Sefydliadau cymorth LHDT

Sefydliadau a all eich cefnogi

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi siarad â sefydliadau sy’n rhoi cymorth penodol i gleifion LHDT neu sy’n darparu gwasanaethau eirioli.

Lloegr

Stonewall

Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar bobl LHDT yn Lloegr.

LGBT Foundation

Elusen genedlaethol sy’n darparu gwasanaethau cyngor, cymorth a gwybodaeth i gymunedau LHDT ac sy’n cynnig cymorth i gleifion sydd â phryderon am wahaniaethu.

Gogledd Iwerddon

Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Mae’n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n teimlo ei fod wedi cael ei drin yn annheg oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol, yn y gwaith, mewn addysg ac wrth ddefnyddio gwasanaethau.

The Rainbow Project

Cefnogi iechyd a llesiant pobl LHDT a’u teuluoedd.

Switsfwrdd LHDT Gogledd Iwerddon

Mae’n cynnig clust i wrando a chefnogaeth i gymunedau LHDT yng Ngogledd Iwerddon. Mae hefyd yno i helpu unrhyw un sy’n teimlo’n ynysig neu helpu gyda’u hiechyd meddwl.

Yr Alban

Stonewall yr Alban

Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer unrhyw faterion sy’n effeithio ar bobl LHDT yn yr Alban.

Iechyd a Llesiant LHDT

Mae’n darparu gwasanaethau cymorth ac adnoddau i helpu pobl LHDT i fynd i'r afael â materion iechyd sy’n effeithio ar eu bywydau.

LGBT Youth Scotland

Mae’n darparu amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc LHDT yn yr Alban.

Cymru

Stonewall Cymru 

Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer unrhyw faterion sy’n effeithio ar bobl LHDT yng Nghymru.

Llinell Gymorth a Gwasanaeth Cwnsela LHDT Cymru

Mae’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion sy’n effeithio ar bobl LHDT, eu teulu a’u ffrindiau.