0–18 oed

Gwneud penderfyniadau

22

Gallwch roi triniaeth feddygol i blentyn neu berson ifanc gyda’u caniatâd os ydynt yn gymwys i’w roi, neu gyda chaniatâd rhiant neu’r llys.6 Gallwch roi triniaeth frys heb ganiatâd er mwyn achub bywyd plentyn neu berson ifanc, neu er mwyn atal eu hiechyd rhag gwaethygu yn ddifrifol.

6

Mae deddfwriaeth iechyd meddyliol yn darparu sail gyfreithiol arall dros drin plant a phobl ifanc y mae ganddynt anhwylderau iechyd meddwl.

23

Dylech gynnwys plant a phobl ifanc gymaint ag y bo modd mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal, hyd yn oed pan na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain.

Asesu’r galluedd i roi caniatâd

24

Rhaid eich bod yn gallu penderfynu a yw person ifanc yn gallu deall natur, diben a chanlyniadau posibl ymchwiliadau neu driniaethau yr ydych yn eu cynnig, yn ogystal â chanlyniadau peidio cael triniaeth. Dim ond os byddant yn gallu deall, cadw, defnyddio a phwyso’r wybodaeth hon, a chyfleu eu penderfyniad i eraill, y byddant yn gallu rhoi eu caniatâd i’r ymchwiliad neu’r driniaeth honno.7 Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi cael ei darparu a’i thrafod yn drylwyr cyn penderfynu a yw plentyn neu berson ifanc yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd.

7

Gweler Assessment of Mental Capacity: Practical Guide for Doctors and Lawyers (BMA; Cymdeithas y Cyfreithwyr, 2010).

25

Mae’r galluedd i roi caniatâd yn dibynnu’n fwy ar allu person ifanc i ddeall a phwyso’r dewisiadau nag ar eu hoedran. Wrth asesu galluedd person ifanc i roi caniatâd, dylech gofio:

  1. y gellir cymryd bod gan berson ifanc y galluedd i roi caniatâd pan fyddant yn 16 oed (gweler paragraphs 30 to 33)
  2. y gallai person ifanc dan 16 oed fod yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd, gan ddibynnu ar eu haeddfedrwydd a’u gallu i ddeall yr hyn y bydd y penderfyniad yn ei olygu.8 
31

Fel arfer, ni ddylid datgelu gwybodaeth sy’n cael ei sicrhau o ganlyniad i archwiliadau neu ymchwiliadau y rhoddodd plant neu bobl ifanc eu caniatâd iddynt gan ddisgwyl cyfrinachedd, ychwaith. Gweler a.5(3) Gorchymyn Diogelu Data (Addasu Mynediad Pwnc) (Iechyd) 2000. Yn ogystal, gweler paragraffau 46 - 52 ynghylch datgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd.

32

Gweler canllawiau'r GMC ynghylch Amddiffyn plant a phobl ifanc.

34

Gweler Deddf Troseddau Rhywiol 2003, Sexual Offences (Northern Ireland) Order 2008 a Sexual Offences (Scotland) Act 2009.

8

Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969; Age of Majority Act 1969 (Gogledd Iwerddon); Age of Legal Capacity (Scotland) Act 1991; Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000; Deddf Galluedd Meddyliol 2005; Gillick v West Norfolk and Wisbech AHA [1986] AC 112.

26

Mae’n bwysig eich bod yn asesu aeddfedrwydd a dealltwriaeth ar sail unigol a chan ystyried cymhlethdod a phwysigrwydd y penderfyniad a fydd yn cael ei wneud. Dylech gofio na fydd gan berson ifanc sy’n meddu ar y galluedd i roi caniatâd i driniaeth syml, sy’n gymharol rhydd o risg, y galluedd i roi eu caniatâd i driniaeth gymhleth sy’n cynnwys risgiau uchel neu ganlyniadau difrifol o reidrwydd.9 Gall eu datblygiad corfforol ac emosiynol a newidiadau i’w hiechyd a’u triniaeth effeithio ar y galluedd i roi caniatâd hefyd.

9

Gweler paragraffau 63-64 arweiniad ynghylch cyngor a thriniaeth ar gyfer atal cenhedlu, erthylu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Plant a phobl ifanc nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd

27

Os na fydd plentyn yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd, dylech ofyn am ganiatâd eu rhiant. Fel arfer, bydd yn ddigonol cael caniatâd gan un rhiant. Os na fydd rhieni yn gallu cytuno ac os na fydd modd datrys unrhyw anghydfod mewn ffordd anffurfiol, dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch a ddylech wneud cais i’r llys.10 

10

Gweler Re C (Welfare of Child: Immunisation) [2003] EWCA Civ 1148, [2003] 2 FLR 1095 a pharagraffau 34–35 am arweiniad ynghylch gweithdrefnau a gyflawnir am resymau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol neu emosiynol yn bennaf.

28

Mae’r fframwaith cyfreithiol ynghylch trin pobl ifanc sy’n 16 ac sy’n 17 oed, nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd, yn gwahaniaethu ar draws y DU:

  1. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gall rhieni roi caniatâd i ymchwiliadau a thriniaeth y maent er budd pennaf y person ifanc
  2. Yng Nghymru a Lloegr, gellir darparu triniaeth sydd er budd pennaf y person ifanc heb sicrhau caniatâd rhieni hefyd, er y gallai safbwyntiau rhieni fod yn bwysig wrth asesu budd pennaf y person ifanc (gweler paragraphs 12 and 13)11 
  3. Yng Ngogledd Iwerddon, gellir darparu triniaeth sydd er budd pennaf y person ifanc os na fydd modd cysylltu â rhiant, er y dylech geisio cyngor cyfreithiol ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth llys ar gyfer ymyriadau sylweddol (ac eithrio ymyriadau brys)
  4. Yn yr Alban, caiff pobl ifanc sy’n 16 ac sy’n 17 oed nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, eu trin fel oedolion nad ydynt yn meddu ar alluedd, a gellir rhoi triniaeth i ddiogelu neu i hyrwyddo eu hiechyd.12 
12

Bydd asesiad o’r hyn sydd er budd pennaf plant a phobl ifanc yn cynnwys y wybodaeth glinigol mewn achos penodol. Yn ogystal, dylech ystyried:

  1. safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc, i’r graddau y gallant eu mynegi, gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a fynegwyd yn flaenorol
  2. safbwyntiau rhieni
  3. safbwyntiau eraill sy’n agos i’r plentyn neu’r person ifanc
  4. credoau diwylliannol, credoau crefyddol neu gredoau eraill y plentyn neu’r rhieni4 
  5. safbwyntiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gofal i’r plentyn neu’r person ifanc, ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill y mae ganddynt ddiddordeb yn eu lles
  6. pa ddewis, os ceir mwy nag un, a fydd yn cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r plentyn neu’r person ifanc yn y dyfodol.
13

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth. Bydd y pwys y byddwch yn ei roi ar bob pwynt yn dibynnu ar yr amgylchiadau, a dylech ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Ni ddylech ffurfio unrhyw ragdybiaethau nad oes modd eu cyfiawnhau ynghylch budd pennaf plentyn neu berson ifanc ar sail ffactorau amherthnasol neu wahaniaethol, megis eu hymddygiad, eu hymddangosiad neu eu hanabledd.

11

Pan na fydd person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gael, er enghraifft. Gweler a.5 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Phenodau 5 a 12 Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Os bydd rhieni ar gael, ond os na fyddant yn gallu cytuno neu os na fernir eu bod yn gweithredu er lles y person ifanc, dylid ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch gwneud cais i’r llys i ddatrys anghydfodau nad oes modd eu datrys mewn ffordd anffurfiol. Os bydd gan y person ifanc anhwylder meddyliol (os nad oes ganddynt alluedd neu beidio hefyd), dylech ystyried darpariaethau’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl.

12

Gweler Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.

Pobl ifanc sy’n meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd

29

Dylech annog pobl ifanc i gynnwys eu rhieni yn y broses o wneud penderfyniadau pwysig, ond fel arfer, dylech gydymffurfio gydag unrhyw benderfyniad y mae ganddynt y galluedd i’w wneud ar eu pen eu hunain (gweler paragraffau 30 i 33 a 46 - 52). Yn ogystal, dylech ystyried cynnwys aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol, eiriolwr annibynnol, neu weithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol amddiffyn plant, os byddai eu cyfranogiad yn helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau.

46

Os na fydd plentyn neu berson ifanc yn cytuno datgelu eu gwybodaeth, ceir amgylchiadau o hyd lle y dylech ddatgelu gwybodaeth:

  1. pan fydd budd o’r pwys mwyaf i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth
  2. pan fyddwch yn barnu bod y datgeliad er budd pennaf plentyn neu berson ifanc nad ydynt yn meddu ar yr aeddfedrwydd neu’r ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ynghylch datgelu
  3. pan fo’r gyfraith yn mynnu y dylid datgelu.
47

Gallwch ddatgelu gwybodaeth sy’n nodi manylion y plentyn neu’r person ifanc heb sicrhau eu caniatâd, os bydd hyn er budd y cyhoedd. Bydd datgeliad er budd y cyhoedd os bydd y manteision sy’n debygol o gael eu sicrhau o ddatgelu gwybodaeth yn gorbwyso lles y plentyn neu’r person ifanc o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, a budd cymdeithas wrth gynnal ymddiriedaeth rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion. Rhaid i chi ffurfio’r farn hon fesul achos unigol, trwy bwyso a mesur y budd amrywiol dan sylw.

48

Wrth ystyried a fyddai modd cyfiawnhau datgelu, dylech:

  1. ddweud wrth y plentyn neu’r person ifanc am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei ddatgelu a pham, oni bai y byddai hynny yn tanseilio’r diben neu’n golygu bod y plentyn neu’r person ifanc mewn mwy o berygl o ddioddef niwed
  2. gofyn am ganiatâd i’r datgeliad, os ydych yn barnu bod y person ifanc yn gymwys i wneud y penderfyniad, oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny.
49

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gwrthod rhoi eu caniatâd neu os nad yw’n ymarferol gofyn am eu caniatâd, dylech ystyried y manteision a’r niwed posibl a allai godi o ddatgelu. Dylech ystyried unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plentyn neu’r person ifanc ynghylch pam na ddylech ddatgelu’r wybodaeth. Ond dylech ddatgelu gwybodaeth os bydd angen gwneud hyn er mwyn diogelu’r plentyn neu’r person ifanc, neu rywun arall, rhag risg marwolaeth neu niwed difrifol. Gallai achosion o’r fath godi, er enghraifft:

  1. os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn rhywiol, yn gorfforol neu’n emosiynol (gweler paragraphs 56 to 63)
  2. os byddai’r wybodaeth yn helpu i atal, darganfod neu erlyn rhywun am gyflawni trosedd ddifrifol, trosedd yn erbyn y person fel arfer28 
  3. os bydd plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig ag ymddygiad a allai eu rhoi nhw neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, megis dibyniaeth ddifrifol, hunan-niwed neu ddwyn ceir. 
50

Os ydych o’r farn bod modd cyfiawnhau datgelu, dylech ddatgelu’r wybodaeth yn ddi-oed i berson neu awdurdod priodol, gan gofnodi’ch trafodaethau a’ch rhesymau. Os byddwch o’r farn nad oes modd cyfiawnhau datgelu, dylech gofnodi’ch rhesymau dros beidio datgelu.

51

Fel arfer, bydd rhieni neu oedolion eraill sy’n ymwneud â’u gofal yn mynychu gyda phlant, a bydd modd i chi weld yn ôl eu hymddygiad fel arfer os bydd plentyn yn cytuno i’r weithred o rannu gwybodaeth neu beidio. O bryd i’w gilydd, bydd plant nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, yn rhannu gwybodaeth gyda chi yn unol â’r ddealltwriaeth na ddylid hysbysu eu rhieni. Fel arfer, dylech geisio perswadio’r plentyn i gynnwys rhiant mewn amgylchiadau o’r fath. Os byddant yn gwrthod ac os byddwch o’r farn ei bod er budd pennaf y plentyn i chi rannu’r wybodaeth (er enghraifft, er mwyn galluogi rhiant i wneud penderfyniad pwysig neu er mwyn darparu gofal cywir i’r plentyn), gallwch ddatgelu’r wybodaeth i rieni neu awdurdodau priodol. Dylech gofnodi’ch trafodaethau a’ch rhesymau dros rannu’r wybodaeth.

52

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith. Yn ogystal, rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth pan fyddwch yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan lys.29 

Os bydd person ifanc yn gwrthod triniaeth

30

Mae parchu safbwyntiau pobl ifanc yn bwysig wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal. Os byddant yn gwrthod triniaeth, yn enwedig triniaeth a allai achub eu bywyd neu atal eu hiechyd rhag gwaethygu mewn ffordd ddifrifol, bydd hon yn her y bydd angen i chi ei hystyried yn ofalus.

31

Ni all rhieni ddiystyru caniatâd cymwys person ifanc i gael triniaeth yr ydych yn ei hystyried yn driniaeth sydd er eu budd pennaf. Ond gallwch ddibynnu ar ganiatâd rhieni pan na fydd plentyn meddu ar y galluedd i roi caniatâd. Yn yr Alban, ni all rhieni awdurdodi triniaeth a wrthodwyd gan berson ifanc cymwys.13 Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r gyfraith sy’n ymwneud â rhieni yn diystyru gwrthodiad cymwys person ifanc yn gymhleth.14 Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych o’r farn bod triniaeth er budd pennaf person ifanc cymwys sy’n ei gwrthod.15 

13

Gweler Houston (applicant) [1996] 32 BMLR 93.

14

Gweler Re R (a minor) [1991] 4 All ER 177.

15

Mae Deddf Plant 1989, Children Act (Northern Ireland) Order 1995 a Children Act (Scotland) 1995 yn rhoi hawliau statudol i bobl ifanc cymwys i wrthod asesiadau neu archwiliadau meddygol neu seiciatrig sy’n cael eu gorchymyn gan y llys neu gan wrandawiad plant at ddibenion gorchymyn gofal interim, gorchymyn goruchwylio, gorchymyn amddiffyn plant neu orchymyn amddiffyn brys neu, yn yr Alban, gofyniad gorchymyn goruchwylio, asesu, amddiffyn neu fan diogel. Gall awdurdodaeth ymlynol yr Uchel Lys ddiystyru penderfyniad person ifanc i wrthod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Cyngor Sir De Morgannwg v W & B [1993] 1 FLR 574). Nid yw’r sefyllfa mor eglur yn yr Alban; gweler Age of Legal Capacity (Scotland) Act 1991.

32

Rhaid i chi bwyso’r niwed i hawliau plant a phobl ifanc o ddiystyru eu penderfyniad i wrthod triniaeth, yn erbyn manteision y driniaeth, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud er eu budd pennaf.16 Yn yr amgylchiadau hyn, dylech ystyried cynnwys aelodau eraill o’r timˆ amlddisgyblaethol, eiriolwr annibynnol, neu weithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol amddiffyn plant. Gallai cyngor cyfreithiol fod o gymorth wrth benderfynu a ddylech wneud cais i’r llys i ddatrys anghydfodau ynghylch lles nad oes modd eu datrys mewn ffordd anffurfiol.

16

Gweler Re W (A Minor) (Medical Treatment: Court’s Jurisdiction)[1993] Fam 64, [1992] 4 All ER 627 CA.

33

Yn ogystal, dylech ystyried cynnwys yr un cydweithwyr hyn cyn ceisio cyngor cyfreithiol os bydd rhieni yn gwrthod triniaeth y mae’n amlwg ei bod er budd pennaf plentyn neu berson ifanc nad ydynt yn meddu ar alluedd, neu os bydd person ifanc sy’n meddu ar alluedd, a’u rhieni, yn gwrthod triniaeth o’r fath.17 Am arweiniad pellach ynghylch y materion hyn, trowch at arweiniad CMC ynghylch gwneud penderfyniadau a chaniatâd a thriniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes.

17

Gweler Re P (Medical Treatment: Best Interests) [2004] 2 FLR 1117.

Gweithdrefnau a gyflawnir am resymau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol neu emosiynol yn bennaf

34

Mae GMC a’r gyfraith yn caniatau i triniaethau nad ydynt yn cynnig manteision therapiwtig amlwg neu fanteision therapiwtig ar unwaith i blant neu bobl ifanc, ar yr amod eu bod er eu budd pennaf (gweler paragraffau 12 ac 13) a’u bod yn cael eu cyflawni gyda’u caniatâd (gweler paragraffau 27). Caiff gweithdrefnau penodol, fodd bynnag, eu gwahardd gan y gyfraith.18 

18

Mae Deddf Tocsin Botwlinwm a Llenwadau Cosmetig (Plant) 2021 yn ei gwneud yn drosedd darparu neu drefnu’r triniaethau hyn ar gyfer pobl dan 18 oed, oni bai bod hyn yn cael ei gymeradwyo gan feddyg oherwydd angen meddygol a aseswyd ac yn cael eu rhoi gan feddyg, nyrs, deintydd neu fferyllydd. Mae’r Ddeddf mewn grym yn Lloegr yn unig.

35

Er mwyn asesu eu budd pennaf, dylech ystyried credoau a gwerthoedd crefyddol a diwylliannol y plentyn neu’r person ifanc, a’u rhieni, yn ogystal ag unrhyw fanteision cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol. Gallai hyn fod yn berthnasol wrth enwaedu plant gwrywaidd am resymau crefyddol neu ddiwylliannol,19 neu gywiro nodweddion corfforol nad ydynt yn peryglu bywyd neu iechyd y plentyn, mewn ffordd lawfeddygol.20 

19

Gweler ein harweiniad ynghylch Credoau personol ac arfer meddygol; The law and ethics of male circumcision – Guidance for doctors, BMA 2006; Religious circumcision of male children: standards of care, Cymdeithas Llawfeddygon Pediatrig Prydain (BAPS) 2001, a Statement on Male Circumcision, BAPS, Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a Choleg Brenhinol yr Anesthetyddion, 2001. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (y cyfeirir ato weithiau fel enwaedu benywod) yn drosedd ddifrifol ac yn fater amddiffyn plant, os yw’n cael ei gyflawni yn y DU neu mewn gwlad dramor. Er mis Hydref 2015, mae gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd gyfreithiol i adrodd am achosion hysbys o anffurfio organau cenhedlu benywod ymhlith merched a menywod ifanc dan 18 oed i’r heddlu. Mae Llywodraeth EM wedi cyhoeddi dwy ddogfen arweiniad ynghylch anffurfio organau cenhedlu benywod: Multi-agency statutory guidance on female genital mutilationMandatory reporting of female genital mutilation: procedural information.

20

Gweler canllawiau'r GMC ynghylch Ymyriadau cosmetig.

Ymchwil

36

Gall ymchwil sy’n cynnwys plant a phobl ifanc fod o fudd i bob plentyn; ond fe allent fod yn agored i niwed oherwydd na allant gydnabod yr hyn sydd er eu budd pennaf, mynegi eu hanghenion neu amddiffyn eu hawliau bob amser.

37

Dim ond pan na fydd modd i oedolion ddarparu’r un manteision y dylid cynnwys plant neu bobl ifanc mewn gwaith ymchwil. Gallant ymwneud â gwaith ymchwil sy’n cynnig:

  1. manteision posibl i blant neu bobl ifanc yn gyffredinol, ar yr amod nad yw’r gwaith ymchwil yn mynd yn groes i’w budd pennaf neu os mai dim ond risg isel neu’r risg lleiaf ag y bodd o niwed y mae’n ei olygu (byddai hyn yn waith ymchwil sy’n cynnwys, er enghraifft, gofyn cwestiynau neu gymryd samplau gwaed, asesu’r risg gan ddibynnu ar safbwynt y plentyn neu’r person ifanc), neu
  2. fanteision therapiwtig posibl iddynt sy’n gorbwyso unrhyw risgiau y gellir eu rhagweld, y dylid eu cadw mor fach ag y bo modd.
38

Fel arfer, ni ddylai plant a phobl ifanc ymwneud â gwaith ymchwil os byddant yn gwrthwynebu neu os yw’n ymddangos eu bod yn gwrthwynebu mewn gair neu weithred, hyd yn oes os bydd eu rhieni yn rhoi eu caniatâd. Os byddant yn gallu rhoi eu caniatâd eu hunain, dylech ystyried cynnwys eu rhieni o hyd, gan ddibynnu ar natur y gwaith ymchwil.21 

21

Gweler Datganiad Helsinki Cymdeithas Feddygol y Byd a Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004, sy’n mynnu caniatâd rhieni i gyd-fynd â chytundeb pobl ifanc cymwys dan 16 oed hyd yn oed i gymryd rhan mewn treialon.

39

Ni ddylech roi pwysau ar blant, pobl ifanc na’u rhieni i roi caniatâd i waith ymchwil y disgwylir iddo sicrhau manteision therapiwtig, manteision ariannol neu unrhyw fanteision eraill.

40

Cyn cynnwys plant neu bobl ifanc mewn gwaith ymchwil,22 dylech geisio cyngor a sicrhau’r gymeradwyaeth angenrheidiol gan bwyllgor moeseg ymchwil perthnasol, y Cyngor Ymchwil Feddygol23 neu goleg brenhinol meddygol.24 

22

Gweler arweiniad CMC ynghylch Arfer da ym maes ymchwil.

23

Gweler Medical Research Involving Children (Cyngor Ymchwil Feddygol, 2004).

24

Gweler Guidelines for the ethical conduct of medical research involving children, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant: Ethics Advisory Committee yn Archives of Disease in Childhood, Chwefror 2000, Cyf 82, Rhif 2, tud 177–182).

Rhoi, trawsblannu, storio a defnyddio organau a meinwe

41

Pasiwyd Deddf Meinwe Dynol 2004 a Human Tissue (Scotland) Act 2006 yn dilyn ymchwiliadau ynghylch y broses o storio organau a meinwe plant heb sicrhau’r caniatâd cywir. Mae’r Deddfau yn sicrhau bod caniatâd yn ganolog i’r broses gyfreithlon o storio a defnyddio organau a meinwe plant a phobl ifanc, a chymryd deunydd o’r fath ar ôl marwolaeth. Mae’r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn rheoleiddio ac yn cyhoeddi codau ymarfer ynghylch gweithgareddau y mae’r Ddeddf yn ymwneud â nhw yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gweinidogion yr Alban yn meddu ar y pwerau hyn yn yr Alban.