Beth i’w ddisgwyl yn ystod eich lleoliad clinigol

Dysgu a datblygu

Dysgu a datblygu mewn lleoliadau clinigol

Yn ystod eich lleoliad clinigol, fel rhan o’ch dysgu a'ch datblygiad, dylech:

  • gallu dysgu a datblygu nifer o sgiliau ar y lleoliad, gan gynnwys cynnal archwiliadau corfforol, nodi hanes cleifion, a chyfathrebu â chleifion
  • cael sesiynau addysgu wedi'u trefnu sy'n canolbwyntio ar eich dysgu a'ch datblygiad
  • cael digon o oruchwyliaeth yn ystod eich lleoliad clinigol i sicrhau bod cleifion yn ddiogel
  • cael goruchwyliwr clinigol penodol sy'n goruchwylio eich gwaith clinigol drwy gydol eich lleoliad ac yn rhoi adborth parhaus
  • cael goruchwyliwr addysgol penodol a ddylai gwrdd â chi’n rheolaidd i helpu i gynllunio eich hyfforddiant ac adolygu eich cynnydd yn erbyn deilliannau dysgu’r lleoliad clinigol.

Profiad ac integreiddio

I ennill profiad yn ystod eich lleoliad clinigol, dylai’r canlynol fod yn wir:

  • dylech gael eich trin yn deg ac yn barchus, ni waeth beth fo’ch cefndir na’ch nodweddion gwarchodedig
  • ni ddylech ddioddef bwlio nac aflonyddu, ond os bydd hyn yn digwydd, dylid ei gymryd o ddifrif
  • cael eich integreiddio o fewn y tîm clinigol a dylent gydnabod bod gennych rôl bwysig wrth gefnogi gofal i gleifion
  • cymryd rhan ym mhob gweithgaredd clinigol ac arsylwi. Gall hyn amrywio o gymryd rhan, cynorthwyo neu arwain, yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymhwysedd blaenorol.

Mae'n bwysig bod ysgolion meddygol a darparwyr lleoliadau yn cydweithio i greu amgylchedd dysgu cynhwysol. Dylai pob myfyriwr gael yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau clinigol. Addasiadau rhesymol (Saesneg yn unig) dylai fod ar gael os oes angen.

Teimlo’n ddiogel a’ch bod yn cael cefnogaeth dda

Gall lleoliadau clinigol fod yn heriol ac yn gyffrous, gyda llawer o brofiadau newydd, ond dylech deimlo’n ddiogel a chael cefnogaeth dda bob amser.

Mae eich diogelwch yn hollbwysig yn y lleoliad. Dylech gael yr un amddiffyniad â meddygon cymwys. Er enghraifft, amser gorffwys ar ôl shifftiau y tu allan i oriau arferol, a mynediad at gyfarpar diogelu personol (PPE) priodol.

Dylai ysgolion meddygol a darparwyr lleoliadau gefnogi eich lles. Gall hyn gynnwys:

  • cynnig cymorth seicolegol yn dilyn senarios heriol
  • darparu cyfleusterau ac amser i chi gadw at eich ffydd
  • cynnig addasiadau rhesymol i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofal.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig o fewn y lleoliad

Adborth a gwerthuso

Fe wnaeth adborth fy ngalluogi i dyfu a datblygu fel myfyriwr meddygol. Roedd yn fy ngalluogi i werthfawrogi fy nghryfderau, ond hefyd i weithio ar y meysydd hynny lle nad wyf yn gwneud cystal.
Aqua Asif
Myfyriwr meddygol yn ei blwyddyn olaf

Dylech gael adborth ffurfiol ac anffurfiol ar eich perfformiad yn ystod eich lleoliadau clinigol. Gall hyn ddod o amryw o ffynonellau gan gynnwys eich cleifion, goruchwyliwr clinigol, goruchwyliwr addysgol, aelodau clinigol ac anghlinigol o'r tîm amlddisgyblaethol, a gan gyd-fyfyrwyr.

Dylai adborth a gwerthuso fod yn broses weithredol a pharhaus. Bydd eich ysgol feddygol yn gofyn i chi roi adborth am eich profiad er mwyn iddynt allu addasu a darparu'r lleoliadau clinigol gorau posibl ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol.

Dylai myfyrwyr a phob aelod o’r tîm amlddisgyblaethol fynd ati’n rhagweithiol i geisio adborth ac i roi adborth.