Adnabod rhai sydd mewn perygl o gael, neu sydd yn cael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso
Pwyntiau allweddol – pennod 2
- Dylech fod yn ymwybodol o’r ffactorau risg y maent wedi cael eu cysylltu gyda chamdriniaeth ac esgeulustod, gan edrych am arwyddion y gallai plentyn neu berson ifanc fod mewn perygl.
- Os ydych yn trin claf sy’n oedolyn, dylech ystyried a yw’ch claf yn peri risg i blant neu bobl ifanc.
- Dylech gadw meddwl agored a bod yn wrthrychol pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau. Dylech weithio mewn partneriaeth gyda theuluoedd pan fo modd.
- Os nad ydych yn siŵr a yw plentyn neu berson ifanc mewn perygl, neu’r ffordd orau o ymateb i’ch pryderon, dylech holi gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol, neu os na fyddant ar gael, dylech holi cyngor cydweithiwr profiadol.
Rolau pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Rhaid i chi ystyried diogelwch a lles plant a phobl ifanc os ydych yn eu gweld fel cleifion yn gyson neu beidio. Pan fyddwch yn gofalu am glaf y maent yn oedolyn, rhaid i chi roi’r pwys mwyaf ar eich claf, ond rhaid i chi ystyried hefyd a yw’ch claf yn peri risg i blant neu bobl ifanc. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r ffactorau risg y maent yn gysylltiedig gyda chamdriniaeth ac esgeulustod, a chadw golwg am arwyddion y gallai’r plentyn neu’r person ifanc fod mewn perygl. Mae’r ffactorau risg yn cynnwys cael rhieni y maent yn wynebu materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, byw mewn cartref lle y mae trais domestig yn digwydd, neu’n byw mewn tlodi.15 Ond nid yw’r amgylchiadau hyn yn arwain at gamdriniaeth neu esgeulustod o reidrwydd, ac mae materion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant yn bodoli ym mhob rhan o’n cymdeithas.
Am ragor o wybodaeth, gweler adolygiad Munro o amddiffyn plant.
Mae adnabod arwyddion camdriniaeth neu esgeulustod yn gynnar a gweithredu yn gyflym yn bwysig er mwyn diogelu plant a phobl ifanc. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni a theuluoedd yn gallu helpu plant a phobl ifanc i gael y gofal a’r cymorth y bydd angen iddynt ei gael er mwyn bod yn iach, yn ddiogel ac yn hapus, ac i wireddu eu potensial. Dylech gadw golwg am arwyddion y gallai bod angen cymorth ychwanegol ar deulu, a darparu cymorth o’r fath os yw hynny yn rhan o’ch rôl chi, neu gyfeirio’r teulu at wasanaethau plant awdurdod lleol neu iechyd er mwyn iddynt gael help priodol.16
Dylech ddilyn yr arweiniad yn Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion pan fyddwch yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill.
Rhaid i chi wybod yr hyn i’w wneud os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, neu yn achos claf sy’n feichiog, y bydd y plentyn mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod ar ôl iddynt gael eu geni. Mae hyn yn golygu y dylech feddu ar wybodaeth weithredol am weithdrefnau lleol er mwyn diogelu plant a phobl ifanc yn eich ardal.17 Dylech wybod pwy yw’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’ch clinigydd arweiniol, neu dylech fod wedi nodi cydweithiwr profiadol er mwyn i chi allu troi atynt am gyngor, a dylech fod yn gwybod sut i gysylltu â nhw.
Rhaid i chi weithredu ynghylch unrhyw bryderon sydd gennych am blentyn neu berson ifanc y gallent fod mewn perygl o ddioddef neu y maent yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod (gweler paragraphs 32 - 38).
Rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol, megis gwasanaethau plant eich awdurdod lleol, NSPCC neu’r heddlu ar unwaith os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, oni bai na fyddai gwneud hynny er eu budd pennaf (gweler paragraphs 39 and 40). Ni fydd angen i chi fod yn sicr bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol er mwyn cymryd y cam hwn. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd canlyniadau posibl peidio rhannu gwybodaeth berthnasol, ym mwyafrif llethol yr achosion, yn drech nag unrhyw niwed y gallai rhannu eich pryderon gydag asiantaeth briodol ei achosi.
Wrth ddweud wrth asiantaeth briodol am eich pryderon, dylech ddarparu gwybodaeth am y ddau beth canlynol:
- manylion y plentyn neu’r person ifanc, eu rhieni ac unrhyw berson arall y gallent achosi perygl iddynt
- y rhesymau dros eich pryderon, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y plentyn neu’r person ifanc ac unrhyw wybodaeth berthnasol am eu rhieni neu eu gofalwyr.
Dylech ofyn am ganiatâd cyn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, oni bai bod rheswm arbennig dros beidio gwneud hynny. Er enghraifft, oherwydd:
- y byddai oedi cyn rhannu gwybodaeth berthnasol gydag awdurdod neu unigolyn priodol yn cynyddu’r perygl y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef niwed
- y gallai gofyn am ganiatâd gynyddu’r perygl y bydd y plentyn, y person ifanc, chi neu unrhyw un arall yn dioddef niwed
- rydych eisoes wedi penderfynu bod datgelu yn gyfiawn er budd y cyhoedd.
Dylech ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc am ganiatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i’w roi. Os na, dylech ofyn i unigolyn y maent yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant. Yn ogystal, dylech ofyn am ganiatâd unrhyw oedolion yr ydych yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt. Wrth ofyn am ganiatâd, dylech esbonio’r rheswm pam eich bod yn dymuno rhannu gwybodaeth, a sut y bydd hyn o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, dylech esbonio’r holl bethau canlynol:
- pa wybodaeth y byddwch yn ei rhannu
- pwy y byddwch yn ei rhannu gyda nhw
- sut y defnyddir y wybodaeth
- ble y bydd modd iddynt gael cyngor a chymorth annibynnol (gweler Ffynonellau o gyngor a chymorth annibynnol i rieni a theuluoedd er enghreifftiau o sefydliadau).
Mae modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol heb sicrhau caniatâd os bydd gofyn i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os byddwch yn cael cyfarwyddyd gan lys, neu os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn codi o rannu’r wybodaeth yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd os na fyddwch yn rhannu’r wybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r unigolyn ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chleifion o bob oedran, a fydd yn deillio o ryddhau’r wybodaeth honno.
Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar alluedd, neu riant, yn gwrthod rhoi eu caniatâd i chi rannu gwybodaeth, dylech ystyried eu rhesymau dros wrthod, a phwyso canlyniadau posibl peidio rhannu’r wybodaeth yn erbyn y niwed y gallai rhannu’r wybodaeth ei achosi. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd rhannu gwybodaeth gyda’r asiantaeth briodol er eu budd pennaf fel arfer.
Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech esbonio’ch rheswm dros wneud hynny i’r bobl y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw, a darparu’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff 35, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl. Yn ogystal, dylech gofnodi’ch penderfyniad fel y nodir ym mharagraff 54.
Rolau gweithiwr meddygol proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc
Os ydych yn gweithio gyda phlant neu bobl ifanc, rhaid eich bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau er mwyn adnabod arwyddion a symptomau camdriniaeth ac esgeulustod,2 3 4 9 11 12 13 a gweithredu mewn ffordd briodol ac yn ddi-oed yn ôl yr angen.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer meddygol da Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol, paragraff 41.
Mae cyfeiriadau at ‘rieni’ yn yr arweiniad hwn yn cynnwys pobl sy’n gofalu am neu’n edrych ar ôl plant neu bobl ifanc. Gallai hyn gynnwys gofalwyr, aelodau teuluol eraill neu oedolion sy’n byw ar yr un aelwyd (gweler y diffiniadau o ‘blant’, ‘pobl ifanc’ a ‘rhieni’ yn yr arweiniad hwn).
Gweler JD v Ymddiriedolaeth Iechyd Cymunedol Dwyrain Berkshire & Ors [2005] UKHL 23 (21 Ebrill 2005) paragraffau 85, 87.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2017) Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd warchodedig na ellir eu defnyddio fel rheswm dros drin pobl mewn ffordd annheg. Y rhain yw oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gredo, a chyfeiriadedd rhywiol.
Am arweiniad ynghylch cymhwysedd, gweler yr adroddiad rhyng-golegol ynghylch diogelu plant a phobl ifanc.
Rhaid i chi gael meddwl agored pan fyddwch yn ystyried achos posibl anaf neu arwyddion eraill y gallent awgrymu bod plentyn neu berson ifanc yn cael eu cam-drin neu’n cael eu hesgeuluso. Er enghraifft, fel rhan o’r diagnosis gwahaniaethol, dylech ystyried a allai cyflwr anghyffredin, gan gynnwys cyflwr genetig, fod wedi achosi neu gyfrannu at anaf neu symptomau’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, rhaid i chi sicrhau y bydd anghenion clinigol plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu bodloni, ac na fyddant yn cael eu taflu i’r cysgod gan bryderon amddiffyn plant.
Dylech weithio gyda rhieni a theuluoedd pan fo modd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gofal a’r cymorth y mae angen iddynt ei gael. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer plant a phobl ifanc y maent yn byw mewn amgylchiadau sy’n achosi cryn straen – er enghraifft, oherwydd eu bod yn gofalu am riant neu mae eu rhiant yn yr ysbyty. Dylech fod yn ymwybodol o wasanaethau yn eich ardal y byddent yn gallu darparu help priodol, gan gynnwys, er enghraifft, gwasanaethau a ddarparir gan grwpiau gwirfoddol.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn anodd adnabod pan fydd rhyddid rhieni i fagu eu plant yn unol â’u harferion neu eu credoau diwylliannol neu hiliol, yn peri pryder ynghylch lles corfforol neu emosiynol plentyn neu berson ifanc.18 Dylech feithrin eich dealltwriaeth ynghylch arferion a chredoau y gwahanol gymunedau diwylliannol a chrefyddol yr ydych yn eu gwasanaethu.
Gweler ein harweiniad ynghylch credoau personol i gael cyngor am enwaedu gwrywod. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod – y cyfeirir ato weithiau fel enwaedu benywod – yn drosedd ddifrifol ac yn fater amddiffyn plant. Mae Llywodraeth EM wedi cyhoeddi canllawiau gweithdrefnol a chanllawiau arfer amlasiantaeth ynghylch adrodd gorfodol yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddwyd canllawiau amlasiantaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu ynghylch Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.
Rhaid i chi sicrhau nad yw’ch cefndir diwylliannol neu grefyddol yn effeithio ar eich gwrthrychedd. Wrth benderfynu a ddylid codi pryderon amddiffyn plant gyda rhieni neu gydag asiantaethau eraill, rhaid i chi ystyried y materion mewn ffordd ddiduedd a sicrhau nad yw’ch safbwyntiau personol ynghylch arferion neu gredoau diwylliannol rhieni ac oedolion eraill yn effeithio ar eich penderfyniadau amdanyn nhw neu eu teulu. Os bydd gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor mudiad gwirfoddol neu broffesiynol y mae ganddynt brofiad o weithio gyda chymuned benodol. Neu, dylech ofyn am gyngor gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol, neu os na fyddant ar gael, dylech ofyn am gyngor cydweithiwr profiadol.
Ar ôl trafod y materion gyda’r rhieni, os bydd gennych bryderon o hyd bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, beth bynnag fo’r achos, rhaid i chi hysbysu asiantaeth briodol (gweler yr arweiniad ym paragraphs 32–38).
Rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol, megis gwasanaethau plant eich awdurdod lleol, NSPCC neu’r heddlu ar unwaith os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, oni bai na fyddai gwneud hynny er eu budd pennaf (gweler paragraphs 39 and 40). Ni fydd angen i chi fod yn sicr bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol er mwyn cymryd y cam hwn. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd canlyniadau posibl peidio rhannu gwybodaeth berthnasol, ym mwyafrif llethol yr achosion, yn drech nag unrhyw niwed y gallai rhannu eich pryderon gydag asiantaeth briodol ei achosi.
Wrth ddweud wrth asiantaeth briodol am eich pryderon, dylech ddarparu gwybodaeth am y ddau beth canlynol:
- manylion y plentyn neu’r person ifanc, eu rhieni ac unrhyw berson arall y gallent achosi perygl iddynt
- y rhesymau dros eich pryderon, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y plentyn neu’r person ifanc ac unrhyw wybodaeth berthnasol am eu rhieni neu eu gofalwyr.
Dylech ofyn am ganiatâd cyn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, oni bai bod rheswm arbennig dros beidio gwneud hynny. Er enghraifft, oherwydd:
- y byddai oedi cyn rhannu gwybodaeth berthnasol gydag awdurdod neu unigolyn priodol yn cynyddu’r perygl y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef niwed
- y gallai gofyn am ganiatâd gynyddu’r perygl y bydd y plentyn, y person ifanc, chi neu unrhyw un arall yn dioddef niwed
- rydych eisoes wedi penderfynu bod datgelu yn gyfiawn er budd y cyhoedd.
Dylech ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc am ganiatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i’w roi. Os na, dylech ofyn i unigolyn y maent yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant. Yn ogystal, dylech ofyn am ganiatâd unrhyw oedolion yr ydych yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt. Wrth ofyn am ganiatâd, dylech esbonio’r rheswm pam eich bod yn dymuno rhannu gwybodaeth, a sut y bydd hyn o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, dylech esbonio’r holl bethau canlynol:
- pa wybodaeth y byddwch yn ei rhannu
- pwy y byddwch yn ei rhannu gyda nhw
- sut y defnyddir y wybodaeth
- ble y bydd modd iddynt gael cyngor a chymorth annibynnol (gweler Ffynonellau o gyngor a chymorth annibynnol i rieni a theuluoedd er enghreifftiau o sefydliadau).
Mae modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol heb sicrhau caniatâd os bydd gofyn i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os byddwch yn cael cyfarwyddyd gan lys, neu os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn codi o rannu’r wybodaeth yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd os na fyddwch yn rhannu’r wybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r unigolyn ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chleifion o bob oedran, a fydd yn deillio o ryddhau’r wybodaeth honno.
Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar alluedd, neu riant, yn gwrthod rhoi eu caniatâd i chi rannu gwybodaeth, dylech ystyried eu rhesymau dros wrthod, a phwyso canlyniadau posibl peidio rhannu’r wybodaeth yn erbyn y niwed y gallai rhannu’r wybodaeth ei achosi. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd rhannu gwybodaeth gyda’r asiantaeth briodol er eu budd pennaf fel arfer.
Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech esbonio’ch rheswm dros wneud hynny i’r bobl y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw, a darparu’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff 35, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl. Yn ogystal, dylech gofnodi’ch penderfyniad fel y nodir ym mharagraff 54.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig, neu’n glinigydd arweiniol, dylech sicrhau bod eich cydweithwyr yn gwybod pa help y mae modd i chi ei gynnig a sut y mae modd cysylltu â chi er mwyn cael cyngor a chymorth.