Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol

Fel myfyriwr meddygol, rydych yn astudio i ymuno â phroffesiwn y gellir ymddiried ynddo a fydd yn dod â chi i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd. Rhaid i chi ddangos ymddygiad o safon uchel bob amser, sy’n cyfiawnhau’r ymddiriedaeth a roddwyd ynoch chi fel darpar aelod o’r proffesiwn.

Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu'r safonau a ddisgwylir gennych chi - yn yr ysgol feddygol a’r tu allan iddi - ac yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyriwr.

Bydd deall sut y bydd hyn yn berthnasol nawr ac yn eich gyrfa yn eich helpu i fod yn fyfyriwr da ac, yn y dyfodol, yn feddyg da.

Sylwch: Dim ond i fyfyrwyr meddygol y mae’r arweiniad hwn yn berthnasol. Unwaith y bydd meddyg wedi'i gofrestru, rydym yn monitro ei addasrwydd i ymarfer.

Download the guidance