Cystadleuaeth i fyfyrwyr meddygol 2026

Cewch gyfle i ennill taleb gwerth £600 drwy gystadlu yng nghystadleuaeth y GMC a’r Cyngor Ysgolion Meddygol i fyfyrwyr.

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal cystadleuaeth i fyfyrwyr meddygol y DU gyda’r Cyngor Ysgolion Meddygol. Drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth, gallwch feithrin eich gwybodaeth broffesiynol, cryfhau eich sgiliau gwneud penderfyniadau, a dangos eich ymrwymiad i’r safonau a ddisgwylir mewn ymarfer clinigol.

Ar gyfer y gystadleuaeth eleni sy’n ymwneud â phroffesiynoldeb myfyrwyr, rydym yn gofyn i fyfyrwyr yn ysgolion meddygol y DU greu cynnwys ar-lein diddorol sy’n helpu eraill i adnabod ac ymateb i fathau annerbyniol o ymddygiad drwy fod yn wylwyr gweithredol.

Mae ymddygiad annerbyniol yn cynnwys bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, a chamymddwyn rhywiol tuag at gydweithwyr neu gleifion.

Rydym yn gosod disgwyliadau clir yn Arfer meddygol da ac yn Cyflawni arfer meddygol da fod gan feddygon gyfrifoldeb i gydnabod ymddygiad annerbyniol, a chymryd camau i fynd i’r afael â hynny. Un ffordd o wneud hyn yw drwy fod yn wylwyr gweithredol da. Ond beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr meddygol?

Er mwyn helpu i ddatblygu’r cynnwys, efallai yr hoffech ystyried cwestiynau fel:

  • Sut mae bod yn wyliwr gweithredol yn cysylltu â’n canllawiau?
  • Pam mae bod yn wyliwr gweithredol yn rhan bwysig o ymarfer proffesiynol meddyg? Wrth fod yn wyliwr gweithredol, beth allai effaith hynny fod?
  • Sut gallai bod yn wyliwr gweithredol fod o fudd i gleifion?
  • Sut gall myfyrwyr meddygol fagu hyder wrth ymarfer hyn hyd eithaf eu cymhwysedd a’u rôl?

Mae gennych tan hanner dydd, ddydd Mercher 7 Hydref 2026 i gymryd rhan.

Bydd yr enillydd yn cael taleb gwerth £600, a bydd y cynnwys yn cael ei rannu ag ysgolion meddygol ledled y DU ac ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol y GMC. Bydd y ddau sy’n dod yn ail ac yn drydydd yn cael taleb gwerth £200 yr un. 

Beth ydym ni’n chwilio amdano? 

Rydym am i chi feddwl yn greadigol a chynhyrchu cynnwys ar-lein a fydd yn helpu myfyrwyr meddygol i ddeall dau beth allweddol:

  1. Pam mae adnabod a mynd i’r afael â mathau annerbyniol o ymddygiad yn ddyletswydd broffesiynol, fel sy’n cael ei amlinellu yn Arfer meddygol da ac yn Cyflawni arfer meddygol da.
  2. Sut mae bod yn wyliwr gweithredol wrth fod yn dyst i ymddygiad sy’n tanseilio diogelwch, urddas, neu broffesiynoldeb.

Rhaid i’ch cynnig ymdrin â’r ddau bwynt.

Gallwch gystadlu ar eich pen eich hun neu mewn tîm yn cynnwys hyd at chwech o bobl. Rhaid i bob un ohonoch chi fod yn fyfyrwyr mewn ysgol feddygol yn y DU, er nad oes rhaid i chi fod yn mynychu'r un ysgol feddygol. 

Gallwch greu un o’r canlynol:

  • cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol: TikTok, Facebook, Instagram, neu YouTube.
  • podlediad
  • blog neu flog

Dylai'r cynnwys fod yn rhywbeth y gallai eich cydfyfyrwyr meddygol ei weld yn unrhyw le ac yn eu hamser eu hunain. Rydym am i chi ystyried sut y gallai myfyrwyr ymgysylltu â'r cynnwys mewn sefyllfaoedd go iawn ac i sicrhau ei fod yn hygyrch – er enghraifft, drwy gynnwys isdeitlau. Felly, ni ddylai eich cynnig gymryd mwy na 10 munud i’w wylio, ei ddarllen, na gwrando arno.

Yn ogystal ag Arfer meddygol da a Cyflawni arfer meddygol da, gallai’r adnoddau canlynol fod yn ddefnyddiol:

Cofiwch, byddwn yn edrych ar ba mor dda rydych chi’n deall ac yn gallu egluro pwysigrwydd adnabod a mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol a bod yn wyliwr gweithredol, yn hytrach na’ch sgiliau digidol. 

Enillwyr blaenorol

Back