Beth yw lleoliadau clinigol?

Mae lleoliadau clinigol yn flociau amser wedi’u cynllunio fel rhan o’ch gradd feddygol lle rydych yn mynd i leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol at ddibenion addysgol.

Mae’r rhain yn gyfleoedd pwysig i gael profiad ymarferol mewn amrywiaeth o arbenigeddau a lleoliadau, a’r cyfle i ryngweithio ag amrywiaeth eang o gleifion.

Maent wedi’u cynllunio i’ch arfogi â’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad y bydd eu hangen arnoch fel meddyg sydd newydd gymhwyso, fel y nodir yn ein Deilliannau i raddedigion (Saesneg yn unig).

Gall deimlo’n frawychus i ddechrau lleoliad clinigol fel myfyriwr meddygol ond mae'r profiadau y byddwch yn eu cael yn amhrisiadwy ac yn aml dyma rai o uchafbwyntiau eich cyfnod yn yr ysgol feddygol.
Kike Solanke
Myfyriwr meddygol yn ei blwyddyn olaf

Ble bydd eich lleoliadau clinigol yn cael eu cynnal?

Gall lleoliadau clinigol ddigwydd mewn lleoliadau gofal sylfaenol, eilaidd, cymunedol neu leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gyda rhai agweddau’n ymwneud ag ymgynghoriadau o bell. Nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r amgylcheddau y mae meddygon yn gweithio ynddynt ond dylent gynnwys timau amlddisgyblaethol ehangach.

Gallwch ddisgwyl cael profiadau ar draws amrywiaeth o leoliadau. Gall hyn gynnwys lleoliadau trefol a gwledig, ysbytai cyffredinol dosbarth ac ysbytai trydyddol, a lleoliadau cymunedol a rhai yn y trydydd sector.

Dylai eich ysgol feddygol gynnig cymorth ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â mynd ar leoliad ym mhell i ffwrdd. Er enghraifft, costau teithio os oes pellter afresymol rhwng y lleoliad a'ch llety yn ystod y tymor.

Dywedodd myfyrwyr meddygol wrthym eu bod yn cael y profiadau gorau ar leoliad clinigol dan yr amgylchiadau canlynol:

  • 'Cawsom ein hintegreiddio’n llawn ac roeddem yn teimlo ein bod yn rhan o’r tîm.'
  • ‘Roedd yna amserlen glir a chynhwysfawr o weithgareddau clinigol ac addysgu.’
  • ‘Arsylwyd arnom wrth ymgymryd â sgiliau clinigol a rhoddwyd adborth i ni.’
  • 'Roeddem yn gallu rhoi adborth ar sut roedd y lleoliad yn mynd.’
  • ‘Roeddem yn gwybod at bwy i droi am gymorth.’