Beth i’w ddisgwyl cyn i chi ddechrau eich lleoliad clinigol

Cyn i chi ddechrau eich lleoliad clinigol, dylech wneud y canlynol:

  • cael amserlen gyda chyfleoedd addysgu
  • gwybod beth yw deilliannau dysgu’r lleoliad
  • cael sesiwn gynefino leol gan ddarparwr eich lleoliad
  • cael gwybodaeth am sut i fynegi pryderon ynghylch diogelwch neu ansawdd, a gwybodaeth am sut i gael gafael ar rwydweithiau cymorth, fel gwasanaethau lles
  • cael eich cyflwyno i’r tîm clinigol
  • cael eich tywys o gwmpas a chael cardiau mynediad i’r ward
  • cael mynediad at systemau TG, cyfleusterau newid a mannau gorffwys.