0–18 oed: arweiniad i bob meddyg
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn) os ydynt yn gweld plant a phobl ifanc fel cleifion yn rheolaidd neu beidio. Fe allai fod o ddefnydd i blant, pobl ifanc,1 y sawl y mae ganddynt ddiddordeb yn eu gofal, ac unrhyw un arall hefyd sy’n dymuno gwybod pa arweiniad a roddir i weithwyr meddygol proffesiynol. Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Gweler Atodiad 1 am yr hyn a olygwn pan fyddwn yn cyfeirio at blant a phobl ifanc.
Dylai gweithwyr meddygol proffesiynol fod yn ymwybodol o anghenion a lles plant a phobl ifanc pan fyddant yn gweld cleifion:
- sy’n rhieni neu’n ofalwyr2
- y mae plant neu bobl ifanc yn gofalu amdanynt, neu
- y gallent fod yn beryglus i blant neu bobl ifanc.
Gweler Atodiad 2 am arweiniad ynghylch y sawl y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant a rolau rhieni a gofalwyr.
Mae Arfer meddygol da yn nodi bod yn rhaid i chi ddiogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae lles yn cynnwys trin plant a phobl ifanc fel unigolion a pharchu eu safbwyntiau, yn ogystal ag ystyried eu lles corfforol ac emosiynol.
Wrth drin plant a phobl ifanc, rhaid i chi ystyried rhieni ac eraill sy’n agos atynt hefyd; ond rhaid i chi roi’r pwys mwyaf ar y claf.
Wrth drin oedolion sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, neu y maent yn peri risg i blant a phobl ifanc, rhaid chi roi’r pwys mwyaf ar y claf sy’n oedolyn; ond mae’n rhaid i chi ystyried plant a phobl ifanc hefyd, a gweithredu er eu budd pennaf nhw.
Gallai plant a phobl ifanc fod yn arbennig o agored i niwed ac mae angen eu diogelu rhag niwed; yn aml, byddant yn ei chael hi’n anodd manteisio ar wasanaethau neu amddiffyn eu hawliau; ac yn aml, byddant yn dibynnu ar eraill am eu lles. Efallai y bydd ganddynt anghenion cyfathrebu penodol ac efallai y bydd angen help arnynt wrth wneud penderfyniadau.
Mae plant a phobl ifanc yn unigolion ac mae ganddynt hawliau y dylid eu parchu. Mae hyn yn golygu gwrando arnynt ac ystyried yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am bethau sy’n effeithio arnynt. Yn ogystal, mae’n golygu parchu eu penderfyniadau a’u cyfrinachedd.
Dylech chi weithredu er budd pennaf plant a phobl ifanc bob amser. Hon ddylai fod yr egwyddor arweiniol ym mhob penderfyniad a allai effeithio arnynt. Ond nid yw nodi’r hyn sydd er eu budd pennaf yn dasg hawdd bob amser. Mae hyn yn arbennig o wir pan ystyrir triniaeth nad oes iddi fanteision a brofwyd i iechyd rhywun neu pan fo person ifanc cymwys yn gwrthod triniaeth y mae’n amlwg ei bod er lles meddygol iddynt. Gallai gwrthdaro godi rhwng ystyriaethau amddiffyn plant a chyfrinachedd hefyd, y mae’r ddau yn ystyriaethau hollbwysig i les plant a phobl ifanc.
Gallai sicrhau atebion boddhaol i’r cwestiynau heriol hyn olygu ystyried nifer o faterion moesegol a chyfreithiol anodd. Diben yr canllawiau hwn yw eich helpu chi i sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau sy’n mynd yn groes i’w gilydd a gwneud penderfyniadau sy’n foesegol, sy’n gyfreithlon ac sydd er lles plant a phobl ifanc.
Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn gymhleth ac mae’n gwahaniaethu ar draws y DU. Os oes gennych chi gleifion sy’n blant ac sy’n bobl ifanc, rhaid i chi feddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r gyfraith sy’n berthnasol yn yr ardal rydych chi’n gweithio ynddi. Ni all y crynodebau a roddir o’r gyfraith yn y canllawiau hyn gymryd lle y cyngor meddygol diweddaraf mewn achosion unigol.3
Efallai y bydd cyrff amddiffyn meddygol a chyfreithwyr cyflogwyr yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol pan geir ansicrwydd ynghylch sut y byddai’r gyfraith yn ystyried penderfyniad penodol. Mae’r gyfraith achosion sy’n ymwneud â rhoi triniaeth i blant newydd-anedig (babanod ar unrhyw adeg yn ystod y 28 diwrnod cyntaf ar ôl eu genedigaeth) sy’n sâl iawn, yn arbennig o gymhleth. Dylech ystyried arweiniad CMC ynghylch Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes a chael cyngor cyfreithiol arbenigol yn ôl yr angen yn y maes hwn.
Pan geir unrhyw amheuaeth ynghylch eich cyfrifoldebau, dylech chi geisio cyngor cydweithwyr profiadol, gweithiwr proffesiynol amddiffyn plant penodol neu ddynodedig, neu glinigydd arweiniol amddiffyn plant, neu gyrff proffesiynol neu gyrff rheoleiddio.