Sut i fynegi pryderon am eich lleoliad clinigol
Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch cleifion yn ystod eich lleoliad, rhaid i chi eu codi'n brydlon. Dilynwch bolisi eich ysgol feddygol ar sut i fynegi pryderon lle bynnag y bo modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ei chi yn ein Canllawiau ar fynegi pryderon a gweithredu arnynt ac yn ein pwnc hyb moesegol yn ymwneud â chodi llais (Saesneg yn unig).
Mae lleoliadau clinigol yn rhan amhrisiadwy o’ch dysgu, eich profiad a’ch datblygiad fel myfyriwr meddygol.
Dylai ysgolion meddygol a darparwyr lleoliadau fod yn darparu profiadau addysgol a chlinigol o ansawdd uchel. Mae'n bwysig eich bod yn teimlo'n ddiogel, eich bod yn cael eich cefnogi a'ch goruchwylio'n briodol yn ystod lleoliadau clinigol drwy gydol eich cyfnod yn yr ysgol feddygol.
Os nad ydych yn teimlo eich bod yn cael y profiad y dylech ei gael ar unrhyw adeg, mae'n bwysig codi hyn gyda'r person neu'r sefydliad priodol fel y gellir mynd i'r afael â hyn.
I wella eich profiad a phrofiad myfyrwyr meddygol eraill yn y dyfodol, mae’n hanfodol eich bod yn codi eich llais am bryderon ac yn rhoi adborth rheolaidd.
Sut ydw i’n mynegi pryderon am ansawdd fy lleoliad?
Dylech deimlo’n gyfforddus i fynegi unrhyw bryderon a rhoi adborth gonest am ansawdd eich lleoliadau clinigol i'r tîm clinigol, cydlynwyr y lleoliadau, a'ch ysgol feddygol.
Dylech allu gwneud hyn yn agored, yn ddienw neu’n gyfrinachol. Wrth fynegi pryder wyneb yn wyneb, efallai y byddwch am ddod o hyd i rywle tawel i gael y sgwrs.
Gall fod yn anodd gwybod pwy yw’r unigolyn gorau i siarad â nhw. Dylai fod polisi gan eich ysgol feddygol, felly dilynwch hwnnw lle bo modd.
Pwy ddylech chi siarad â nhw am wahanol bryderon
Siaradwch â’ch tîm clinigol (meddyg dan hyfforddiant/staff y ward/meddyg ymgynghorol) am y materion canlynol:
- pryderon am ddiogelwch cleifion
- pryderon am yr amgylchedd clinigol
- cyfleoedd i weld rhai cyflyrau neu weithdrefnau meddygol penodol, er mwyn hwyluso eich dysgu.
Siaradwch â’ch goruchwyliwr addysgol neu glinigol am y materion canlynol:
- unrhyw drafferthion personol pan fyddwch ar leoliad
- nad ydych yn cyflawni deilliannau dysgu eich lleoliad clinigol
- digwyddiad yn ystod eich lleoliad clinigol
- ymddygiad amhriodol
- os ydych yn profi neu’n dyst i fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu.
Siaradwch â chydlynydd eich lleoliad am y materion canlynol:
- problemau gydag amserlenni neu amserlennu gweithgareddau clinigol
- nad yw timau clinigol yn ymwybodol y byddwch chi’n ymuno â nhw
- problemau TG
- pryderon ynghylch llety neu deithio.
Siaradwch â’ch ysgol feddygol am y materion canlynol:
- problemau gyda’ch goruchwyliwr addysgol neu glinigol
- pryderon am asesiadau
- pryderon nad yw darparwr eich lleoliad yn eu datrys, er mwyn i'ch ysgol feddygol ymchwilio ymhellach iddynt.
Dewisiadau eraill
Yn Lloegr, gallwch uwchgyfeirio eich pryderon i’r Gwarcheidwad Rhyddid i Siarad (Saesneg yn unig) os na allwch eu datrys neu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus i’w mynegi’n uniongyrchol.
Os oes gennych bryder difrifol neu barhaus am ansawdd eich addysg nad ydych wedi llwyddo i’w datrys yn lleol, gallwch hefyd roi gwybod i ni amdano.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein yn ein pwnc hyb moesegol yn ymwneud â chodi llais (Saesneg yn unig).