Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol

Parth 3: Cydweithwyr, diwylliant a diogelwch

Mae diwylliant yn cael ei bennu gan werthoedd ac ymddygiad cyffredin grŵp o bobl. Mae gan bawb yr hawl i weithio a hyfforddi mewn amgylchedd sy’n deg, yn rhydd o wahaniaethu, a lle maen nhw’n cael eu parchu a’u gwerthfawrogi fel unigolion.

Mae meddygon da yn cyfathrebu’n glir ac yn gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr er budd cleifion. Maen nhw’n datblygu eu hunanymwybyddiaeth, yn rheoli eu heffaith ar bobl eraill, ac yn gwneud yr hyn y maen nhw’n gallu i helpu i greu diwylliannau cwrtais a thosturiol lle mae’r holl staff yn gallu gofyn cwestiynau, siarad am gamgymeriadau a chodi pryderon yn ddiogel.

Trin cydweithwyr gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch

  1. Rhaid i feddygon drin cydweithwyr â charedigrwydd, cwrteisi a pharch, a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith tîm a rhyngbersonol effeithiol drwy wneud y canlynol:
    • gwrando ar gydweithwyr
    • cyfathrebu’n glir, yn gwrtais ac yn ystyriol
    • cydnabod a dangos parch at sgiliau a chyfraniadau cydweithwyr
    • gweithio ar y cyd â chydweithwyr a bod yn barod i arwain neu ddilyn yn unol â’r amgylchiadau.

    Rhaid i feddygon fod yn dosturiol tuag at gydweithwyr sy’n cael problemau gyda’u perfformiad neu eu hiechyd, ond rhaid iddyn nhw roi diogelwch cleifion yn gyntaf bob amser.

  2. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
    • trin eich cydweithwyr â charedigrwydd, trugaredd, cwrteisi a pharch. Mae hyn yn cynnwys eich cydfyfyrwyr, athrawon clinigol ac anghlinigol, y rhai sy'n gyfrifol am weinyddu eich cwrs, myfyrwyr gofal iechyd eraill, y clinigwyr a staff eraill rydych chi’n gweithio gyda nhw ar leoliadau clinigol. Byddwch chi hefyd yn dysgu gyda myfyrwyr o broffesiynau iechyd eraill, sy'n bwysig i'ch helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r rolau y mae gwahanol broffesiynau'n eu chwarae mewn tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol.
    • cydweithio â'ch athrawon, hyfforddwyr, staff gweinyddol neu gefnogol a chyd-fyfyrwyr.
  3. Pan fyddwch chi ar leoliadau clinigol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o waith unrhyw dîm gofal iechyd rydych chi’n rhan ohono a chyfrannu’n effeithiol ato bob amser, gan gynnwys yn eich hyfforddiant anghlinigol.

Cyfrannu at amgylchedd gwaith a hyfforddi cadarnhaol

  1. Rhaid i feddygon helpu i greu diwylliant sy’n barchus, yn deg, yn gefnogol ac yn dosturiol drwy fodelu ymddygiad sy’n cyd-fynd â’r gwerthoedd hyn.
  2. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
    • dangos parch at brofiadau, diwylliannau a chredoau pobl eraill, a sensitifrwydd tuag atynt
    • bod yn ymwybodol o sut y gall eich ymddygiad chi, ac ymddygiad pobl eraill, ddylanwadu ar bobl eraill yn y tîm a’r tu allan iddo.
  3. Dylech chi fod yn ymwybodol o’r risg o ragfarn, ac ystyried sut mae eich profiadau, eich diwylliant a’ch credoau bywyd yn dylanwadu ar sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl eraill, a sut y gallai effeithio ar eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Sut alla i ddelio â rhagfarn?

Mae rhagfarnau yn gredoau, agweddau neu stereoteipiau sy’n gallu effeithio ar eich dealltwriaeth, eich gweithredoedd neu eich penderfyniadau. Yn aml, mae’r rhagfarnau hyn yn effeithio ar y penderfyniadau uniongyrchol rydym ni’n eu gwneud am bobl a sefyllfaoedd.

Mae ymarfer myfyriol yn golygu ceisio nodi eich rhagfarnau personol a sut maen nhw’n dylanwadu ar eich ffordd o feddwl a’r ffordd rydych chi’n ymateb i bobl neu sefyllfaoedd. Mae datblygu’r sgìl hon yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau da fel gweithiwr proffesiynol.

Gweler Yr ymarferydd myfyriol - canllaw i fyfyrwyr meddygol (Saesneg yn unig).

  1. Rhaid i chi beidio â difrïo, gwahaniaethu yn erbyn, bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un ar sail ei nodweddion personol, neu am unrhyw reswm arall. Ystyr ‘nodweddion personol’ yw edrychiad, ffordd o fyw, diwylliant, statws cymdeithasol neu economaidd rhywun, neu unrhyw un o’r nodweddion sy’n cael eu diogelu gan ddeddfwriaeth, sef:
    • oedran
    • anabledd
    • ailbennu rhywedd
    • priodas neu bartneriaeth sifil
    • beichiogrwydd a mamolaeth
    • hil
    • crefydd neu gred
    • rhyw
    • cyfeiriadedd rhywiol.
  2. Rhaid i feddygon beidio â gweithredu mewn ffordd rywiol tuag at gydweithwyr gyda’r effaith neu’r diben o achosi tramgwydd, embaras, cywilydd neu drallod. Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol mewn perthynas â sut rydych chi’n rhyngweithio â’ch cydfyfyrwyr, staff yr ysgol feddygol a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ar leoliadau clinigol. Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod hyn yr un mor berthnasol mewn lleoliadau cymdeithasol yn ogystal ag mewn amgylcheddau dysgu.
  3. Os ydych chi’n gweld enghraifft o’r ymddygiad sy’n cael ei ddisgrifio uchod, dylech chi weithredu – gweler Mynegi pryderon – Beth os yw fy mhryder yn ymwneud â’m ffrindiau neu fy nghyfoedion?

Dangos ymddygiad arwain

  1. Rhaid i bob meddyg sicrhau bod pob cydweithiwr y mae’n ei oruchwylio yn cael goruchwyliaeth briodol. Rhaid iddyn nhw fod yn gywir, yn deg ac yn wrthrychol wrth ysgrifennu geirdaon, ac wrth arfarnu neu asesu perfformiad cydweithwyr, gan gynnwys meddygon locwm a myfyrwyr. Dylen nhw fod yn barod i gynnig cymorth proffesiynol i gydweithwyr, gan gynnwys myfyrwyr, er enghraifft drwy fentora, hyfforddi neu addysgu. Rhaid iddyn nhw gwblhau’r gweithgareddau hyn yn deg.
  2. Fel myfyriwr meddygol, efallai y bydd disgwyl i chi fentora myfyrwyr meddygol a dysgwyr eraill yn y tîm amlbroffesiynol neu efallai y bydd gofyn i chi roi adborth amdanyn nhw. Os bydd gofyn i chi wneud hyn, rhaid i chi wneud hynny mewn ffordd onest, adeiladol, agored a theg.
  3. Bydd gofyn i chi roi adborth ar ansawdd eich lleoliadau a’r addysgu. Rhaid i chi roi’r adborth hwn pan fydd gofyn amdano, gan y bydd yn helpu eich ysgol feddygol i wella ansawdd cyffredinol yr addysg y maen nhw’n ei darparu. Rhaid i chi fod yn deg, yn adeiladol ac yn broffesiynol yn eich adborth a gwneud sylwadau ar sail eich profiad eich hun. Dylech chi geisio tynnu sylw at feysydd o arfer da (Saesneg yn unig) yn ogystal â nodi meysydd lle gellid gwneud gwelliannau.

Cyfrannu at barhad gofal

  1. Mae parhad gofal yn bwysig i bob claf, ond yn enwedig i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dilyn eu llwybr gofal iechyd eu hunain neu eirioli dros eu hunain. Mae parhad yn arbennig o bwysig pan fydd gofal yn cael ei rannu rhwng timau, rhwng gwahanol aelodau o’r un tîm, neu pan fydd cleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng darparwyr gofal.
  2. I gyfrannu at barhad gofal, rhaid i feddygon cofrestredig wneud y canlynol:
    • rhannu’r holl wybodaeth berthnasol am gleifion gyda phobl eraill sy’n ymwneud â’u gofal, o fewn ac ar draws timau yn ôl y gofyn
    • rhannu gwybodaeth â chleifion am ddatblygiad eu gofal, pwy sy'n gyfrifol am ba agwedd ar eu gofal, ac enw'r clinigydd arweiniol neu'r tîm sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am eu gofal
    • bod yn hyderus bod yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofal parhaus wedi cael ei rhannu cyn iddyn nhw fynd oddi ar ddyletswydd, dirprwyo gofal, neu gyfeirio'r claf at ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol arall
    • sicrhau, pan fo hynny’n ymarferol, bod tîm neu glinigydd penodol wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb pan fydd eu rôl yng ngofal claf wedi dod i ben.
  3. Wrth i chi symud ymlaen drwy eich cwrs meddygol, mae'n debygol y bydd disgwyl i chi ofalu am gleifion, dan oruchwyliaeth. Pan rydych chi’n trosglwyddo gofal claf, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn trosglwyddo gofal i berson priodol a’ch bod yn rhannu gwybodaeth berthnasol â nhw. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y broses hon, dylech chi ofyn i uwch gydweithiwr am gymorth.

Dirprwyo mewn ffordd ddiogel a phriodol

  1. Os bydd cydweithiwr yn dirprwyo tasg i feddyg ond nad ydyn nhw’n teimlo’n hyderus eu bod yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau neu’r hyfforddiant i’w chyflawni yn ddiogel, rhaid iddyn nhw flaenoriaethu diogelwch y claf a cheisio cymorth, hyd yn oed os byddan nhw eisoes wedi cytuno i gyflawni’r dasg yn annibynnol. Mae canllawiau manylach ar gael yn Dirprwyo ac atgyfeirio.
  2. Mewn rhai amgylchiadau ni ddylech chi fod yn cyflawni tasg:
    • os yw’n anghyfarwydd i chi
    • os nad ydych yn credu eich bod chi’n gymwys i’w chyflawni’n ddiogel
    • os ydych chi’n teimlo nad oes gennych chi’r oruchwyliaeth na’r gefnogaeth briodol i gyflawni’r dasg
    • os nad yw wedi cael ei chymeradwyo gan oruchwyliwr.
  3. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi beidio â chyflawni’r dasg a dylech chi roi gwybod i’ch goruchwyliwr neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, a rhoi gwybod i’ch ysgol feddygol cyn gynted â phosibl.

Cofnodi eich gwaith yn glir ac yn gywir

  1. Rhaid i feddygol wneud yn siŵr bod cofnodion ffurfiol o’u gwaith (gan gynnwys cofnodion cleifion) yn glir, yn fanwl, yn gyfoes ac yn ddarllenadwy.
  2. Dylai meddygon fabwysiadu dull gweithredu cymesur tuag at lefel y manylder, ond fel arfer dylai cofnodion cleifion gynnwys:
    • canfyddiadau clinigol perthnasol
    • cyffuriau, ymchwiliadau neu driniaeth a gynigiwyd, a ddarparwyd neu a ragnodwyd (h.y. pa feddyginiaeth y mae claf yn ei chymryd)
    • yr wybodaeth a rannwyd gyda chleifion
    • pryderon neu ddewisiadau a fynegwyd gan y claf, a allai fod yn berthnasol i’w ofal parhaus, ac yr aethpwyd i’r afael â nhw
    • gwybodaeth am unrhyw addasiadau rhesymol a dewisiadau o ran cymorth cyfathrebu
    • penderfyniadau a wnaethpwyd, camau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw (gan gynnwys penderfyniadau i beidio â gwneud unrhyw beth) a phryd/a ddylai penderfyniadau gael eu hadolygu
    • pwy sy’n creu’r cofnod a phryd.
  3. Mae hyn yn helpu i sicrhau gwaith tîm effeithiol, trosglwyddo diogel a pharhad gofal. Felly, rhaid i’r wybodaeth wneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n darllen y nodiadau hynny yn gallu eu deall a dibynnu ar y ffaith bod yr wybodaeth yn gywir. Mae hyn yn cynnwys cleifion a’u perthnasau neu ofalwyr.
  4. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud yn siŵr bod y nodiadau rydych chi’n eu hysgrifennu yn glir, yn gywir ac yn ddarllenadwy, hyd yn oed pan gân nhw eu gwneud fel rhan o'r broses ddysgu, gan y bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi fel meddyg.
  5. Dylech chi wneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau rydych chi’n eu cyflwyno i'ch ysgol feddygol yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd broffesiynol. Mae hyn yn cynnwys canfyddiadau gweithgareddau, fel archwiliad neu ymchwil rydych chi’n ei chynnal fel rhan o’ch astudiaethau. Gweler Cynnal cyfrinachedd cleifion am wybodaeth am rannu gwybodaeth adnabyddadwy.
  6. Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion, cydweithwyr neu bobl eraill mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag unrhyw ofynion cyfraith diogelu data, a rhaid i chi ddilyn ein canllawiau Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion.

Cofnodi eich gwaith - pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Pethau i’w gwneud

  • gwneud yn glir eich bod chi’n fyfyriwr meddygol pan fyddwch chi’n ychwanegu unrhyw beth at nodiadau claf - dylech chi roi eich enw a'ch blwyddyn astudio fel y gall gweithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig wirio'r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu
  • gwneud yn siŵr bod y nodiadau rydych chi'n eu gwneud wedi'u dyddio, yn glir, yn gywir ac yn ddarllenadwy - hyd yn oed os nad ydyn nhw’n mynd ar gofnod swyddogol claf
  • gwneud yn siŵr bod eich nodiadau’n cael eu cofnodi cyn gynted â phosibl ar ôl i chi siarad â chlaf
  • cael gwared ar eich nodiadau'n ofalus - yn enwedig pan maen nhw’n ymwneud â chleifion - gan ddefnyddio cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio i gael gwared ar ddeunyddiau cyfrinachol

Pethau i’w hosgoi

  • ysgrifennu unrhyw beth na fyddech chi eisiau iddo gael ei gyhoeddi mewn nodiadau, llyfrau log neu adroddiadau
  • cyflwyno gwaith sy'n anodd ei ddarllen neu wedi'i gyflwyno'n wael`
  • storio deunydd cyfrinachol mewn mannau sydd ddim yn ddiogel - mae hyn yn cynnwys ffeiliau digidol a phapur.

Cadw cleifion yn ddiogel

  1. Er mwyn helpu i gadw cleifion yn ddiogel, rhaid i feddygon wneud y canlynol:
    • cyfrannu at ymholiadau cyfrinachol
    • cyfrannu at gydnabod digwyddiadau niweidiol
    • rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol sy'n ymwneud â dyfeisiau meddygol (gan gynnwys meddalwedd, profion diagnostig ac offer digidol) sy'n peryglu diogelwch claf neu berson arall, neu sydd â'r potensial i wneud hynny
    • cyfrannu at adolygiadau a/neu ymchwiliadau i ddigwyddiadau
    • rhoi gwybod am adweithiau niweidiol posibl i gyffuriau
    • ymateb i geisiadau gan sefydliadau sy’n monitro iechyd y cyhoedd.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol.

Ymateb i risgiau diogelwch

  1. Rhaid i feddygon weithredu yn ddi-oed os ydyn nhw’n credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol, neu y gallai fod mewn perygl difrifol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu os nad yw claf yn cael gofal sylfaenol i ddiwallu ei anghenion, mynegi pryderon os yw cleifion mewn perygl, neu os oes gan y meddyg bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer.
  2. Cyfrifoldeb y tîm cyfan yw diogelwch cleifion, a gallai gynnwys aelodau clinigol ac anghlinigol. Dyna pam mae’n rhaid i feddygon cofrestredig gymryd camau i godi pryderon a chefnogi pobl eraill i godi pryderon am ddiogelwch cleifion.
  3. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd - gan gynnwys myfyrwyr meddygol ar leoliadau clinigol. Nid yw diogelwch cleifion yn ymwneud â’r driniaeth glinigol y mae cleifion yn ei chael yn unig – mae hefyd yn cynnwys mynegi pryderon pan fydd urddas neu gysur claf yn cael ei beryglu.
  4. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
    • mynegi unrhyw bryderon sydd gennych chi am ddiogelwch, urddas neu gysur cleifion yn brydlon
    • dilyn polisi eich ysgol feddygol ar sut i fynegi pryderon lle bynnag y bo modd.

Mae’r GMC wedi paratoi canllawiau Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau ynghyd ag adnodd gwneud penderfyniadau a fydd yn helpu meddygon cofrestredig i wybod beth i’w wneud os oes ganddyn nhw bryder am ddiogelwch cleifion.

Sut mae mynegi pryder ynglŷn â diogelwch cleifion

  1. Rydym ni’n cydnabod bod mynegi pryderon am ofal cleifion yn gallu bod yn anodd. Fel myfyriwr meddygol, efallai na fyddwch chi’n teimlo'n gyfforddus yn mynegi problemau gyda goruchwylwyr a allai fod yn gyfrifol am wneud asesiadau o'ch perfformiad ar y lleoliad. Efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo'n anghyfforddus yn mynegi pryderon gydag uwch glinigwyr. Dyma pam y dylech chi, lle bynnag y bo modd, ddilyn polisi ffurfiol eich ysgol feddygol ar fynegi pryderon, a fydd yn eich helpu i ddeall sut i ddelio â materion anodd fel y rhain.
  2. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai na fyddwch chi’n teimlo'n gyfforddus yn dilyn polisi'r ysgol feddygol, er enghraifft oherwydd mai'r sawl sy'n achosi'r pryder yw'r sawl y mae'n rhaid i chi fynegi’r mater wrtho. Ond rhaid i chi ddal i ddod o hyd i ffordd arall o fynegi eich pryder. Er enghraifft, gallwch chi siarad ag aelod o staff y mae gennych chi berthynas barhaus ag ef, fel eich tiwtor personol neu arweinydd proffesiynoldeb, a all eich cefnogi. Os bydd y pryder yn codi tra byddwch chi ar leoliad, efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi gyfeirio at bolisi mynegi pryderon darparwr y lleoliad.
  3. Gall fod yn anodd i sefydliadau ddelio â phryderon dienw, oherwydd mae’n anoddach ymchwilio i’r sefyllfa os nad ydyn nhw’n gwybod pwy wnaeth y gŵyn. Felly, dylech chi osgoi mynegi pryderon yn ddienw lle bynnag y bo modd. Er y bydd eich ysgol feddygol yn gwybod pwy fynegodd y pryder, ni fydd angen iddyn nhw eich enwi chi fel ffynhonnell y pryder pan fyddan nhw’n ymchwilio.

Beth os yw fy mhryder yn ymwneud â’m ffrindiau neu fy nghyfoedion?

Gall fod yn anodd mynegi pryderon am gyd-fyfyrwyr, sy’n gallu bod yn bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ar brosiectau neu leoliadau neu’n ffrindiau i chi. Ond fel myfyriwr sy'n dewis ymuno â phroffesiwn rheoledig, mae gennych chi ddyletswydd i roi’r cleifion yn gyntaf ac mae hyn yn cynnwys cleifion rydych chi'n eu gweld ar leoliadau a'r rhai fydd yn cael eu trin gan eich cyd-fyfyrwyr yn y dyfodol.

Efallai eich bod chi’n poeni am ymddygiad cyd-fyfyriwr, er enghraifft:

Gall fod hyd yn oed yn anoddach mynegi pryderon am iechyd cyfoedion, ond rhaid i chi dynnu sylw eich ysgol feddygol at hyn os ydych chi’n pryderu am eu diogelwch neu eu llesiant. Ni ddylech chi fyth geisio trin cyflwr iechyd cyd-fyfyriwr. Pan fyddwch chi’n mynegi eich pryderon, bydd hyn yn galluogi eich ysgol feddygol i roi cymorth a chefnogaeth iddyn nhw.

  1. Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi fynegi pryder yn ffurfiol, dylech chi ofyn i'ch ysgol feddygol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol profiadol am gyngor. Mae canllawiau’r GMC i feddygon ar fynegi pryderon a chymryd camau yn cydnabod materion fel hyn, gan gynnwys, er enghraifft, os yw’r person sy’n peri pryder yn rhan o’r broblem neu os nad oes gan y meddyg hyder y bydd y pryder yn cael sylw digonol ar sail profiadau blaenorol. Felly, efallai y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol i chi.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf i bryder am aelod o staff yn fy ysgol feddygol neu leoliad clinigol?

  1. Mae’r un mor bwysig mynegi pryderon sydd gennych chi am y staff rydych chi’n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, meddyg, nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall sydd neu a allai fod yn gwneud y canlynol:
    • gweithredu y tu hwnt i’w cymhwysedd
    • ddim yn gweld pryderon am eu hiechyd neu ddim yn dilyn cyngor am y pryderon hyn.
  2. Efallai y bydd gennych chi bryderon hefyd am y darlithwyr a'r staff yn eich ysgol feddygol. Ac er nad ydyn nhw efallai’n peri risg uniongyrchol i gleifion, bydd eich ysgol feddygol yn dal i fod eisiau gwybod os ydych chi’n pryderu am iechyd neu lesiant rhywun. Gallan nhw wedyn gymryd camau i alluogi’r unigolyn i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arno. Rhaid i chi bob amser godi pryderon mewn ffordd gyfrinachol, anfeirniadol.

Gweler yr adran Camau i fynegi pryder yng nghanllawiau’r GMC Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau.

Mynegi pryderon - dyletswydd gyfreithiol neu foesol?

Nid yw myfyrwyr meddygol wedi’u cofrestru gyda’r GMC ac nid ydyn nhw’n cael eu cyflogi gan eu darparwyr lleoliadau. Mae hyn yn golygu na all y GMC na darparwyr lleoliadau fynnu’n gyfreithiol bod myfyrwyr yn mynegi pryderon. Fodd bynnag, mae gan fyfyrwyr berthynas ffurfiol â'u hysgol feddygol, a fydd yn disgwyl iddyn nhw fynegi pryderon am ddiogelwch, urddas a chysur cleifion.

Mae gan fyfyrwyr meddygol gyfrifoldeb moesol hefyd i fynegi pryderon am ddiogelwch, urddas a chysur cleifion. Nid yw proffesiynoldeb yn ymwneud â gwneud y lleiaf posibl - mae'n ymwneud â gwneud yr hyn sydd angen ei wneud i amddiffyn cleifion.

Rheoli risgiau sy’n cael eu hachosi gan eich iechyd

  1. Dylai meddygon cofrestredig geisio gofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, gan gydnabod efallai nad ydyn nhw’n addas i weithio. Dylen nhw geisio cyngor proffesiynol annibynnol am eu haddasrwydd i weithio, yn hytrach na dibynnu ar eu hasesiad eu hunain. Rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth gan gydweithiwr addas a dilyn eu cyngor am unrhyw newidiadau i’w ymarfer y mae’r cydweithiwr yn eu hystyried yn angenrheidiol, a rhaid iddyn nhw beidio â dibynnu ar eu hasesiad eu hunain o’r risg i gleifion.
  2. Byddwch chi’n cael cyswllt sylweddol â chleifion tra byddwch chi ar leoliadau clinigol. Gall unrhyw gyflyrau iechyd sydd gennych chi effeithio arnyn nhw, yn ogystal â'ch cyd-fyfyrwyr a'ch athrawon.
  3. Dylech chi feddwl am yr effaith y gallai eich iechyd ei chael ar eich gallu i astudio neu sefyll asesiad. Yn union fel mae angen i feddygon mewn practis allu penderfynu a ydyn nhw’n ddigon iach i ofalu am eu cleifion, mae disgwyl i chi fel myfyriwr meddygol benderfynu a ydych chi’n ddigon da i ymgysylltu'n llawn â'r cwrs gan gynnwys asesiadau, gan fynegi hyn i’ch ysgol feddygol a cheisio cyngor meddygol annibynnol os yw hynny'n briodol. Bydd eich ysgol feddygol yn eich cefnogi i ddatblygu’r ymwybyddiaeth hon.
  4. Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod gennych chi gyflwr y gellid ei drosglwyddo i gydweithwyr neu gleifion, rhaid i chi ddilyn canllawiau eich ysgol feddygol am hyn.
  5. Fel myfyriwr meddygol, yn ystod eich astudiaethau ac ar leoliad, rydych yn debygol o brofi sefyllfaoedd a fydd yn cael effaith emosiynol arnoch chi. Ar adegau, efallai y byddwch chi’n profi straen a phryder. Mae hyn yn gwbl normal a bydd eich ysgol feddygol yn eich cefnogi gyda ffyrdd diogel o rannu a myfyrio ar brofiadau anodd. Ond os ydych chi'n poeni am eich lefelau gorbryder, dylech chi ofyn am help gan eich meddyg teulu a ffynonellau priodol eraill (er enghraifft, llinellau cymorth) i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn gynnar. Gall hyn gynnwys gwneud addasiadau i’ch hyfforddiant neu ymarfer, os oes angen.
  6. Dylech chi fod yn ymwybodol y gall rhai cyflyrau sydd fel arfer yn ddi-nod - fel annwyd cyffredin - gael effaith anghymesur ar rai cleifion, er enghraifft y rhai sydd â systemau imiwnedd dan fygythiad. Mae angen i chi gadw hyn mewn cof pan fyddwch chi’n penderfynu a ydych chi am fynd i leoliad os ydych chi’n sâl.
  7. Rhaid i chi gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau iechyd galwedigaethol eich ysgol feddygol neu sefydliad addysg uwch (er enghraifft, imiwneiddio rhag clefydau heintus cyffredin a difrifol).
  8. Rhaid i chi ymgysylltu â’r broses atgyfeirio iechyd galwedigaethol os yw eich iechyd wedi dirywio, neu os oes pryderon y gallai eich iechyd gael effaith ar eich gallu i astudio.
  9. Nid oes angen i chi gyflawni gweithdrefnau a allai arwain at gysylltiad i gyflawni canlyniadau addysg feddygol israddedig. Gall myfyrwyr sydd â feirysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed astudio meddygaeth, ond efallai na fyddan nhw’n gallu cynnal triniaethau a allai arwain at gysylltiad ac efallai y bydd cyfyngiadau ar eu lleoliadau clinigol. Rhaid iddyn nhw hefyd gwblhau’r sgrinio iechyd sy’n cael ei argymell cyn cynnal unrhyw driniaethau a allai arwain at gysylltiad.

Cael cyngor meddygol annibynnol

  1. Rhaid i feddygon geisio cyngor meddygol annibynnol ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd eu hunain. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi hefyd geisio cyngor annibynnol a gwrthrychol gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys arall a pheidio â dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu fel myfyriwr meddygol neu farn myfyrwyr eraill, aelodau o'r teulu neu ffrindiau hyd yn oed os ydyn nhw’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n bwysig eich bod chi’n gallu cael gafael ar gyngor annibynnol a dylech chi gofrestru gyda meddyg teulu sy'n lleol i'ch ysgol feddygol.

Eich iechyd - pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Pethau i’w gwneud

  • dweud wrth eich ysgol feddygol os oes gennych chi gyflwr iechyd neu os ydych chi’n profi newidiadau sylweddol i gyflwr iechyd sefydlog
  • cael cefnogaeth briodol - mae gan bob ysgol feddygol systemau cymorth ar waith i'ch helpu chi, felly manteisiwch ar y rhain
  • cofrestru gyda meddyg teulu sy'n lleol i'ch ysgol feddygol
  • ceisio cyngor annibynnol os oes gennych chi gyflwr iechyd neu os ydych chi’n meddwl y gallai eich iechyd neu eich amgylchiadau personol fod yn effeithio ar eich astudiaethau neu eich hyfforddiant
  • gwneud yn siŵr eich bod chi’n dilyn unrhyw gynllun triniaeth sy’n cael ei roi i chi, a pheidio â gwneud newidiadau i’ch triniaeth heb ymgynghori â’r meddyg sy’n eich trin.

Pethau i’w hosgoi

  • ei guddio - bydd eich ysgol feddygol eisiau eich helpu
  • gwneud diagnosis neu drin eich hun
  • ceisio triniaeth gan ffrindiau, teulu neu’r rhai sy’n agos atoch chi.

Rhoi gwybod i’ch ysgol feddygol

  1. Rhaid i feddygon ddatgan cyflwr iechyd i’r GMC os yw’n peri risg i gleifion, neu os oes pryderon am ofal clinigol, barn neu ymddygiad y meddyg sy’n peri risg i gleifion neu hyder y cyhoedd yn y proffesiwn a lle gallai cyflwr iechyd y meddyg fod yn ffactor cyfrannol.
  2. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi ddweud wrth eich ysgol feddygol am unrhyw gyflyrau iechyd difrifol, neu unrhyw agwedd ar eich iechyd neu amgylchiadau personol a allai effeithio ar eich hyfforddiant (yn enwedig eich lleoliadau) neu eich perthynas â chydweithwyr. Mae hyn er mwyn i’ch ysgol feddygol allu eich cefnogi’n ddigonol, a dim ond os ydyn nhw’n gwybod bod gennych chi gyflwr iechyd y gallan nhw wneud hyn. Mae rhoi gwybod i’ch ysgol feddygol yn dangos bod gennych chi ddealltwriaeth o'r effaith y gall eich cyflwr ei chael ar gleifion, eich cyd-fyfyrwyr a chi eich hun. Mae hwn yn ffactor hanfodol y mae ysgolion meddygol yn ei ystyried mewn perthynas ag iechyd ac addasrwydd i ymarfer a'r gallu i barhau a chwblhau eich astudiaethau.
  3. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y canlynol: