Amddiffyn plant a phobl ifanc

Archwiliadau amddiffyn plant

Pwyntiau allweddol – pennod 7

  • Dylech sicrhau caniatâd neu awdurdod cyfreithiol arall er mwyn cynnal archwiliad amddiffyn plant.
  • Dylech sicrhau bod yr unigolyn sy’n rhoi’r caniatâd yn deall diben yr archwiliad, yr hyn y bydd yn ei gynnwys a sut y gallai canlyniadau’r archwiliad gael eu defnyddio.
  • Dylech barchu penderfyniad plentyn neu berson ifanc i wrthod archwiliad.
  • Dylech osgoi ail-gynnal archwiliadau o blentyn neu berson ifanc.

Cynnal archwiliad amddiffyn plant

61

Mae’r arweiniad hwn yn cynnig cyngor penodol am archwiliadau amddiffyn plant. Cynhelir archwiliad amddiffyn plant er mwyn edrych am arwyddion bod plentyn neu berson ifanc wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae hwn yn wahanol i archwiliad clinigol, sy’n ceisio pennu beth sydd yn bod ar y plentyn neu’r person ifanc, a pha driniaeth y bydd ei hangen. Rydym yn rhoi arweiniad ynghylch sicrhau caniatâd ar gyfer archwiliadau clinigol, ymchwiliadau neu driniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn 0–18 oed.5 

62

Cyn cynnal archwiliad amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn fodlon eich bod wedi cynnal hyfforddiant arbenigol priodol (gweler paragraff 71) a bod hynny yn briodol dan yr amgylchiadau. Dylech fod yn eglur ynghylch yr hyn y dylai’r archwiliad ei gyflawni, ac a yw’r canlyniad yn debygol o effeithio ar y camau gweithredu arfaethedig. Dylech ystyried rhoi’r dewis i’r plentyn neu’r person ifanc o gael oedolyn arall yn bresennol yn ystod yr archwiliad (gallai hwn/hon fod yn rhiant neu’n warchodwr annibynnol, yn unol â’r hyn sy’n briodol).25 Rhaid i chi osgoi ail-gynnal archwiliadau, oherwydd y gallai’r rhain fod yn niweidiol i’r plentyn neu’r person ifanc.

25

Gweler ein harweiniad ynghylch cynnal terfynau.

Gofyn am ganiatâd

63

Mae angen i chi sicrhau caniatâd neu awdurdod cyfreithiol arall er mwyn cynnal unrhyw archwiliad amddiffyn plant, gan gynnwys asesiad seiciatrig neu seicolegol. Mae modd i chi gael caniatâd neu awdurdod gan:

  1. blentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar yr aeddfedrwydd a’r ddealltwriaeth i wneud y penderfyniad26 
  2. rhywun y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant os na fydd y plentyn neu’r person ifanc yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd (fel arfer, mae’n ddigon eich bod yn sicrhau caniatâd gan un person sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant)
  3. y llysoedd – er enghraifft, y llysoedd teulu neu’r Uchel Lys.
26

Gweler atodiad 1 yr arweiniad hwn am gyngor ynghylch asesu galluedd.

64

Rhaid i chi fod yn fodlon bod yr unigolyn sy’n rhoi caniatâd yn deall diben yr archwiliad a’r hyn y bydd yn ei gynnwys. Mae hyn yn cynnwys a fydd ffotograffau neu ddelweddau eraill yn cael eu cymryd a sut y gallai canlyniadau’r archwiliad gael eu defnyddio – er enghraifft, fel tystiolaeth mewn llys.27 28 Rhaid i chi esbonio i’r unigolyn bod ganddynt yr hawl i wrthod rhoi eu caniatâd, a’r hyn a allai ddigwydd os byddant yn gwneud hynny. Rhaid i chi gofnodi’r drafodaeth yng nghofnod meddygol y plentyn neu’r person ifanc.

27

Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y gellir creu recordiadau cudd (recordiadau a gaiff eu creu heb wybodaeth na chaniatâd y claf). I gael cyngor a gwybodaeth, gweler ein harweiniad Creu a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion a Diogelu plant a phobl ifanc: rolau a chymwyseddau ar gyfer staff gofal iechyd.

28

Gweler hefyd y Gymdeithas HIV Plant (2009) HIV testing guidelines for children of confirmed or suspected HIV-positive parents Cymdeithas HIV Plant.

65

Os bydd yr heddlu neu asiantaeth arall yn dweud wrthych bod unigolyn gyda chyfrifoldeb rhiant wedi rhoi eu caniatâd, dylech sicrhau bod yr unigolyn wedi cael y wybodaeth a ddisgrifiwyd ym mharagraff 64.

66

Rhaid i chi gadw at amodau’r caniatâd. Er enghraifft, os bydd rhywun wedi rhoi eu caniatâd i ddelweddau gael eu cymryd at ddibenion fforensig, ni ddylech ddefnyddio’r delweddau at ddibenion eraill – megis addysg neu hyfforddiant – oni bai y byddwch yn cael caniatâd ar wahân i wneud hyn.

67

Nodir cyngor ynghylch profi plant a phobl ifanc am glefyd trosglwyddadwy difrifol ym paragraphs 12–16 ein harweiniad Cyfrinachedd: datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol28  30  

12

Dylech esbonio i gleifon y mae ganddynt glefydau trosglwyddadwy difrifol sut y gallant ddiogelu eraill rhag cael eu heintio, gan gynnwys cael eu heintio gan glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae hyn yn cynnwys y mesurau ymarferol y mae modd iddynt eu cymryd er mwyn osgoi trosglwyddo’r clefyd, a phwysigrwydd hysbysu pobl y maent wedi cael cyswllt rhywiol â nhw o berygl trosglwyddo clefydau trosglwyddadwy difrifol. 

13

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth i unigolyn sy’n cael cyswllt agos â chlaf sydd â chlefyd trosglwyddadwy difrifol os oes gennych chi reswm dros gredu:

  1. bod yr unigolyn mewn perygl o gael eu heintio a bod hyn yn debygol o arwain at niwed difrifol 
  2. nad yw’r claf wedi eu hysbysu ac ni ellir eu perswadio i wneud hynny. 
14

Os ydych o’r farn nad oes oedolyn sydd mewn perygl o gael eu heintio yn meddu ar alluedd i ddeall y wybodaeth hon, a’u bod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, rhaid i chi roi gwybodaeth berthnasol i awdurdod neu unigolyn cyfrifol priodol yn ddi-oed, oni bai nad yw gwneud hyn o fudd cyffredinol i’r claf  (gweler paragraff 55 - 56 Cyfrinachedd).

15

Dylech ddweud wrth y claf cyn i chi ddatgelu’r wybodaeth os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny. Pan fyddwch yn olrhain ac yn hysbysu pobl, ni ddylech ddatgelu manylion y claf os yw hynny’n ymarferol. Rhaid i chi fod yn barod i gyfawnhau penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd.8 

16

Bydd y rhan fwyaf y cleifon sydd â chlefyd trosglwyddadwy difrifol ac y maent yn rhieni sy’n gofalu am blant, yn gwneud popeth y gallant i ddiogelu’r plant rhag y perygl y byddant yn cael eu heintio neu rhag effeithiau’r clefyd. Dylech sicrhau bod y claf yn deall y wybodaeth a’r cyngor yr ydych yn ei rhoi iddynt, a ddylai fod yn bwrpasol i’w hanghenion. Dylech wneud popeth rhesymol y gallwch ei wneud i’w cynorthwyo i ofalu am eu hunain ac i ddiogelu eu plant. 

28

Gweler hefyd y Gymdeithas HIV Plant (2009) HIV testing guidelines for children of confirmed or suspected HIV-positive parents Cymdeithas HIV Plant.

30

Gweler Rheolau Gweithdrefn Sifil y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llundain, Y Llyfrfa, rheol 35.3, Rheolau Gweithdrefn Sifil y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llundain, Y Llyfrfa, rheol 33.2, Deddf Gohiriad (Rheolau Gweithdrefn Droseddol) 1996, Criminal Justice (Evidence) (Northern Ireland) Order 2004, Rheolau Gweithdrefn Sifil y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llundain, Y Llyfrfa, rheol 25.3, Children’s Hearings (Scotland) Rules 199631 Rheolau Gweithdrefn Sifil y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llundain, Y Llyfrfa, rheol 35.3

Pan na fydd caniatâd yn cael ei roi

68

Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd yn gwrthod archwiliad amddiffyn plant, dylech drafod eu safbwyntiau a’u pryderon ynghylch yr archwiliad gyda nhw, neu’r hyn a allai ddigwydd ar ôl hynny. Ond, rhaid i chi barchu eu penderfyniad, hyd yn oed os allai hyn effeithio ar ansawdd y dystiolaeth fforensig sydd ar gael. Mae modd i blant neu bobl ifanc sy’n cael y cymorth a’r wybodaeth y mae angen iddynt ei chael, ac sy’n cael gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, newid eu penderfyniad yn nes ymlaen.

69

Weithiau, efallai y bydd plentyn neu berson ifanc yn gwrthod rhoi eu caniatâd oherwydd bod arnynt ofn yr unigolyn sy’n eu cam-drin neu oherwydd eu bod dan bwysau i wrthod. Os byddwch yn amau hyn, dylech ystyried risg niwed i’r plentyn neu’r person ifanc, a thrafod eich pryderon gyda’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’r clinigydd arweiniol, neu os na fyddant ar gael, gyda chydweithiwr profiadol. Os ydych yn pryderu ynghylch diogelwch neu les y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i chi ddilyn y cyngor a nodir ym paragraphs 32 – 38.

32

Rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol, megis gwasanaethau plant eich awdurdod lleol, NSPCC neu’r heddlu ar unwaith os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, oni bai na fyddai gwneud hynny er eu budd pennaf (gweler paragraphs 39 and 40). Ni fydd angen i chi fod yn sicr bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol er mwyn cymryd y cam hwn. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd canlyniadau posibl peidio rhannu gwybodaeth berthnasol, ym mwyafrif llethol yr achosion, yn drech nag unrhyw niwed y gallai rhannu eich pryderon gydag asiantaeth briodol ei achosi.

33

Wrth ddweud wrth asiantaeth briodol am eich pryderon, dylech ddarparu gwybodaeth am y ddau beth canlynol:

  1. manylion y plentyn neu’r person ifanc, eu rhieni ac unrhyw berson arall y gallent achosi perygl iddynt
  2. y rhesymau dros eich pryderon, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y plentyn neu’r person ifanc ac unrhyw wybodaeth berthnasol am eu rhieni neu eu gofalwyr.
34

Dylech ofyn am ganiatâd cyn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, oni bai bod rheswm arbennig dros beidio gwneud hynny. Er enghraifft, oherwydd: 

  1. y byddai oedi cyn rhannu gwybodaeth berthnasol gydag awdurdod neu unigolyn priodol yn cynyddu’r perygl y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef niwed
  2. y gallai gofyn am ganiatâd gynyddu’r perygl y bydd y plentyn, y person ifanc, chi neu unrhyw un arall yn dioddef niwed
  3. rydych eisoes wedi penderfynu bod datgelu yn gyfiawn er budd y cyhoedd.
35

Dylech ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc am ganiatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i’w roi. Os na, dylech ofyn i unigolyn y maent yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant. Yn ogystal, dylech ofyn am ganiatâd unrhyw oedolion yr ydych yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt. Wrth ofyn am ganiatâd, dylech esbonio’r rheswm pam eich bod yn dymuno rhannu gwybodaeth, a sut y bydd hyn o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, dylech esbonio’r holl bethau canlynol:

  1. pa wybodaeth y byddwch yn ei rhannu
  2. pwy y byddwch yn ei rhannu gyda nhw
  3. sut y defnyddir y wybodaeth
  4. ble y bydd modd iddynt gael cyngor a chymorth annibynnol (gweler Ffynonellau o gyngor a chymorth annibynnol i rieni a theuluoedd er enghreifftiau o sefydliadau).
36

Mae modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol heb sicrhau caniatâd os bydd gofyn i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os byddwch yn cael cyfarwyddyd gan lys, neu os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn codi o rannu’r wybodaeth yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd os na fyddwch yn rhannu’r wybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r unigolyn ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chleifion o bob oedran, a fydd yn deillio o ryddhau’r wybodaeth honno.

37

Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar alluedd, neu riant, yn gwrthod rhoi eu caniatâd i chi rannu gwybodaeth, dylech ystyried eu rhesymau dros wrthod, a phwyso canlyniadau posibl peidio rhannu’r wybodaeth yn erbyn y niwed y gallai rhannu’r wybodaeth ei achosi. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd rhannu gwybodaeth gyda’r asiantaeth briodol er eu budd pennaf fel arfer.

38

Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech esbonio’ch rheswm dros wneud hynny i’r bobl y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw, a darparu’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff 35, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl. Yn ogystal, dylech gofnodi’ch penderfyniad fel y nodir ym mharagraff 54.

70

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gwrthod neu os bydd eu rhieni yn gwrthod rhoi eu caniatâd i archwiliad amddiffyn plant, y mae’n angenrheidiol yn eich barn chi, ac os ydych o’r farn bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed yn syth, dylech gysylltu â’r heddlu neu wasanaethau plant yr awdurdod lleol, a fydd yn cymryd camau i’w diogelu efallai. Os byddwch yn barnu na cheir perygl y bydd niwed yn digwydd ar unwaith, dylech ddilyn y cyngor a nodwyd ym paragraphs 32 - 38.