Beth a ddisgwylir gennych yn ystod eich lleoliad clinigol
- Gwahanol fathau o leoliadau clinigol
- Beth a ddisgwylir gennych yn ystod eich lleoliad clinigol
- Sut i fynegi pryderon am eich lleoliad clinigol
Diogelwch cleifion a hawliau cleifion
Mae diogelwch cleifion yn ganolog i Ymarfer meddygol da a dylai fod yn flaenoriaeth i chi tra byddwch yn eich lleoliad.
IMae'n bwysig eich bod yn deall sut i godi pryderon ynghylch diogelwch cleifion. Codi a gweithredu ar bryderon am ddiogelwch cleifion yn rhoi arweiniad ar y camau i’w cymryd. Dylech hefyd ddilyn y canllawiau lleol a ddarperir gan eich ysgol feddygol neu ddarparwr eich lleoliad.
Dylech bob amser fod yn onest gyda chleifion am lefel eich profiad a’ch galluoedd, a gofyn am gymorth ac arweiniad, pan fo angen.
Cofiwch fod cyfrinachedd cleifion yn hanfodol i ofal cleifion, felly mae cyfrifoldeb arnoch i'w ddiogelu.
Proffesiynoldeb
Mae presenoldeb a phrydlondeb yn bwysig. Dylech roi gwybod i’r tîm clinigol os nad ydych chi’n gallu bod yn bresennol neu os ydych chi’n mynd i fod yn hwyr.
Mae’n bwysig gwisgo’n daclus a dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau.
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn cadw pellter proffesiynol, gallwch newid eich gosodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn diogelu cyfrinachedd cleifion, rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych yn rhannu unrhyw wybodaeth ar-lein a allai ddatgelu pwy ydynt . Gallwch edrych ar ein canllawiau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a’n pwnc hyb moesegol sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o gyngor.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymddygiadau a ddisgwylir gennych fel myfyriwr meddygol yn ystod lleoliad clinigol, darllenwch Cyflawni ymarfer meddygol da.
Byddwch yn rhan o’r tîm
Cymerwch ran yn y tîm amlddisgyblaethol. Byddwch yn cael profiad gwerthfawr o ddeall rôl allweddol pob disgyblaeth a sut mae hyn yn cyfrannu at ddarparu’r gofal gorau posibl i’r claf.
Byddwch yn aelod da o’r tîm! Cyfarchwch y tîm ar ddechrau pob diwrnod a chyflwynwch eich hun.
Dangoswch gwrteisi a pharch at eich cydweithwyr, eich cleifion ac at ymwelwyr.
Dysgu a phrofiad
Chi sy’n gyfrifol am eich proses ddysgu eich hun, o ran theori a sgiliau ymarferol. Os nad ydych wedi cyflawni sgil neu driniaeth ymarferol o'r blaen, mae'n well arsylwi yn gyntaf a gofyn am gymorth.
Mae ein Canllawiau ar weithdrefnau a sgiliau ymarferol yn amlinellu'r hyn y dylech fod yn gallu ei wneud erbyn i chi raddio.
Manteisiwch ar bob cyfle i ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgarwch clinigol gan mai dyma fydd yn eich paratoi orau ar gyfer eich swydd fel meddyg sylfaen yn y dyfodol.
Mae’n allweddol eich bod yn dysgu trwy brofiad mewn lleoliadau clinigol. Os ydych chi’n gweld bod llai o weithgarwch clinigol ar gael, mae’n bwysig chwilio am gyfleoedd dysgu eraill fel hunan-astudio, darlithoedd a gweminarau.