Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol

Parth 4: Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb

Rhaid i gleifion allu ymddiried mewn meddygon gyda’u bywydau a’u hiechyd, a rhaid i feddygon allu ymddiried yn ei gilydd.

Mae meddygon da yn cynnal safonau ymddygiad uchel yn bersonol a phroffesiynol Maen nhw’n onest ac yn ddibynadwy, yn gweithredu gydag uniondeb, yn cynnal terfynau proffesiynol ac nid ydyn nhw’n gadael i’w buddiannau personol effeithio ar eu barn neu eu gweithredoedd proffesiynol.

Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb

Gonestrwydd

  1. Mae gan feddygon safle o ymddiriedaeth mewn cymdeithas a rhaid iddyn nhw sicrhau bod eu hymddygiad - yn broffesiynol ac yn bersonol - yn cyfiawnhau ymddiriedaeth eu cleifion ynddyn nhw ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn eu proffesiwn.
  2. Fel myfyriwr sy'n bwriadu ymuno â phroffesiwn mae pobl yn ymddiried ynddo, mae'n rhaid i chi fodloni safon uwch o ymddygiad na myfyrwyr eraill, sydd ar gyrsiau sydd ddim yn arwain yn uniongyrchol at ymuno â phroffesiwn.

Sut alla i ddangos gonestrwydd?

Rhaid i chi ymddwyn yn onest o'r adeg y byddwch chi’n gwneud cais i ysgol feddygol, yn ystod eich astudiaethau a phan fyddwch chi’n dechrau gweithio fel meddyg.

Dyma rai pethau ymarferol y mae'n rhaid i chi eu gwneud i ddangos eich bod chi’n onest yn eich gwaith fel myfyriwr meddygol.

  • Peidiwch â chyflwyno gwaith pobl eraill fel eich gwaith eich hun, gan gynnwys gwaith wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Llên-ladrad yw hyn.
  • Peidiwch â llên-ladrata drwy gyflwyno eich gwaith eich hun a aseswyd yn flaenorol.
  • Byddwch yn onest am eich profiad a’ch cymwysterau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi beidio â rhoi unrhyw wybodaeth gamarweiniol neu ffug i’ch goruchwylwyr neu’ch athrawon am eich cymwysterau neu’ch profiad, na chynnwys gwybodaeth o’r fath mewn dogfennau fel CV a cheisiadau am swyddi.
  • Pan fyddwch chi’n gwneud gwaith ymchwil, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod am y canfyddiadau’n gywir ac yn onest.
  • Byddwch yn onest ac yn ddibynadwy pan fyddwch chi’n gyfathrebu â chleifion a chydweithwyr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi egluro hyd a lled eich gwybodaeth a gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn gywir.
  • Byddwch yn agored ac yn onest am eich iechyd a defnyddiwch y prosesau a sefydlwyd gan eich ysgol feddygol i'ch cefnogi.
  • Byddwch yn onest yn y gwaith rydych chi’n ei gyflwyno fel rhan o’ch cwrs. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi beidio â honni eich bod chi wedi gwneud rhywbeth, fel triniaeth ymarferol ar leoliad clinigol, os nad ydych chi wedi gwneud hynny.
  • Peidiwch â dweud eich bod chi wedi mynychu sesiynau addysgu neu leoliadau clinigol os nad ydych chi wedi gwneud hynny. A pheidiwch â gofyn i fyfyriwr arall fewngofnodi i chi.
  • Byddwch yn onest ac yn agored wrth ddelio’n ariannol ac yn fasnachol â chyflogwyr, yswirwyr, indemnwyr a sefydliadau ac unigolion eraill.

Cadw at derfynau proffesiynol

  1. Rhaid i feddygon beidio â gweithredu mewn ffordd rywiol tuag at gleifion na defnyddio eu safle proffesiynol i fynd ar drywydd perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol gyda chlaf neu rywun sy’n agos iddyn nhw.
  2. Fel myfyriwr meddygol, bydd eich astudiaethau’n dod â chi i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, sy'n gallu bod yn agored i niwed yn gorfforol ac yn emosiynol. Oherwydd hyn, a'r ffaith y byddwch chi’n ymuno â phroffesiwn y mae pobl yn ymddiried ynddo, rhaid i chi beidio â defnyddio eich swydd i fynd ar drywydd perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae claf neu rywun sy’n agos iddyn nhw’n ceisio sefydlu perthynas â chi.
  3. Rhaid i feddygon beidio â mynegi eu credoau personol (gan gynnwys credoau gwleidyddol, crefyddol a moesol) i gleifion mewn ffyrdd sy'n manteisio ar eu natur fregus neu a allai achosi trallod rhesymol iddyn nhw’n rhesymol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol.

Cyfathrebu fel meddyg

Pob cyfathrebu proffesiynol

  1. Rhaid i feddygon fod yn onest ac yn ddibynadwy, gan gynnal cyfrinachedd cleifion yn eu holl gyfathrebu ysgrifenedig, llafar a digidol gyda chleifion a chydweithwyr. Rhaid iddyn nhw egluro hyd a lled eu gwybodaeth a gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth y maen nhw’n ei darparu yn gywir, nad yw’n ffug nac yn gamarweiniol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol.

Cyfathrebu proffesiynol cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, hyrwyddo a chymeradwyo

  1. Wrth gyfathrebu mewn ffordd gyhoeddus fel meddyg – gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu gwasanaethau, a hyrwyddo neu gymeradwyo unrhyw wasanaethau neu gynnyrch, rhaid iddyn nhw wneud y canlynol:
    • dilyn y canllawiau yn yr adran flaenorol
    • datgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau
    • peidio â manteisio ar natur fregus neu’r diffyg gwybodaeth feddygol sydd ganddyn nhw
    • sicrhau bod yr hyn maen nhw’n ei gyfathrebu yn cyd-fynd â’u dyletswydd i hyrwyddo a diogelu iechyd cleifion a’r cyhoedd.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. Gweler y canllawiau manylach Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth.

Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi ar y cyfryngau cymdeithasol

Pethau i’w gwneud

  • gwirio eich gosodiadau preifatrwydd fel eich bod chi’n gwybod pwy sy’n gallu gweld beth ar y llwyfannau rydych chi’n eu defnyddio. Ond cofiwch na all safleoedd cyfryngau cymdeithasol warantu cyfrinachedd pa bynnag osodiadau preifatrwydd rydych chi’n eu defnyddio
  • cofio y gallai'r apiau rydych chi'n eu defnyddio gysylltu â'ch proffil cyfryngau cymdeithasol ac y gall defnyddwyr yr ap weld gwybodaeth o'r safle hwnnw
  • cynnal terfynau drwy beidio ag ymgysylltu â chleifion neu bobl eraill am ofal claf drwy eich proffiliau neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol personol. Yn hytrach, os yw’n briodol, defnyddiwch lwyfan neu broffil proffesiynol ar wahân i ymateb
  • cofio, unwaith y bydd gwybodaeth wedi'i chyhoeddi ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol, efallai na fyddwch chi’n gallu rheoli sut mae pobl eraill yn ei defnyddio a gall fod yn anodd ei thynnu oddi ar y rhyngrwyd neu'r safle y cafodd ei phostio arno'n wreiddiol
  • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i fynegi eich barn, ond peidiwch ag ymddwyn yn ddifrïol tuag at ddefnyddwyr eraill a pheidiwch â phostio cynnwys gwahaniaethol
  • meddwl yn ofalus am sut y gallai pobl eraill, yn enwedig cleifion nawr ac yn y dyfodol, weld eich cynnwys
  • bod yn ymwybodol o sut mae rheoli ac ymateb i gynnwys difrïol ar-lein. Os ydych chi’n cael eich bwlio gan gydweithiwr ar-lein, cysylltwch â’ch ysgol feddygol i gael cyngor ar y camau nesaf. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r GMC drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.

Pethau i’w hosgoi

Rhoi tystiolaeth a bod yn dyst

  1. Rhaid i feddygon fod yn onest ac yn ddibynadwy os bydd gofyn iddyn nhw roi tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol neu ddisgyblu. Mae disgwyl iddyn nhw hefyd roi gwybod i’r GMC am faterion penodol, er enghraifft os ydynt yn cael rhybuddiad gan yr heddlu.
  2. Fel myfyriwr meddygol, nid ydych chi wedi'ch cofrestru gyda'r GMC, ond mae gennych chi gyfrifoldebau tebyg mewn perthynas â'ch ysgol feddygol. Rhaid i ysgolion meddygol beidio â graddio unrhyw fyfyriwr sydd â chymhwyster meddygol sylfaenol nad ydyn nhw’n ei ystyried addas i ymarfer. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os ydych chi’n bodloni'r holl gymwyseddau ac yn pasio eich arholiadau, dim ond os ydyn nhw’n fodlon eich bod yn addas i ymarfer y gall eich ysgol feddygol eich graddio. Bydd angen i chi hefyd ddatgan unrhyw faterion addasrwydd i ymarfer (Saesneg yn unig) pan fyddwch chi’n gwneud cais i gael eich cofrestru dros dro gyda’r GMC.

Cyfathrebu preifat

  1. Wrth gyfathrebu’n breifat, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau negeseua gwib, dylai meddygon gofio y gallai negeseuon neu gyfathrebu arall mewn grwpiau preifat ddod yn gyhoeddus. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr meddygol, a dylech chi wneud yn siŵr mai dim ond cynnwys y byddech chi’n hapus i gynulleidfa ehangach ei weld y dylech chi ei ychwanegu. Rhaid i chi hefyd osgoi rhannu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion drwy’r gwasanaethau hyn.

Rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau

  1. Rhaid i feddygon:
    • beidio â chaniatáu i unrhyw fuddiannau sydd ganddyn nhw effeithio ar y ffordd y maen nhw’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn atgyfeirio cleifion, neu’n comisiynu gwasanaethau, neu gael eu gweld i effeithio ar y pethau hyn.
    • os bydd gwrthdaro rhwng buddiannau, rhaid iddyn nhw fod yn agored amdano gyda chleifion a chyflogwyr, ei ddatgan yn unol â threfniadau lleol, a bod yn barod i eithrio eu hunain rhag gwneud penderfyniadau
    • rhaid iddyn nhw beidio â gofyn am, neu dderbyn, unrhyw daliadau cymhelliant, rhoddion neu letygarwch gan gleifion, cydweithiwr neu bobl eraill a allai effeithio ar y ffordd y maen nhw’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau i gleifion, neu gynnig cymhellion o’r fath i bobl eraill.
    • dylen nhw, lle bynnag y bo modd, osgoi darparu gofal meddygol iddyn nhw eu hunain neu i unrhyw un y mae ganddyn nhw berthynas bersonol agos â nhw. Rhaid iddyn nhw geisio cyngor meddygol annibynnol ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd eu hunain.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol.

Cydweithredu â gofynion cyfreithiol a rheoliadol

  1. Er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rhaid i feddygon gydweithredu ag ymchwiliadau ffurfiol, ymchwiliadau diogelwch cleifion, a gweithdrefnau cwyno. Rhaid iddyn nhw ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol a bod yn agored ac yn onest. Rhaid iddyn nhw hefyd ddweud wrth y GMC yn ddi-oed os ydyn nhw, yn unrhyw le yn y byd:
    • wedi derbyn rhybuddiad (neu rybudd cyfatebol) gan awdurdod erlyn
    • wedi’u cyhuddo o drosedd yn bersonol neu drwy’r post
    • wedi’u cael yn euog o drosedd.
  2. Mae gennych chi ddyletswydd i gydweithredu â gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer eich ysgol feddygol sy’n ymwneud â chi neu eich cydweithwyr. Mae gennych chi gyfrifoldeb hefyd i roi gwybod i’ch ysgol feddygol ar unwaith (Saesneg yn unig), a'r GMC pan fyddwch chi’n gwneud cais am gofrestriad dros dro:
    • os ydych chi’n derbyn rhybuddiad am drosedd tra byddwch chi yn yr ysgol feddygol
    • os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd neu wedi cael eich dyfarnu’n euog o drosedd tra yn yr ysgol feddygol
    • os oes gennych chi unrhyw bryderon difrifol am yr effaith y gallai eich cyflwr iechyd ei chael ar eich gallu i ymarfer.
  3. Dylech chi ddweud wrth eich ysgol feddygol neu sefydliad addysg uwch os ydych chi’n destun unrhyw achos cyfreithiol a allai godi amheuaeth ynglŷn â’ch addasrwydd i ymarfer fel meddyg. Ddylech chi ddim aros nes bydd yr achos cyfreithiol wedi dod i ben cyn i chi wneud hyn.
  4. Os oedd gennych chi unrhyw rybuddiadau neu euogfarnau cyn i chi ddechrau yn yr ysgol feddygol, ac na wnaethoch chi ddatgan hyn pan gawsoch chi eich derbyn (oni bai eu bod wedi'u diogelu), dylech chi wneud hynny cyn gynted â phosibl. Sylwch fod y diffiniad o rybuddiadau ac euogfarnau gwarchodedig yn wahanol rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae angen i chi gyfeirio at y diffiniad sy'n berthnasol i'r wlad lle mae eich cwrs wedi'i leoli.
  5. Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich ysgol feddygol, a’r GMC pan fyddwch chi’n gwneud cais i gofrestru, os bu penderfyniad erioed gan gorff rheoleiddio yn y DU neu dramor bod amhariad ar eich addasrwydd i ymarfer fel aelod o’r proffesiwn rheoledig hwnnw. Er enghraifft, nyrsio, deintyddiaeth neu’r gyfraith.
  6. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hyn y dylech chi ei ddatgan i’r GMC neu i’ch ysgol feddygol, dylech chi ofyn am gyngor gan eich ysgol feddygol, sefydliad amddiffyn meddygol neu Gymdeithas Feddygol Prydain.