0–18 oed

Addasrwydd i weithio gyda phlant a phobl ifanc

66

Nid oedolion bach yw plant. Mae gofal clinigol da i blant yn dibynnu ar staff clinigol a hyfforddwyd yn arbennig, ynghyd ag offer, cyfleusterau ac amgylchedd sy’n briodol i anghenion plant. Os bydd gennych gleifion sy’n blant ac yn bobl ifanc, dylech sicrhau eich bod yn meddu ar yr hyfforddiant a’r profiad priodol ym maes gofal clinigol i blant yn eich maes arbenigol. Dylech gymryd camau i sicrhau, pryd bynnag y bo modd, eich bod chi ac aelodau’ch timˆyn gallu manteisio ar y safle, yr offer, a’r adnoddau eraill sy’n angenrheidiol i ddarparu gofal da. Os oes gennych oedolion fel cleifion hefyd, dylech archwilio’r gofal yr ydych yn ei ddarparu i blant a phobl ifanc ar wahân.39 

67

Os ydych yn gyfrifol am recriwtio neu gyflogi pobl, neu os ydych fel arall yn rheoli’r sawl sy’n gallu gweithio gyda phlant neu bobl ifanc yn eich gofal, dylech sicrhau bod eu haddasrwydd yn cael ei archwilio. Mae NHS Employers (rhan o Gonffederasiwn GIG) yn rhoi cyngor ynghylch arfer cyflogaeth da, gan gynnwys trefniadau cyn ac ar ôl cyflogaeth, y Swyddfa Cofnodion Troseddol, hysbysiad rhybudd, y cynllun fetio a gwahardd ac archwiliadau eraill.

68

Dylech ddilyn arweiniad CMC ynghylch mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion40 os bydd gennych bryderon bod plant neu bobl ifanc mewn perygl o ddioddef niwed, neu y gallent fod mewn perygl o ddioddef niwed, oherwydd ymddygiad, perfformiad neu iechyd cydweithiwr.

40

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc a gwasanaethau mamolaeth (Adran Iechyd, 2004); Children’s surgery – a first class service (Royal College of Surgeons of England, 2000); Common Core Skills and Knowledge for the Children’s Workforce (Adran Cyngor Datblygu’r Gweithlu Plant, 2010).