Lleoliadau clinigol – beth i’w ddisgwyl fel myfyriwr meddygol

Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â'r hyn i'w ddisgwyl o'ch lleoliadau clinigol, yr hyn a ddisgwylir gennych, a sut mae mynegi pryderon.

Mae'n tynnu sylw at y rhannau perthnasol o'n canllawiau ar gyflwyno lleoliadau clinigol i israddedigion, sydd wedi'u hanelu at ysgolion meddygol a darparwyr lleoliadau.

Ysgrifennwyd y canllaw hwn gan fyfyrwyr meddygol, ar gyfer myfyrwyr meddygol, ac mae'n cynnwys dyfyniadau am eu profiadau pan eu bod ar leoliadau clinigol. 

Drwy ddeall beth i'w ddisgwyl, gallwch fanteisio i'r eithaf ar eich amser ar leoliad clinigol.