Atodiad 1
Pwy yw plant a phobl ifanc?
Mae plant a phobl ifanc yn grŴp amrywiol y mae ganddynt nifer o wahanol anghenion.
Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc o’u genedigaeth nes iddynt gael eu pen-blwydd yn 18 oed.
Plant
Pan fyddwn yn dweud ‘plant’, rydym yn golygu plant iau heb aeddfedrwydd a dealltwriaeth. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach iddynt wneud penderfyniadau pwysig drostynt eu hunain.
Pobl ifanc
Pan fyddwn yn dweud ‘pobl ifanc’, rydym yn golygu plant hŷn neu blant mwy profiadol. Gall y grŵp hwn wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Pan fyddant yn 16 oed, barnir bod pobl ifanc yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau am eu gofal eu hunain.