Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau

Modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau

Cleifion sy’n meddu ar alluedd i benderfynu

14

Os yw claf yn meddu ar alluedd7 i wneud penderfyniad dros ei, dyma’r model a fydd yn berthnasol wrth benderfynu:

  1. Byddwch chi a’r claf yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried ei hanes meddygol, ei safbwyntiau, ei  brofiad a’i wybodaeth. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar brofiad a gwybodaeth arbenigol a barn glinigol, yn ogystal â safbwyntiau a dealltwriaeth y claf o’i gyflwr, i nodi pa ddewisiadau er mwyn ymchwilio, trin neu reoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio cymryd unrhyw gamau) sy’n briodol yn glinigol. Byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r claf, gan nodi manteision, beichiau a risgiau posibl pob dewis. Efallai byddwch yn argymell dewis penodol sy’n cyfateb â’r dewis gorau i’r claf yn eich barn, ond rhaid ichi beidio â rhoi pwysau ar y claf i dderbyn eich cyngor.
  3.  Bydd y claf yn ystyried manteision, beichiau a risgiau posibl y dewisiadau amrywiol, yn ogystal ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol iddo. Bydd y claf yn penderfynu rhwng y dewisiadau. Yn ogystal, bydd ganddo’r hawl i dderbyn neu wrthod dewis am reswm a allai ymddangos yn afresymol i chi, neu am ddim rheswm o gwbl.
  4. Os bydd y claf yn gofyn am driniaeth na fyddai o fudd cyffredinol iddo yn eich barn chi, dylech ystyried ei resymau dros ofyn am hyn, ei ddealltwriaeth o’r hyn y byddai’r driniaeth/gofal yn ei olygu, a’i ddisgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd canlyniad y drafodaeth hon yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl trafod y sefyllfa, os byddwch chi o’r farn na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r claf, gan ystyried pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael, gan gynnwys hawl y claf i geisio ail farn.
7

Mae ystyriaethau ychwanegol yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy’n meddu ar alluedd i benderfynu – gweler yr adran ynghylch plant newydd- anedig, plant a phobl ifanc ym mharagraffau 90 - 108.

Oedolion heb alluedd i benderfynu

15

Os byddwch yn asesu nad yw claf yn meddu ar alluedd8 i wneud penderfyniad, rhaid i chi:

a. fod yn eglur ynghylch pa benderfyniadau y mae angen eu gwneud am driniaeth a gofal

b. Gwirio pwy sy’n meddu ar y cyfrifoldeb dros benderfynu pa ddewis fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf, gan sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i ddarganfod:

  1. a oes unrhyw dystiolaeth o werthoedd a dewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol, y gallent fod yn gyfreithiol rwymol, megis gwrthod triniaeth ymlaen llaw
  2. a oes rhywun arall yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf neu wedi cael eu penodi i’w cynrychioli. *[neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)]. Dylech gofio nad yw’r pwerau y bydd dirprwy cyfreithiol9 yn meddu arnynt yn cynnwys pob math o driniaeth efallai, felly dylech chi archwilio cwmpas eu hawdurdod er mwyn gwneud penderfyniad10  

c. Os nad oes tystiolaeth o benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, sy’n gyfreithiol rwymol, ac nid oes gan unrhyw un awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad hwn ar ran y claf,*neu yn yr Alban os oes rhywun yn gwneud cais i gael awdurdod o’r fath (gweler a49 Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000)] yna, os mai chi sydd â’r prif gyfrifoldeb dros driniaeth a gofal y claf, rydych chi’n gyfrifol am benderfynu ar yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol iddynt11 . 

Wrth wneud hyn, rhaid i chi:

  1. ymgynghori gyda’r rhai sy’n agos i’r claf ac aelodau eraill y tîm gofal iechyd, gan ystyried eu safbwyntiau ynghylch yr hyn y byddai’r claf yn ei ddymuno, gan geisio dod i gytundeb gyda nhw
  2. ystyried pa ddewis sy’n cyd-fynd agosaf ag anghenion, dewisiadau, gwerthoedd a blaenoriaethau’r claf
  3. ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol
8

Mae’r adran ynghylch plant newydd-anedig, plant a phobl ifanc yn cynnwys cyngor ynghylch plant heb alluedd.

9

Mae dirprwyon cyfreithiol yn cynnwys: person sy’n meddu ar Atwrneiaeth Arhosol (Cymru a Lloegr) neu Atwrneiaeth Lles (yr Alban), dirprwy a benodwyd gan lys (Cymru a Lloegr) neu ymyrrwr neu warcheidwad a benodwyd gan lys (yr Alban). Ar hyn o bryd, nid oes gan Ogledd Iwerddon unrhyw ddarpariaeth er mwyn penodi dirprwyon cyfreithiol sy’n meddu ar y grym i wneud penderfyniadau gofal iechyd. Yn yr Alban, os oes cais yn yr arfaeth i gael awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran y claf neu i gael ei benodi i’w gynrychioli, bydd hyn yn datgymhwyso awdurdod yr ymarferydd meddygol i wneud penderfyniadau am driniaeth (adran 49, Deddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000). 

10

Rhaid i atwrneiaethau fod wedi cofrestru gyda Swyddfeydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr a’r Alban. Mae gwybodaeth ar gael ar eu gwefannau. Esbonnir rôl y dirprwyon cyfreithiol amrywiol yn y codau ymarfer sy’n cefnogi’r cyfreithiau perthnasol ynghylch galluedd – gweler yr atodiad cyfreithiol.

11

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd gennych awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth, dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cymru a Lloegr), neu gyfraith gwlad yng Ngogledd Iwerddon. Yn yr Alban, o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000, mae ymarferwyr meddygol cofrestredig sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf ymhlith y gweithwyr proffesiynol hynny sydd ag awdurdod i wneud y penderfyniadau hyn (ond nid cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia), yn amodol ar gyhoeddi tystysgrif analluedd Gweler yr atodiad cyfreithiol.

16

Gan ystyried yr ystyriaethau ym mharagraff 15, dyma’r model ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol os na fydd claf yn meddu ar alluedd ac mai chi sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf:

  1. Byddwch chi, gyda’r claf (os ydynt yn gallu cyfrannu) a’r rhai sy’n gofalu am y claf12, yn cynnal asesiad o gyflwr y claf, gan ystyried hanes meddygol y claf a gwybodaeth a phrofiad y claf a’r gofalwr (neu ofalwyr) o’r cyflwr. 
  2. Byddwch chi'n manteisio ar wybodaeth, profiad a barn glinigol arbenigol, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ynghylch safbwyntiau’r claf (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a/neu gynllun gofal a wnaethpwyd ymlaen llaw)er mwyn nodi pa ymchwiliadau, triniaethau neu ddewisiadau er mwyn rheoli cyflwr y claf (gan gynnwys y dewis o beidio gwneud unrhyw beth) sydd er budd clinigol y claf, gan benderfynu pa rai o’r dewisiadau hynny sy’n debygol o gynnig budd cyffredinol iddynt.
  3. Os bydd y claf wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, rhaid i chi ffurfio barn am ei ddilysrwydd ac ynghylch ei berthnasedd i’r amgylchiadau presennol. Os ydych chi'n dod i’r casgliad bod y penderfyniad ymlaen llaw yn gyfreithiol rwymol, rhaid ei ddilyn, mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fel arall, dylid ei ystyried fel gwybodaeth ynghylch dymuniadau blaenorol y claf. (Gweler paragraffau 67 - 74 ynghylch asesu statws cyfreithiol penderfyniadau a wneir ymlaen llaw i wrthod triniaeth.)
  4. Os penodwyd atwrnai neu ddirprwy cyfreithiol arall i wneud penderfyniadau gofal iechyd ar ran y claf, byddwch chi'n esbonio’r dewisiadau i’r dirprwy cyfreithiol (fel y byddech yn ei wneud i glaf sy’n meddu ar alluedd), gan nodi manteision, beichiau a risgiau pob dewis. Gallwch chi argymell dewis penodol, a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn. Bydd y dirprwy cyfreithiol yn pwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, ynghyd ag unrhyw faterion anghlinigol sy’n berthnasol i ofal a thriniaeth y claf, a chan ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, byddant yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa ddewis a fyddai’n cynnig y budd cyffredinol. Dylech gynnig cymorth i’r dirprwy cyfreithiol wrth iddynt wneud y penderfyniad, ond ni ddylai roi pwysau arnynt i dderbyn argymhelliad penodol.
  5. Yn ogystal â chynghori’r dirprwy cyfreithiol, rhaid i chi’ gynnwys aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf13 gymaint ag y bo hynny’n ymarferol ac yn briodol14, oherwydd efallai y byddant yn gallu cyfrannu gwybodaeth am y claf a fydd yn helpu’r dirprwy i wneud penderfyniad. Os na fydd y dirprwy cyfreithiol yn meddu ar y grym i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi’ ystyried safbwyntiau’r dirprwy (fel rhywun sy’n agos i’r claf) yn ystod y broses o wneud penderfyniad.
  6. Mewn amgylchiadau pan na cheir dirprwy cyfreithiol sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud penderfyniad penodol ar ran y claf, a chi c mae’r meddyg sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, rhaid i chi ’r meddyg ymgynghori gydag aelodau’r tîm gofal iechyd a’r rhai sy’n agos i’r claf (gymaint ag y bydd yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny) cyn gwneud penderfyniad. Wrth ymgynghori, byddwch chi’n  y meddyg yn esbonio’r materion; bydd yn ceisio gwybodaeth ynghylch amgylchiadau’r claf; ac yn ceisio safbwyntiau ynghylch dymuniadau, dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf. Yn ogystal, gallwch  y meddyg ystyried pa ddewisiadau a fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf ym marn y rhai yr ymgynghorir â gyda nhw, ond rhaid peidio iddynt beidio â rhoi’r argraff iddynt bod gofyn iddynt eu bod yn cael cais i wneud y penderfyniad. Rhaid i chi ’r meddyg ystyried safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â gyda nhw wrth ystyried pa ddewis fyddai’n cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r claf yn y dyfodol, ac wrth wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ddewis sy’n cynnig budd cyffredinol i’r claf.
  7. Yng Nghymru a Lloegr, os na cheir dirprwy cyfreithiol, perthynas agos neu berson arall sy’n fodlon neu sy’n gallu15 cynorthwyo neu gynrychioli’r claf, ac mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol16 , rhaid i chi’ droi at y sefydliad sy’n eich cyflogi neu sy’n eich contractio ynghylch penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA), yn unol â’r hyn sy’n ofynnol dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Bydd IMCA yn meddu ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ynghylch y claf ac i gyfrannu i’r penderfyniad trwy gynrychioli buddiannau’r claf, ond ni all wneud penderfyniad ar ran y claf.
  8. Os bydd anghytundeb yn codi ynghylch yr hyn a fyddai’n cynnig budd cyffredinol, rhaid i chi’ geisio datrys y materion gan ddilyn y dull gweithredu a nodir ym mharagraffau 47 - 48.
  9. Os bydd dirprwy cyfreithiol neu berson arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad yn gofyn am driniaeth neu ofal na fyddai’n cynnig budd cyffredinol i’r claf yn eich barn chi, dylech ystyried eu rhesymau dros ofyn am hynny, eu dealltwriaeth o’r hyn y byddai’n ei olygu, a’u disgwyliadau ynghylch y canlyniad tebygol. Bydd y drafodaeth yn eich helpu chi i ystyried ffactorau sy’n arwyddocaol i’r claf, gan asesu a allai darparu’r driniaeth neu’r gofal fodloni anghenion y claf. Ar ôl cael trafodaeth, os byddwch o’r farn o hyd na fyddai’r driniaeth neu’r gofal yn bodloni anghenion y claf, ni ddylid ei ddarparu. Ond, dylech esbonio eich rhesymau i’r dirprwy neu’r unigolyn arall sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniad, gan ystyried dewisiadau eraill y gallent fod ar gael, gan gynnwys ei hawl i geisio ail farn, gwneud cais i’r corff statudol priodol am adolygiad (yr Alban), a gwneud cais i’r llys priodol am ddyfarniad annibynnol. Am arweiniad pellach ynghylch gweithredu yn unol â cheisiadau ymlaen llaw am driniaeth, gweler paragraffau 63 - 66.
12

At y dibenion hyn, mae ‘gofalwr’ yn golygu’r person sy’n cynorthwyo’r claf ac sy’n cynrychioli eu buddiannau yn yr ymgynghoriad ynghylch eu hiechyd, a’r hyn sy’n angenrheidiol efallai o ran unrhyw ymchwiliadau, triniaeth neu ofal.

13

Mae’r term ‘y rhai sy’n agos i’r claf’ yn golygu unrhyw un a enwebir gan y claf, perthnasau agos (gan gynnwys rhieni os mai plentyn yw’r claf), partneriaid a ffrindiau agos, gofalwyr cyflogedig neu ddigyflog nad ydynt yn aelodau o’r tîm gofal iechyd ac eiriolwyr annibynnol. Gallai gynnwys atwrneiod ar gyfer materion ariannol a materion sy’n ymwneud ag eiddo, a dirprwyon cyfreithiol eraill, mewn rhai amgylchiadau.

14

Bydd y rhai y bydd yn briodol ac yn ymarferol ymgynghori gyda nhw yn dibynnu ar, er enghraifft, cais blaenorol claf; pa gamau rhesymol y bydd modd eu cymryd er mwyn ymgynghori o fewn yr amser sydd ar gael cyn y bydd yn rhaid gwneud penderfyniad; ac unrhyw ddyletswydd i ymgynghori neu i flaenoriaethu pobl benodol a nodir mewn cyfreithiau neu godau perthnasol ynghylch galluedd.

15

Yn gyffredinol, mae’r ffaith nad oes rhywun ‘sy’n fodlon neu sy’n gallu’ ar gael yn golygu pan na fydd unrhyw un sy’n agos i’r claf y mae modd ymgynghori gyda nhw, neu mae’r rhai sydd ar gael yn methu cymryd rhan yn y broses benderfynu, neu’n teimlo na allant wneud hynny. Mae Cod Ymarfer MCA yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

16

Caiff triniaeth feddygol ddifrifol ei diffinio yng Nghod Ymarfer MCA, lle y mae rôl IMCA yn cael ei nodi hefyd.