Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Gweithio gyda’r egwyddorion a’r modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau - cont.

Cynllunio gofal ymlaen llaw

Y manteision

50

Gan bod triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes yn cael ei ddarparu gan dimau amlddisgyblaethol y maent yn aml yn gweithio ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol lleol, rhaid i chi gynllunio ymlaen llaw gymaint ag y bo modd er mwyn sicrhau bod modd manteisio ar ofal diogel ac effeithiol mewn ffordd amserol ac er mwyn sicrhau dilyniant o ran ei ddarparu er mwyn diwallu anghenion y claf.

51

Weithiau, bydd y gofid emosiynol a’r pwysau arall sy’n rhan annatod o sefyllfaoedd pan fo cleifion yn agosáu at ddiwedd eu hoes, yn achosi camddealltwriaeth a gwrthdaro rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion a’r rhai sy’n agos atynt, neu rhwng aelodau’r tîm gofal iechyd. Fodd bynnag, bydd modd osgoi hyn fel arfer pan geir trafodaeth sensitif a threfniadau cynllunio cynnar ynghylch y ffordd orau o reoli gofal y claf.

Yr hyn i’w drafod

52

Mae’n debygol y bydd cleifion y mae eu marwolaeth o ganlyniad i’w cyflwr presennol yn bosibilrwydd y mae modd ei ragweld, yn dymuno cael y cyfle (os ydynt mewn lleoliad cymunedol neu mewn ysbyty) i benderfynu pa drefniadau y dylid eu gwneud er mwyn rheoli cyfnodau terfynol eu salwch. Gallai hyn gynnwys manteisio ar ofal lliniarol a delio gydag unrhyw faterion personol a materion eraill sy’n bwysig iddynt tuag at ddiwedd eu hoes yn eu barn nhw. Ar gyfer unrhyw benderfyniadau brys posibl yn y dyfodol, bydd trafodaethau yn haws i’w cynnal ymlaen llaw nag mewn sefyllfa pan fydd amser yn brin, pan y gallai’r claf fod mewn poen, wedi drysu neu’n teimlo’n ofnus. Nid yw trafod dewisiadau ymlaen llaw yn gwaredu’r angen i gael deialog bellach yn syth cyn darparu triniaeth, ac yn rheolaidd wrth i’r driniaeth neu’r gofal ddatblygu. Hyd yn oed os bydd cynllun gofal yn ei le neu os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw, dylech drafod y dewisiadau sydd ar gael gyda nhw o hyd, rhag ofn bod y dewisiadau wedi newid neu bod y claf wedi newid eu meddwl.

53

Os bydd claf yn eich gofal yn dioddef cyflwr a fydd yn effeithio ar eu galluedd wrth iddo ddatblygu, neu y maent fel arall yn wynebu sefyllfa lle y mae colli galluedd neu alluedd diffygiol yn bosibilrwydd y mae modd ei ragweld, dylech eu hannog i ystyried yr hyn y byddent yn ei ddymuno os byddai hyn yn digwydd, ac i drafod eu dymuniadau a’u pryderon gyda chi a’r tîm gofal iechyd. Dylai’ch trafodaethau gynnwys y canlynol:

  1. dymuniadau, dewisiadau neu ofnau’r claf mewn perthynas â’u gofal a’u triniaeth yn y dyfodol
  2. y teimladau, y credoau neu’r gwerthoedd a allai fod yn dylanwadu ar ddewisiadau a phenderfyniadau’r claf
  3. aelodau’r teulu, eraill sy’n agos i’r claf neu unrhyw ddirprwyon cyfreithiol y byddai’r claf yn dymuno iddynt fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal 
  4. ymyriadau a allai gael eu hystyried neu eu cyflawni mewn argyfwng, megis adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR), pan y gallai fod o gymorth gwneud penderfyniadau ymlaen llaw yn eu cylch
  5. y man lle y byddai’n well gan y claf gael gofal (a sut y gallai hyn effeithio ar y dewisiadau sydd ar gael o ran triniaethau)
  6. anghenion y claf am gymorth crefyddol, cymorth ysbrydol neu gymorth personol arall. 
54

Gan ddibynnu ar amgylchiadau’r claf, efallai y bydd yn briodol creu cyfleoedd iddynt drafod yr hyn y maent yn dymuno iddo ddigwydd ar ôl iddynt farw hefyd. Bydd rhai cleifion yn dymuno trafod eu dymuniadau mewn perthynas â’r ffordd y bydd eu corff yn cael ei drin, a’u credoau neu eu gwerthoedd ynghylch rhoi organau neu feinwe.

55

Rhaid i chi ddelio â thrafodaethau o’r fath mewn ffordd sensitif. Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn orau neu sut i ymateb i unrhyw faterion anghlinigol a godwyd gan y claf, dylech droi at y canllawiau perthnasol ynghylch arfer gorau wrth gynllunio gofal ymlaen llaw. Os bydd y claf yn cytuno, dylech gynnwys aelodau eraill y tîm gofal iechyd, pobl sy’n agos i’r claf neu eiriolwr annibynnol yn y trafodaethau.

Pan na fydd cleifion yn dymuno cael gwybod

56

Efallai na fydd rhai cleifion yn barod i ystyried eu gofal yn y dyfodol, neu efallai y bydd ystyried hynny yn peri gormod o ofid iddynt. Fodd bynnag, ni all unrhyw un arall wneud penderfyniad ar ran oedolyn sy’n meddu ar alluedd. Os bydd claf yn gofyn i chi wneud penderfyniadau ar eu rhan neu os byddant yn dymuno i berthynas, partner neu ffrind wneud penderfyniadau, dylech esbonio ei bod yn bwysig eu bod yn deall y dewisiadau sydd ar gael iddynt, a’r hyn y bydd y driniaeth yn ei olygu. Os nad ydynt yn dymuno cael y wybodaeth hon, dylech geisio darganfod pam.

57

Os na fydd y claf yn dymuno cael gwybodaeth fanwl am eu cyflwr neu’r driniaeth o hyd, dylech barchu eu dymuniadau gymaint ag y bo modd. Ond rhaid i chi esbonio pwysigrwydd darparu o leiaf y wybodaeth sylfaenol y byddant ei hangen er mwyn eu galluogi i roi caniatâd dilys i archwiliad neu driniaeth arfaethedig. Mae hyn yn debygol o gynnwys nod yr archwiliad a’r driniaeth, a’r hyn y bydd yn ei gynnwys. Er enghraifft, a fydd gweithdrefn yn ymyrrol; lefel y boen neu’r anesmwythdra y gallent ei brofi a’r hyn y mae modd ei wneud er mwyn ei leihau gymaint ag y bo modd; yr hyn y dylent ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr archwiliad neu’r driniaeth; ac a yw’n cynnwys unrhyw risgiau difrifol.

58

Os bydd y claf yn mynnu nad ydynt yn dymuno cael y wybodaeth sylfaenol hon hyd yn oed, bydd angen i chi farnu a yw eu caniatâd yn ddilys er mwyn i chi allu bwrw ymlaen. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir os yw’r dewis a gynigir yn ymyrraeth sefydledig y mae’n arfer cyffredin ei ddefnyddio er mwyn trin y cyflwr sydd ganddynt, a cheir rheswm dros gredu bod y claf yn dymuno cael triniaeth neu ofal yn hytrach na dim camau o gwbl yn cael eu cymryd. Dylech ystyried ceisio cyngor gan eich corff amddiffyn meddygol neu’ch cymdeithas broffesiynol mewn amgylchiadau fel hyn. Rhaid i chi gofnodi’r ffaith bod y claf wedi gwrthod gwybodaeth berthnasol a’r sawl y maent wedi gofyn iddynt i wneud y penderfyniad ynghylch triniaeth. Yn ogystal, rhaid i chi nodi’n glir bod modd iddynt newid eu meddwl a chael rhagor o wybodaeth ar unrhyw adeg.

Atal rhoi gwybodaeth i’r claf

59

Ac eithrio amgylchiadau pan fo claf yn gwrthod gwybodaeth, ni ddylech atal unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn gallu gwneud penderfyniadau (gan gynnwys pan fo rhywun sy’n agos i’r claf yn gofyn am hyn), oni bai eich bod o’r farn y byddai rhoi’r wybodaeth yn achosi niwed difrifol i’r claf. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘niwed difrifol’ yn golygu mwy na’r posibilrwydd y gallai hyn beri i’r claf ofidio, neu y gallent benderfynu gwrthod cael y driniaeth. Os ydych yn ystyried atal rhoi gwybodaeth i glaf, rhaid i chi ddilyn y cyngor ym mharagraffau 14 ac 15 Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Os byddwch yn atal rhoi gwybodaeth i’r claf, rhaid i chi gofnodi’ch rhesymau dros wneud hynny yn y cofnodion meddygol, ac mae’n rhaid i chi fod yn barod i esbonio’ch penderfyniad a’i gyfiawnhau. Dylech adolygu’ch penderfyniad yn rheolaidd, gan ystyried a fyddai modd i chi roi gwybodaeth i’r claf yn nes ymlaen, heb achosi niwed difrifol iddynt.

Ffurfioli dymuniadau claf

60

Os bydd claf yn dymuno enwebu rhywun i wneud penderfyniadau ar eu rhan os byddant yn colli galluedd, neu os ydynt yn dymuno gwrthod triniaeth benodol ymlaen llaw, dylech esbonio y gallai fod ffyrdd o ffurfioli’r dymuniadau hyn, megis penodi atwrnai neu baratoi cyfarwyddyd neu benderfyniad ymlaen llaw ysgrifenedig 23 Dylech gynorthwyo cleifion y maent wedi penderfynu cymryd y camau hyn. Dylech gynnig cyngor ynghylch y materion clinigol, gan argymell eu bod yn cael cyngor annibynnol ynghylch sut i ffurfioli eu dymuniadau.

23

Mae deddfwriaeth Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) ac Adults With Incapacity (Scotland) Act 2000 yn gwneud darpariaeth i oedolion ddyfarnu atwrneiaethau er mwyn gwneud penderfyniadau gofal iechyd. Mae Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn gwneud darpariaeth er mwyn dyfarnu atwrneiaeth gofal iechyd nad yw mewn grym eto. Mae MCA yn nodi gofynion statudol ynghylch gwrthod triniaethau estyn bywyd ymlaen llaw. Gweler yr atodiad cyfreithiol.

Cofnodi a rhannu’r cynllun gofal ymlaen llaw

61

Rhaid i chi wneud cofnod o’r drafodaeth ac o’r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylech sicrhau bod cofnod o’r cynllun gofal ymlaen llaw ar gael i’r claf, a’i fod yn cael ei rannu gydag eraill sy’n ymwneud â’u gofal (ar yr amod bod y claf yn cytuno), er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r hyn a gytunwyd. (Gweler paragraffau paragraphs 22 - 23 efyd ynghylch gweithio mewn timau ac ar draws terfynau gwasanaethau). Os bydd claf yn gwrthod triniaeth ymlaen llaw, dylech eu hannog i rannu’r wybodaeth hon gyda’r rhai sy’n agos iddynt, gyda meddygon eraill, a gyda staff iechyd a gofal cymdeithasol allweddol sy’n ymwneud â’u gofal.

22

Caiff y rhan fwyaf o’r driniaeth a’r gofal tuag at ddiwedd oes rhywun ei darparu gan dimau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol, sy’n cydweithio er mwyn diwallu anghenion cleifion wrth iddynt symud rhwng gwahanol leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a manteisio ar wasanaethau gwahanol. Mae hyn yn gallu cynnwys practisau meddygon teulu, cartrefi gofal lleol, fferyllfeydd, hosbisau, gwasanaethau ambiwlans, ysbytai lleol, a gwasanaethau cymorth awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. Rhaid i chi gyfathrebu mewn ffordd effeithiol gydag aelodau eraill y tîm iechyd a gofal cymdeithasol neu dimau sy’n ymwneud gyda’r gofal ar gyfer claf, gan rannu’r wybodaeth angenrheidiol gyda nhw er mwyn darparu gofal diogel, effeithiol ac amserol i’r claf. (Gweler paragraphs 75 - 77 ynghylch cofnodi a chyfleu penderfyniadau). Wrth ystyried dewisiadau ynghylch darparu triniaeth a gofal ac wrth adolygu cynnydd y claf, dylech ymgynghori gydag aelodau eraill y tîm a allai fod yn meddu ar wybodaeth ynghylch y claf neu wybodaeth a phrofiad perthnasol a allai helpu wrth reoli neu drin cyflwr y claf.

23

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall cwmpas a chyfrifoldebau eich rôl chi o fewn y tîm gofal iechyd, rolau a sgiliau arbenigol aelodau eraill y tîm iechyd a gofal cymdeithasol, a’r llinellau atebolrwydd dros ofal y claf.17 Dylech gymryd camau i egluro unrhyw amwysedd ynghylch eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau unigolion eraill gyda’r sefydliad sy’n eich contractio neu sy’n eich cyflogi, os bydd gennych bryderon y gallai’r amwysedd beryglu diogelwch cla.18 

62

Rhaid i chi gofio bod angen adolygu a diweddaru cynlluniau gofal ymlaen llaw wrth i sefyllfa neu safbwyntiau’r claf newid.

Gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth

63

Wrth gynllunio ymlaen llaw, bydd rhai cleifion yn pryderu y gwrthodir rhoi triniaethau penodol iddynt mewn ffordd afresymol tuag at ddiwedd eu hoes, felly efallai y byddant yn dymuno gwneud cais am y triniaethau hynny ymlaen llaw. Efallai y bydd rhai cleifion sy’n agosáu at ddiwrnodau olaf eu hoes yn dymuno cadw gafael ar gymaint o reolaeth ag y bo modd dros y triniaethau y byddant yn eu cael, ac efallai y byddant yn dymuno cael triniaeth y mae’n cynnig rhywfaint o bosibilrwydd o ymestyn eu hoes, hyd yn oed os bydd yn arwain at feichiau a risgiau sylweddol.

64

Wrth ymateb i gais am driniaeth yn y dyfodol, dylech ystyried y rhesymau dros wneud y cais a graddau pwysigrwydd y driniaeth i’r claf. Dylech esbonio sut y byddai dymuniadau presennol y claf yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch budd cyffredinol y driniaeth os byddent yn colli galluedd (gweler y model ym mharagraff paragraph 16). Er na all penderfyniadau a wneir yn y dyfodol fod yn rhwym i’w cais am driniaeth benodol, dylech egluro y bydd cryn bwys yn cael ei roi i’w cais gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniad.

16

Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:

  1. Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
  3. Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
  4. Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
  5. Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
  6. Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n  y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch  y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
  7. Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
  8. Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
  9. Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.
65

Os bydd claf wedi colli galluedd i benderfynu, rhaid i’r person sy’n bennaf gyfrifol am y driniaeth a’r gofal ddarparu'r hyn a fydd yn cynnig budd cyffredinol i’r claf yn ôl ei asesiad ef. Wrth asesu’r budd cyffredinol, dylech ystyried cais blaenorol y claf, yr hyn yr ydych yn ei wybod am eu dymuniadau a’u dewisiadau eraill, a nodau’r gofal ar yr adeg honno (er enghraifft, a yw’r ffocws wedi newid i ddarparu gofal lliniarol), a dylech ymgynghori gyda dirprwy cyfreithiol y claf neu’r rhai sy’n agos i’r claf, fel y nodir yn y model ar gyfer gwneud penderfyniadau ym mharagraff paragraph 16. Rhaid rhoi pwys ar gais blaenorol y claf a phan fydd y cydbwysedd rhwng y manteision, y beichiau a’r risgiau yn gyfartal iawn, hwn fydd y ffactor penderfynodol fel arfer.

16

Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:

  1. Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
  3. Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
  4. Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
  5. Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
  6. Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n  y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch  y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
  7. Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
  8. Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
  9. Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.
66

Os bydd anghytundeb yn codi rhyngoch chi a dirprwy cyfreithiol y claf, y rhai sy’n agos i’r claf, neu aelodau’r tîm gofal iechyd, am yr hyn a fyddai o fudd cyffredinol, rhaid i chi gymryd camau i ddatrys yr anghytundeb (gweler paragraffau paragraphs 47 - 48).

47

Os mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf, dylech geisio sicrhau consensws ynghylch pa driniaeth a gofal a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i glaf heb alluedd. Gall anghytundebau godi rhyngoch chi a’r rhai sy’n agos i’r claf, neu ryngoch chi ac aelodau’r tîm gofal iechyd, neu rhwng y tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf. Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb unrhyw anghytuno, fel arfer, bydd modd ei ddatrys; er enghraifft, trwy gynnwys eiriolwr annibynnol, trwy geisio cyngor cydweithiwr mwy profiadol, trwy sicrhau ail farn, trwy gynnal cynhadledd achos neu ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu lleol. Wrth geisio sicrhau consensws, dylech ystyried y gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd ag awdurdod y rhai y byddwch yn ymgynghori gyda nhw, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datrys anghytundebau.

48

Ar ôl cymryd y camau hyn, os bydd anghytundeb am benderfyniad arwyddocaol o hyd, rhaid i chi ddilyn unrhyw gamau ffurfiol i ddatrys yr anghydfod sy’n ofynnol gan y gyfraith neu a nodir yn y cod ymarfer perthnasol. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gwahanol bobl y mae’n rhaid i chi ymgynghori â nhw, eu gwahanol rolau wrth wneud penderfyniadau a’r pwys y mae’n rhaid i chi ei roi i’w safbwyntiau. Dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ac efallai y bydd angen i chi wneud cais i lys priodol neu gorff statudol am adolygiad neu ddyfarniad annibynnol. Dylid hysbysu eich claf, y rhai sy’n agos iddynt ac unrhyw un a benodwyd i weithredu ar eu rhan o unrhyw benderfyniad i gychwyn camau cyfreithiol mor gynnar ag y bo modd, er mwyn iddynt gael y cyfle i gymryd rhan neu i gael eu cynrychioli. 

Gweithredu yn unol â phenderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth

67

Bydd rhai cleifion yn gofidio y byddant yn cael triniaethau meddygol tuag at ddiwedd eu hoes, na fyddant yn dymuno’u cael. Felly, efallai y byddant yn dymuno cyfleu eu dymuniadau ynghylch triniaethau penodol mewn amgylchiadau a allai godi yn ystod eu gofal yn y dyfodol, mewn ffordd eglur. Wrth drafod unrhyw benderfyniad arfaethedig i wrthod triniaeth ymlaen llaw, dylech esbonio i’r claf sut y byddai penderfyniad o’r fath i wrthod triniaeth yn cael ei ystyried os byddant yn colli galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal.

Pan fo penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth yn rhwymol

68

Os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac os bydd gwybodaeth ynghylch penderfyniad ysgrifenedig neu ar lafar a wnaethpwyd ymlaen llaw i wrthod triniaeth yn ymddangos yn eu nodiadau neu os tynnir eich sylw fel arall at benderfyniad o’r fath, rhaid i chi gofio bod yn rhaid parchu penderfyniadau dilys a pherthnasol a wnaethpwyd ymlaen llaw i wrthod triniaeth. Bydd penderfyniad dilys ymlaen llaw i wrthod triniaeth, y mae’n amlwg ei fod yn berthnasol i amgylchiadau presennol y claf, yn gyfreithiol rwymol yng Nghymru a Lloegr 24 oni bai ei fod yn ymwneud â thriniaeth a fydd yn ymestyn eu hoes ac os felly, rhaid bodloni meini prawf cyfreithiol pellach). Gallai penderfyniadau ymlaen llaw sy’n ddilys ac sy’n berthnasol fod yn rhwymol yn yr Alban 25 ac yng Ngogledd Iwerddon 26, er nad yw hyn wedi cael ei brofi yn y llysoedd eto.

24

Mae’r cod ymarfer sy’n cefnogi Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n defnyddio’r term cyfreithiol ‘penderfyniad ymlaen llaw’, yn nodi meini prawf manwl sy’n pennu pryd y bydd penderfyniadau ymlaen llaw ynghylch triniaethau a fydd yn ymestyn oes yn gyfreithiol rwymol – gweler yr atodiad cyfreithiol.

25

Mae’r cod ymarfer sy’n cefnogi Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000, sy’n defnyddio’r term cyfreithiol ‘cyfarwyddyd ymlaen llaw’, yn cynnig cyngor ynghylch eu statws cyfreithiol a sut y dylid ystyried cyfarwyddiadau ymlaen llaw wrth wneud penderfyniadau ynghylch triniaethau.

26

Mae Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn nodi cydnabyddiaeth statudol ar gyfer penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaethau ar sail cyfraith achosion flaenorol (adran 11). Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf mewn grym eto. Felly, ar hyn o bryd, mae’n debygol y byddai pwys yn cael ei roi ar yr egwyddorion a sefydlwyd yng nghyfraith achosion Lloegr yn y llysoedd.

Penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth, nad ydynt yn rhwymol

69

Dylid ystyried penderfyniadau ymlaen llaw ysgrifenedig ac ar lafar i wrthod triniaeth, nad ydynt yn rhai cyfreithiol rwymol, fel tystiolaeth o ddymuniadau’r person wrth asesu a fyddai triniaeth benodol yn cynnig budd cyffredinol iddo.

Asesu dilysrwydd penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth

70

Os mai chi yw’r clinigwr sy’n bennaf gyfrifol am ofal y claf, dylech asesu dilysrwydd ac addaster unrhyw benderfyniad a wnaethpwyd ymlaen llaw i wrthod triniaeth ac a gofnodwyd yn y nodiadau neu y tynnwyd eich sylw ato fel arall. Mae’r ffactorau y dylech eu hystyried yn wahanol yn y bedair wlad yn y DU, gan adlewyrchu gwahaniaethau yn y fframwaith cyfreithiol (gweler yr atodiad cyfreithiol). Fodd bynnag, o ran dilysrwydd, mae’r prif ystyriaethau fel a ganlyn:

  1. roedd y claf yn oedolyn pan wnaethpwyd y penderfyniad (16 oed neu’n hŷn yn yr Alban, 18 oed neu’n hŷn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)
  2. roedd y claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad ar yr adeg y’i gwnaethpwyd (ar draws y DU)
  3. ni effeithiwyd ar y claf gan ddylanwad gormodol wrth wneud y penderfyniad (ar draws y DU) 
  4. roedd y claf wedi gwneud y penderfyniad ar sail gwybodaeth ddigonol ynghylch goblygiadau eu dewis (ar draws y DU)
  5. os yw’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth a allai ymestyn bywyd, rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, rhaid ei fod wedi cael ei lofnodi a’i wneud ym mhresenoldeb tyst ac mae’n rhaid iddo gynnwys datganiad bod yn rhaid ei weithredu hyd yn oed os bydd bywyd claf yn y fantol (Cymru a Lloegr yn unig27)
  6. nid yw’r penderfyniad wedi cael ei dynnu yn ôl gan y claf (ar draws y DU) 
  7. nid yw’r claf wedi penodi atwrnai ers y gwnaethpwyd y penderfyniad, i wneud penderfyniadau o’r fath ar eu rhan (Cymru, Lloegr a’r Alban) 
  8. mae’n amlwg nad yw’r camau a gymrwyd neu’r penderfyniadau a wnaethpwyd gan y claf yn fwy diweddar, yn cyd-fynd gydag amodau eu penderfyniad cynharach, neu maent yn dynodi mewn rhyw ffordd y gallent fod wedi newid eu meddwl.
27

Nodir y gofynion hyn yn MCA a’i Chod Ymarfer, Pennod 9.

Asesu cymhwysedd penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth

71

Mewn perthynas â barnau ynghylch cymhwysedd, bydd yr ystyriaethau canlynol yn berthnasol ar draws y DU:

  1. a yw’n amlwg bod y penderfyniad yn berthnasol i amgylchiadau presennol y claf, eu sefyllfa glinigol a’r driniaeth neu’r triniaethau penodol y mae angen gwneud penderfyniad yn eu cylch
  2. a yw’r penderfyniad yn nodi amgylchiadau penodol pan na ddylai’r penderfyniad i wrthod triniaeth fod yn berthnasol
  3. pa mor bell yn ôl y gwnaethpwyd y penderfyniad, ac a yw wedi cael ei adolygu neu ei ddiweddaru (gallai hyn fod yn ffactor wrth asesu dilysrwydd hefyd)
  4. a oes sail resymol dros gredu bod amgylchiadau’n bodoli na wnaeth y claf eu rhagweld, ac a fyddai wedi effeithio ar eu penderfyniad os y byddai wedi bod yn bosibl eu rhagweld ar yr adeg pan y gwnaethpwyd y penderfyniad, er enghraifft, unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau clinigol yn amgylchiadau personol y claf ers y gwnaethpwyd y penderfyniad.

Amheuaeth neu anghytundeb ynghylch statws penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth

72

Yn aml, ni fydd penderfyniadau a wnaethpwyd ymlaen llaw i wrthod triniaeth yn dod i’r amlwg nes bydd claf wedi colli galluedd. Mewn achosion o’r fath, dylech gychwyn o’r dybiaeth bod y claf yn meddu ar alluedd pan wnaethpwyd y penderfyniad, oni bai bod sail dros gredu fel arall.

73

Os ceir unrhyw amheuaeth neu anghytundeb ynghylch dilysrwydd neu addaster penderfyniad ymlaen llaw i wrthodiad triniaeth, dylech wneud ymholiadau pellach (os bydd amser yn caniatáu), gan geisio dyfarniad gan y llys yn ôl yr angen. Mewn argyfwng, pan na fydd amser i ymchwilio ymhellach, dylai’r rhagdybiaeth fod o blaid cynnig triniaeth, os bydd y siawns o ymestyn oes y claf, o wella’u cyflwr neu o reoli eu symptomau yn realistig.

74

Os byddwch chi a’r rhai sy’n gofalu am y claf yn cytuno bod penderfyniad i wrthod triniaeth ymlaen llaw yn annilys neu’n amherthnasol, dylid cofnodi’r rhesymau dros ffurfio’r farn hon.