Gweithgarwch rhywiol
Mae gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol yn hanfodol er lles plant a phobl ifanc. Pryder ynghylch cyfrinachedd yw’r ystyriaeth fwyaf sy’n atal pobl ifanc rhag gofyn am gyngor ynghylch iechyd rhywiol.33 Yn ei dro, mae hyn yn peryglu iechyd pobl ifanc ac mae’n peryglu iechyd y gymuned, yn enwedig pobl ifanc eraill.
Gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol pan fo hynny er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 47 to 50). Os bydd plentyn neu berson ifanc yn ymwneud â gweithgarwch rhywiol sy’n cyfateb a cham-drin neu sy’n peri niwed difrifol, rhaid i chi eu diogelu trwy rannu gwybodaeth berthnasol gyda phobl neu asiantaethau priodol megis yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol, yn gyflym ac mewn ffordd broffesiynol.
Gallwch ddatgelu gwybodaeth sy’n nodi manylion y plentyn neu’r person ifanc heb sicrhau eu caniatâd, os bydd hyn er budd y cyhoedd. Bydd datgeliad er budd y cyhoedd os bydd y manteision sy’n debygol o gael eu sicrhau o ddatgelu gwybodaeth yn gorbwyso lles y plentyn neu’r person ifanc o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, a budd cymdeithas wrth gynnal ymddiriedaeth rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion. Rhaid i chi ffurfio’r farn hon fesul achos unigol, trwy bwyso a mesur y budd amrywiol dan sylw.
Wrth ystyried a fyddai modd cyfiawnhau datgelu, dylech:
- ddweud wrth y plentyn neu’r person ifanc am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei ddatgelu a pham, oni bai y byddai hynny yn tanseilio’r diben neu’n golygu bod y plentyn neu’r person ifanc mewn mwy o berygl o ddioddef niwed
- gofyn am ganiatâd i’r datgeliad, os ydych yn barnu bod y person ifanc yn gymwys i wneud y penderfyniad, oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny.
Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gwrthod rhoi eu caniatâd neu os nad yw’n ymarferol gofyn am eu caniatâd, dylech ystyried y manteision a’r niwed posibl a allai godi o ddatgelu. Dylech ystyried unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plentyn neu’r person ifanc ynghylch pam na ddylech ddatgelu’r wybodaeth. Ond dylech ddatgelu gwybodaeth os bydd angen gwneud hyn er mwyn diogelu’r plentyn neu’r person ifanc, neu rywun arall, rhag risg marwolaeth neu niwed difrifol. Gallai achosion o’r fath godi, er enghraifft:
- os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn rhywiol, yn gorfforol neu’n emosiynol (gweler paragraphs 56 to 63)
- os byddai’r wybodaeth yn helpu i atal, darganfod neu erlyn rhywun am gyflawni trosedd ddifrifol, trosedd yn erbyn y person fel arfer28
- os bydd plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig ag ymddygiad a allai eu rhoi nhw neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, megis dibyniaeth ddifrifol, hunan-niwed neu ddwyn ceir.
Os ydych o’r farn bod modd cyfiawnhau datgelu, dylech ddatgelu’r wybodaeth yn ddi-oed i berson neu awdurdod priodol, gan gofnodi’ch trafodaethau a’ch rhesymau. Os byddwch o’r farn nad oes modd cyfiawnhau datgelu, dylech gofnodi’ch rhesymau dros beidio datgelu.
Dylech ystyried pob achos yn ôl ei haeddiant, gan ystyried ymddygiad pobl ifanc, eu hamgylchiadau byw, eu haeddfedrwydd, unrhyw anableddau dysgu difrifol ac unrhyw ffactorau eraill a allai olygu eu bod yn arbennig o agored i niwed.
Fel arfer, dylech rannu gwybodaeth ynghylch gweithgarwch rhywiol sy’n ymwneud â phlant dan 13 oed, y mae’r gyfraith yn eu hystyried fel unigolion na allant roi eu caniatâd.34 Dylech drafod penderfyniad i beidio datgelu gyda gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol amddiffyn plant, a chofnodi’ch penderfyniad a’ch rhesymau dros wneud y penderfyniad hwn.
Gweler Deddf Troseddau Rhywiol 2003, Sexual Offences (Northern Ireland) Order 2008 a Sexual Offences (Scotland) Act 2009.
Fel arfer, dylech rannu gwybodaeth ynghylch gweithgarwch rhywiol sy’n cyfateb â cham-drin neu sy’n peri niwed difrifol, ac sy’n cynnwys unrhyw blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys gweithgarwch sy’n ymwneud â’r canlynol:
- person ifanc nad ydynt yn ddigon aeddfed i ddeall neu i roi eu caniatâd
- gwahaniaethau mawr rhwng oedran, aeddfedrwydd neu bwˆ er rhwng partneriaid rhywiol
- partner rhywiol person ifanc yn meddu ar swydd gyfrifol
- grym neu fygythiad grym, pwysau emosiynol neu seicolegol, llwgrwobrwyo neu dâl, naill ai i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol neu i’w chadw fel cyfrinach
- cyffuriau neu alcohol a ddefnyddir i ddylanwadu ar berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol pan na fyddent yn gwneud hynny fel arall
- person y mae’r heddlu neu’r asiantaethau amddiffyn plant yn ymwybodol ohonynt oherwydd eu bod wedi cael perthnasoedd gyda phlant neu bobl ifanc a oedd yn cynnwys cam-drin.35
Mae Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant (Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2010) yn cynnwys cyngor a rhestr o ystyriaethau (yn 5.29) i’w hystyried wrth asesu risg mewn achosion rhyw tan oed. Yn ogystal, gweler Working Together: Q&A on sexual activity of under 16s and under 13s (Adran Addysg a Sgiliau, 2006), Children and Families: Safer from Sexual Crime –The Sexual Offences Act 2003 (Y Swyddfa Gartref, 2004) a Confidentiality Toolkit (Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, 2000).
Efallai na fyddwch yn gallu barnu bod perthynas yn un sy’n cynnwys cam- drin heb wybod y manylion ynghylch partner rhywiol person ifanc, na fydd y person ifanc yn dymuno’u datgelu efallai. Os ydych yn pryderu bod perthynas yn cynnwys cam-drin, dylech gydbwyso mewn ffordd ofalus y manteision o wybod manylion personol partner rhywiol, yn erbyn y colli ymddiriedaeth a allai ddigwydd trwy ofyn am wybodaeth o’r fath neu ei rhannu.