hwn i Ogledd Iwerddon neu’r Alban mewn achos unigol.

Gwrthwynebu cydwybodol

127

Os bydd gennych wrthwynebiad cydwybodol i atal neu beidio darparu maeth neu hydradiad gyda chymorth clinigol, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau  paragraphs 79 - 80.

79

Gallwch dynnu yn ôl o sefyllfa lle y byddwch yn darparu gofal, os bydd eich credoau crefyddol, eich credoau moesol neu unrhyw gredoau personol eraill sydd gennych ynghylch darparu triniaeth a fydd yn ymestyn oes, yn eich arwain i wrthwynebu cydymffurfiaeth gyda:

  1. phenderfyniad claf i wrthod triniaeth o’r fath, neu
  2. benderfyniad nad yw darparu triniaeth o’r fath yn cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd i benderfynu.

Fodd bynnag, ni ddylech wneud hynny cyn sicrhau yn gyntaf bod trefniadau wedi cael eu gwneud i feddyg arall ymgymryd â’ch rôl. Nid yw’n dderbyniol tynnu’n ôl o’ch sefyllfa o ddarparu gofal ar gyfer claf os byddai hyn yn golygu na fyddai gan y claf, neu gydweithwyr, unrhyw le i droi. Trowch at ein harweiniad ynghylch Credoau personol ac arfer meddygol  (2013) am fwy o wybodaeth.

80

Os byddwch yn anghytuno gyda phenderfyniad i atal neu i beidio cychwyn darparu triniaeth a fydd yn ymestyn oes y claf ar sail eich barn glinigol ynghylch a ddylid darparu’r driniaeth neu beidio, dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau paragraphs 47 - 48 ynghylch datrys anghytundebau.