Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol

Gwybodaeth am y canllawiau hyn

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Cyngor Ysgolion Meddygol wedi cyhoeddi’r canllawiau hyn yn ar gyfer myfyrwyr meddygol i amlinellu’r safonau sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw - y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol feddygol.

Mae Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol yn dangos sut mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. Bydd deall sut mae’r canllawiau craidd ar gyfer meddygon yn berthnasol nawr ac yn y dyfodol yn eich helpu i fod yn fyfyriwr da ac, yn y dyfodol, yn feddyg da.

Mae’r canllaw wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cynnwys Arfer meddygol da 2024, ac mae’n cynnwys cyngor ehangach ar asesu a rheoli ansicrwydd.

Beth mae’r canllawiau hyn yn ei gynnwys?

Cynnal safon uchel o ymddygiad proffesiynol

Bydd eich astudiaethau’n dod â chi i gysylltiad â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, sy'n gallu bod yn agored i niwed yn gorfforol ac yn emosiynol. Oherwydd hyn, a’r ffaith y byddwch chi’n ymuno â phroffesiwn mae pobl yn ymddiried ynddo, rydym ni’n disgwyl i chi ddeall bod gwahaniaeth yn y safonau ymddygiad sy’n ddisgwyliedig gan fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n dod â nhw i gysylltiad â chleifion a’r cyhoedd.

Yn benodol, rhaid i’ch ymddygiad yn yr amgylchedd clinigol a’r tu allan i’ch astudiaethau, bob amser gyfiawnhau’r hyder y mae cleifion a’r cyhoedd yn ei roi ynoch chi fel darpar feddyg. Byddwn ni a’ch ysgol feddygol yn eich cefnogi ar eich taith o fod yn fyfyriwr i fod yn feddyg, a fydd yn cynnwys addysgu ac asesiad ar broffesiynoldeb.

Fel myfyriwr meddygaeth graddedig, bydd angen i chi gofrestru gyda’r GMC a chael trwydded i ymarfer cyn y gallwch chi ddechrau gweithio fel meddyg os ydych chi eisiau gweithio yn y DU. Ni fydd y GMC yn cofrestru graddedigion meddygaeth sydd ddim yn addas i ymarfer meddygaeth.

Yn ogystal â’r canllawiau hyn, rydym ni hefyd wedi paratoi canllawiau ar gyfer ysgolion meddygol a myfyrwyr meddygol ar reoli pryderon yn ymwneud â phroffesiynoldeb ac addasrwydd i ymarfer. Maen nhw’n amlinellu'r prosesau y dylai ysgolion meddygol eu dilyn os ydynt yn poeni am broffesiynoldeb neu addasrwydd myfyrwyr i ymarfer yn eu proffesiwn.

Mae enghreifftiau o’r mathau o ymddygiad sy’n peri pryder ac a allai at brosesau ffurfiol yn cael eu defnyddio wedi’u hamlinellu yn adran Proffesiynoldeb - meysydd pryder allweddol y canllawiau hyn.

Gwybodaeth am Arfer meddygol da

Mae Arfer meddygol da yn gosod yr egwyddorion, gwerthoedd, a’r safonau gofal ac ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan bob meddyg sydd wedi cofrestru gyda'r GMC, yn ogystal â chymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia unwaith y bydd rheoleiddio’n cychwyn. Mae’n fframwaith moesegol, sy’n eu helpu i ddarparu gofal diogel o safon dda, er budd cleifion. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia, cleifion a phobl eraill i ddatblygu Arfer meddygol da, felly mae’n gytundeb ar y cyd o’r hyn y dylai safonau proffesiynol fod.

Mae disgwyl i feddygon sydd wedi cofrestru gyda’r GMC fod yn gyfarwydd ag Arfer meddygol da, a defnyddio'r canllawiau wrth wneud penderfyniadau gyda chleifion am eu gofal. Rhaid i feddygon ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i ddefnyddio’r safonau yn Arfer meddygol da wrth ymarfer o ddydd i ddydd. Mae hyn yn golygu penderfynu pa rai o’r safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r amgylchiadau penodol maen nhw’n eu hwynebu, a defnyddio eu gwybodaeth, sgìl a phrofiad i’w dilyn yn y cyd-destun hwnnw. Rhaid i feddygon weithredu’n ddidwyll ac er budd cleifion, a bod yn barod i egluro a chyfiawnhau eu penderfyniadau a’u gweithredoedd.

Defnyddio’r canllawiau hyn

Mae angen meddygon da ar gleifion - mae hyfforddi i fod yn feddyg da yn cychwyn fel myfyriwr meddygol. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch chi’n dysgu am bwysigrwydd proffesiynoldeb a'r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n cael eu nodi yng nghanllawiau craidd y GMC ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia - Arfer meddygol da - a’r canllawiau manylach sy’n eu cefnogi.

Yn y canllawiau hyn, mae’r GMC a’r Cyngor Ysgolion Meddygol (sy’n cael eu galw’n ‘ni’ yn y canllawiau) yn dangos sut mae’r egwyddorion a’r gwerthoedd yn Arfer meddygol da yn berthnasol i chi fel myfyrwyr meddygol, i helpu i’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol fel meddyg. Mae llawer o’r canllawiau hyn yn berthnasol yn benodol i’ch gwaith ar leoliadau clinigol Ond mae proffesiynoldeb yn ehangach na hyn ac mae’n cynnwys pob elfen o’ch astudiaeth academaidd, yn ogystal ar angen i fod yn ddibynadwy a gonest.

Yn y canllawiau hyn, rydym ni’n defnyddio’r termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech chi’ yn y ffyrdd canlynol.

  • Mae ‘rhaid i chi’ yn cael ei ddefnyddio i amlinellu meysydd pwysig sydd â chysylltiad cryf ag Arfer meddygol da, o ran y dyletswyddau cyfreithiol neu foesegol y mae disgwyl i chi eu bodloni (neu allu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi).
  • Mae ‘dylech’ chi yn cael ei ddefnyddio i ddangos dyletswyddau neu egwyddorion yn Arfer meddygol da sydd:
    • ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi, neu
    • nad ydych chi’n gallu cydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth.

Trwy’r canllawiau hyn, rydym ni hefyd yn cynnig rhagor o fanylion ac awgrymiadau ymarferol ar sut y gallwch chi fodloni’r gofynion rydym ni’n eu gosod. Mae’r blwch isod yn enghraifft o hyn.

Mynd y tu hwnt i’r disgwyl - ymgymryd â her rhagoriaeth broffesiynol

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r safonau o ymddygiad broffesiynol sy’n ddisgwyliedig ohonoch chi yn ystod eich astudiaethau. Mae meddygon da yn cynnal safonau ymddygiad uchel yn bersonol a phroffesiynol Maen nhw’n onest ac yn ddibynadwy, yn gweithredu gydag uniondeb, yn cynnal terfynau proffesiynol ac nid ydyn nhw’n gadael i’w buddiannau personol effeithio ar eu barn neu eu gweithredoedd proffesiynol. I gyflawni hyn, bydda angen i chi ddysgu i wneud y canlynol:

  • datblygu ffyrdd iach o ymdopi a straen a heriau (gwytnwch)
  • cydnabod ac uwchgyfeirio lle mae amheuaeth ac ansicrwydd
  • defnyddio rhesymu moesegol a moesol yn eich gwaith
  • gweithio’n effeithiol mewn tîm, gan gynnwys gallu rhoi adborth adeiladol a gonest
  • rheoli eich dysgu a'ch datblygiad eich hun
  • ymateb i adborth
  • blaenoriaethu eich amser yn dda a sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith
  • blaenoriaethu diogelwch cleifion a gweithredu’n ddi-oed os ydych chi’n credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl, neu y gallai fod mewn perygl.
  • gweithio ar y cyd â chydweithwyr
  • trin cleifion gyda charedigrwydd, tosturi a pharch
  • bod yn ymwybodol o’r risg o ragfarn, ac ystyried sut mae eich profiadau, eich diwylliant a’ch credoau bywyd yn dylanwadu ar sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl eraill, a sut y gallen nhw effeithio ar eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Efallai y bydd llawer o'r rhain yn anodd neu'n heriol i'w gwneud yn dda ond, fel gyda phob elfen o broffesiynoldeb, bydd eich ysgol feddygol yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae bod yn broffesiynol yn golygu y bydd angen i chi neilltuo amser i fyfyrio ar eich profiadau, dysgu’n barhaus a defnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ymarferol.

Bydd angen i chi ofyn am adborth, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau proffesiynol a moesegol a gallu addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr eisiau i chi ddatblygu a dod yn feddyg rhagorol, felly dylech chi droi atyn nhw am arweiniad a chefnogaeth.