Pryder am eich gofal

Beth i’w wneud os ydych chi’n poeni am eich gofal

Mae’r rhan fwyaf o feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn trin eu cleifion â chwrteisi a pharch. Os ydych chi’n teimlo bod meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wedi gwahaniaethu yn eich erbyn neu wedi eich trin yn wahanol oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol neu eich hunaniaeth ryweddol, mae gennych hawl i gwyno.

Mae angen i sefydliadau wybod pwy ydych chi er mwyn ystyried eich pryderon yn llawn. Eich penderfyniad chi yw datgelu a ydych chi’n LHDTC+ ai peidio. Os byddwch chi’n gwneud hynny, efallai y bydd yn darparu cyd-destun defnyddiol.

Mynegi pryder yn lleol

Dylech fynegi’r materion hyn i’r sefydliad lle cawsoch eich trin yn gyntaf. Gellir setlo’r rhan fwyaf o faterion yn lleol.

Mae nifer o wasanaethau cymorth lleol yn gallu eich cefnogi gyda hyn

Mynegi pryder i ni

Os bydd meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn peri risg ddifrifol i gleifion, neu os yw eu gweithredoedd yn debygol o danseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio, efallai y bydd angen i ni gamu i mewn. Pan fyddwn yn credu nad yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn addas i ymarfer, gallwn osod cyfyngiadau ar eu cofrestriad neu eu hatal rhag ymarfer.

Sut mae mynegi pryder i ni.