Yr hawl i blant, pobl ifanc a’u rhieni weld eu cofnodion meddygol
Mae gan bobl ifanc sy’n meddu ar alluedd yr hawl gyfreithiol i weld eu cofnodion iechyd eu hunain, ac maent yn gallu caniata´u i eraill, gan gynnwys eu rhieni, i’w gweld neu i’w hatal rhag eu gweld.30 Yn yr Alban, mae’n cael ei dybio gan y gyfraith bod unrhyw un dros 12 oed yn meddu ar alluedd o’r fath. Wrth gwrs, gallai plentyn sicrhau galluedd yn gynharach neu’n hwyrach na hyn. Mewn unrhyw achos, dylech ganiata´u i blant weld eu cofnodion iechyd eu hunain fel arfer. Ond ni ddylid caniata´u iddynt weld gwybodaeth a fyddai’n achosi niwed difrifol iddynt neu unrhyw wybodaeth am berson arall heb sicrhau caniatâd y person arall.
Ceir amgylchiadau pan ellir gwneud datgeliadau i rieni ac eraill heb sicrhau caniatâd (gweler paragraffau 46 - 52).
Dylech ganiatáu i rieni weld cofnodion meddygol eu plentyn os bydd y plentyn neu’r person ifanc yn rhoi eu caniatâd, neu os na fyddant yn meddu ar alluedd, ac os nad yw’n groes i fudd pennaf y plentyn. Os bydd y cofnodion yn cynnwys gwybodaeth a roddwyd gan y plentyn neu’r person ifanc yn gyfrinachol, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth heb sicrhau eu caniatâd fel arfer.31
Fel arfer, ni ddylid datgelu gwybodaeth sy’n cael ei sicrhau o ganlyniad i archwiliadau neu ymchwiliadau y rhoddodd plant neu bobl ifanc eu caniatâd iddynt gan ddisgwyl cyfrinachedd, ychwaith. Gweler a.5(3) Gorchymyn Diogelu Data (Addasu Mynediad Pwnc) (Iechyd) 2000. Yn ogystal, gweler paragraffau 46 - 52 ynghylch datgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd.
Nid yw ysgaru neu wahanu yn effeithio ar gyfrifoldeb rhiant a dylech roi’r cyfle rhesymol i’r ddau riant weld cofnodion iechyd eu plentyn.