Arweiniad
Bydd angen i gleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes gael gofal a thriniaeth o ansawdd uchel, sy’n eu cynorthwyo i fyw bywyd mor dda ag y bo modd nes iddynt farw, ac i farw gydag urddas. Mae’r arweiniad hwn yn nodi nifer o’r sialensiau sy’n codi wrth sicrhau bod cleifion yn cael gofal o’r fath, gan gynnig fframwaith er mwyn eich cynorthwyo chi i ddelio gyda’r materion mewn ffordd sy’n bodloni anghenion cleifion unigol. Yn aml, bydd darparu triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes rhywun yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau sy’n rhai cymhleth ar lefel glinigol, ac sy’n peri gofid ar lefel emosiynol; ac fe allai rhai penderfyniadau gynnwys dilemâu moesegol ac ansicrwydd ynghylch y gyfraith, sy’n cymhlethu’r broses benderfynu ymhellach. Diben yr arweiniad hwn yw’ch helpu chi, beth bynnag fo’r cyd-destun yr ydych yn gweithio ynddo, i fynd i’r afael gyda’r materion hyn mewn ffordd effeithiol yng nghwmni cleifion, y tîm gofal iechyd a’r rhai y mae ganddynt ddiddordeb yn lles y claf. Mae’n ceisio sicrhau bod pobl sy’n agos i’r claf (partneriaid, teulu, gofalwyr ac eraill) yn cymryd rhan ac yn cael cymorth, wrth i’r claf gael gofal ac ar ôl i’r claf farw.
At ddibenion yr arweiniad hwn, mae cleifion yn ‘agosáu at ddiwedd eu hoes’ pan fyddant yn debygol o farw ymhen y 12 awr nesaf. Mae hyn yn cynnwys cleifion y maent ar fin marw (ymhen ychydig oriau neu ddiwrnodau) a’r rhai:
- y maent yn dioddef cyflyrau datblygedig, cynyddol ac anwelladwy
- y maent yn dioddef eiddilwch cyffredinol a chyflyrau cydfodol, sy’n golygu y disgwylir iddynt farw cyn pen 12 mis
- y maent yn dioddef cyflyrau sy’n bodoli eisoes, ac os ceir perygl y byddant yn marw o ganlyniad i argyfwng aciwt sydyn yn eu cyflwr
- y mae ganddynt gyflyrau aciwt sy’n bygwth eu bywyd, a achoswyd gan ddigwyddiadau catastroffig sydyn.
Yn ogystal, mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i’r plant newydd-anedig hynny sy’n cael eu geni ymhell cyn pryd ac y mae’n hysbys bod eu siawns o oroesi yn fach iawn, a chleifion y rhoddir diagnosis eu bod mewn cyflwr diymateb parhaol1 (PVS), ac y gallai penderfyniad i roi’r gorau i roi triniaeth iddynt, arwain at eu marwolaeth.
Cyfeirir at ‘gyflwr diymateb parhaol’ fel ‘cyflwr diymateb parhaus’ hefyd.
Yn gyffredinol, mae’r penderfyniadau mwyaf heriol sy’n codi yn y maes hwn yn ymwneud â rhoi’r gorau i roi triniaeth a allai ymestyn bywyd y claf, neu i beidio cychwyn darparu triniaeth o’r fath. Gallai hyn gynnwys triniaethau megis gwrthfiotigau, adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR), dialysis arennol, maeth a hydradiad ‘artiffisial’ (at ddibenion yr arweiniad hwn, caiff ‘artiffisial’ ei ddisodli gyda’r ymadrodd ‘gyda chymorth clinigol’2) a chymorth anadlu mecanyddol. Nid yw’r dystiolaeth ynghylch manteision, beichiau a risgiau’r triniaethau hyn yn eglur bob amser, ac mae ansicrwydd yn gallu codi ynghylch effaith glinigol triniaeth ar glaf unigol, neu ynghylch y manteision, y beichiau a’r risgiau i’r claf hwnnw. Mewn rhai amgylchiadau, efallai mai’r unig beth y bydd y triniaethau hyn yn ei wneud fydd ymestyn y broses o farw, neu beri gofid dianghenraid i’r claf. O ystyried yr ansicrwydd, efallai y bydd angen i chi ac eraill sy’n ymwneud â’r broses benderfynu gael sicrwydd ynghylch yr hyn a ganiateir ar lefel foesegol ac ar lefel gyfreithiol, yn enwedig wrth benderfynu a ddylid rhoi’r gorau i roi triniaeth a allai ymestyn bywyd.
‘Maeth a hydradiad artiffisial’ yw’r ymadrodd a ddefnyddir weithiau mewn lleoliadau gofal iechyd. Fodd bynnag, credwn bod ‘maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol’ yn ddisgrifiad manylach o’r cam o ddefnyddio drip, tiwb trwynol-gastrig neu diwb a osodir yn y stumog mewn ffordd lawfeddygol er mwyn darparu maeth a hylifau.
Yn ogystal, mae bellach yn cael ei gytuno bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel tuag at ddiwedd oes rhywun yn cynnwys gofal lliniarol sy’n canolbwyntio ar reoli poen a symptomau gofidus eraill; cynnig cymorth seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol i gleifion; a chynorthwyo’r rhai sy’n agos i’r claf. Fodd bynnag, nid yw’n cael ei gydnabod bob amser bod modd darparu gofal lliniarol ar unrhyw adeg wrth i salwch claf ddatblygu, ac nid yn ystod ychydig ddiwrnodau olaf eu hoes yn unig.
Yn y bôn, mae’r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch gofal tuag at ddiwedd oes yr un fath â’r fframwaith ar gyfer unrhyw gyfnod gofal clinigol arall. Nodir egwyddorion gwneud penderfyniadau da yn Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Pan fydd mater yn yr arweiniad hwn yn cael ei drafod yn fanylach yn nogfen Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, nodir hyn yn y testun.
Mae’n bwysig nodi ein bod yn defnyddio’r term ‘budd cyffredinol’ er mwyn disgrifio’r sail foesegol dros wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal ar gyfer cleifion sy’n oedolion, nad ydynt yn meddu ar alluedd i benderfynu. Mae arweiniad CMC ynghylch budd cyffredinol, a weithredir gyda’r egwyddorion ynghylch gwneud penderfyniadau a nodir ym mharagraffau paragraphs 7 - 13, yn cyd-fynd gyda’r gofyniad cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth yn cynnig ‘budd’3 i glaf (yr Alban), neu a yw er ‘budd pennaf’4 y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), ac i weithredu’r egwyddorion eraill a nodir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 ac Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.
Rhaid i chi roi gofal o’r un ansawdd i gleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, ag y byddwch yn ei roi i bob claf arall. Rhaid i chi drin cleifion a’r rhai sy’n agos atynt gydag urddas, parch a thrugaredd, yn enwedig pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd a phenderfyniadau anodd ynghylch gofal. Rhaid i chi barchu eu preifatrwydd a’u hawl i gyfrinachedd.
Mae rhai grwpiau o gleifion yn gallu wynebu anghydraddoldeb wrth geisio manteisio ar wasanaethau gofal iechyd ac o ran ansawdd y gofal a ddarparir. Mae’n hysbys bod rhai pobl hŷn, pobl y mae ganddynt anableddau a phobl o leiafrifoedd ethnig wedi cael gofal o safon wael tuag at ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn gallu bod o ganlyniad i rwystrau corfforol, rhwystrau cyfathrebu a rhwystrau eraill, a chredoau anghywir neu ddiffyg gwybodaeth ymhlith y rhai sy’n darparu gwasanaethau, ynghylch anghenion a buddiannau’r claf. Mae cyfreithiau cydraddoldeb, galluedd a hawliau dynol yn ategu’ch dyletswydd foesegol i drin cleifion mewn ffordd deg.
Os ydych yn cymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes rhywun, rhaid i chi fod yn ymwybodol o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’i phrif
ddarpariaethau, gan ei bod yn debygol y bydd eich penderfyniadau chi yn ymwneud â’r egwyddorion a’r hawliau sylfaenol a nodir yn y Ddeddf.5
Gan ddilyn egwyddorion moesegol a chyfreithiol sefydledig (gan gynnwys hawliau dynol), ni ddylai penderfyniadau sy’n ymwneud â thriniaethau a allai ymestyn bywyd gael eu cymell gan ddymuniad i weld marwolaeth y claf, ac mae’n rhaid iddynt gychwyn gyda rhagdybiaeth o blaid estyn bywyd. Fel arfer, bydd y rhagdybiaeth hon yn gofyn i chi gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn ymestyn bywyd claf. Fodd bynnag, ni cheir rhwymedigaeth ddiamod i ymestyn bywyd beth bynnag fo’r canlyniadau i’r claf, a beth bynnag fo safbwyntiau’r claf, os yw’r rhain yn hysbys, neu pan fo modd eu canfod.
Rhaid i chi weithio ar sail y ragdybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal a’u triniaeth. Ni ddylech gymryd yn ganiataol nad yw claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad y mae eraill yn anghytuno gydag ef neu y maent yn ei ystyried yn benderfyniad annoeth, yn unig.
Os allai galluedd claf i wneud penderfyniad gael ei amharu, rhaid i chi gynnig yr holl help a’r cymorth priodol i’r claf er mwyn cynyddu eu gallu i ddeall, i gofio, i ddefnyddio neu i bwyso a mesur y wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn eu galluogi i wneud y penderfyniad hwnnw neu er mwyn cyfleu eu dymuniadau. Rhaid i chi asesu eu galluedd i wneud pob penderfyniad, ar yr adeg pan fydd angen ei wneud. Mae modd i chi weld arweiniad manwl ynghylch asesu a chynyddu galluedd claf gymaint ag y bo modd trwy droi at Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, ac yn y codau ymarfer sy’n cefnogi Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.6
Os ydych chi neu eraill o’r farn nad yw oedolyn yn meddu ar alluedd i benderfynu, rhaid i’r penderfyniadau y byddwch chi neu eraill yn eu gwneud ar ran y claf gael eu seilio ar yr ystyriaeth ynghylch a fyddai’r driniaeth yn cynnig budd cyffredinol i’r claf (gweler paragraphs 40 - 46 am ragor ynghylch asesu budd cyffredinol), a pha ddewis (gan gynnwys y dewis o beidio darparu triniaeth) fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol. Pan fyddwch chi’n gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch budd cyffredinol, rhaid i chi ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf heb alluedd, er mwyn eich helpu i ffurfio barn (gweler paragraphs 15 - 16).
‘Budd’ fel y nodir yn Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.
‘Budd pennaf’ fel y nodir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (yng Nghymru a Lloegr) ac ar hyn o bryd, mae cyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon (The Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn cynnig diffiniad o fudd pennaf nad yw mewn grym eto.)