0–18 oed

Asesu budd pennaf

12

Bydd asesiad o’r hyn sydd er budd pennaf plant a phobl ifanc yn cynnwys y wybodaeth glinigol mewn achos penodol. Yn ogystal, dylech ystyried:

  1. safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc, i’r graddau y gallant eu mynegi, gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a fynegwyd yn flaenorol
  2. safbwyntiau rhieni
  3. safbwyntiau eraill sy’n agos i’r plentyn neu’r person ifanc
  4. credoau diwylliannol, credoau crefyddol neu gredoau eraill y plentyn neu’r rhieni4 
  5. safbwyntiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gofal i’r plentyn neu’r person ifanc, ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill y mae ganddynt ddiddordeb yn eu lles
  6. pa ddewis, os ceir mwy nag un, a fydd yn cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r plentyn neu’r person ifanc yn y dyfodol.
4

Gweler Re A (A minor) (Wardship: Medical Treatment) [1993] 1FLR 386.

13

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth. Bydd y pwys y byddwch yn ei roi ar bob pwynt yn dibynnu ar yr amgylchiadau, a dylech ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Ni ddylech ffurfio unrhyw ragdybiaethau nad oes modd eu cyfiawnhau ynghylch budd pennaf plentyn neu berson ifanc ar sail ffactorau amherthnasol neu wahaniaethol, megis eu hymddygiad, eu hymddangosiad neu eu hanabledd.