Gweithio mewn partneriaeth
Pwyntiau allweddol – pennod 4
- Dylech ddeall rolau asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gyfrifol am ddiogelu plant a phobl ifanc, a gweithio mewn partneriaeth gyda nhw.
- Cyfrannu at weithdrefnau amddiffyn plant a darparu gwybodaeth berthnasol ar gyfer cyfarfodydd amddiffyn plant os na fydd modd i chi eu mynychu.
- Gwybod pwy yw’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’ch clinigydd arweiniol, a sut y mae modd cysylltu â nhw.
Cydweithio gydag eraill a chyfathrebu mewn ffordd effeithiol
Rhaid i chi weithio gyda chydweithwyr o fewn eich tîm a’ch sefydliad, a gydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill, a chyfathrebu gyda nhw mewn ffordd effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ymwelwyr iechyd, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a’r heddlu.
Dylech ddeall a parchu rolau, cyfrifoldebau, polisïau ac arferion amddiffyn plant asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill, a chydweithredu gyda nhw. Rhaid i chi fod yn eglur am eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi wrth ddiogelu plant a phobl ifanc, a bod yn barod i esbonio hyn i gydweithwyr ac i weithwyr proffesiynol eraill.
Dylech sicrhau eich bod yn meddu ar systemau effeithiol er mwyn cyfathrebu gydag ymwelwyr iechyd, swyddogion arweiniol amddiffyn plant ac asiantaethau statudol eraill, naill ai’n rheolaidd neu yn ôl yr angen. Rhaid i chi wybod pwy y dylech gysylltu â nhw a sut i gysylltu â nhw.
Cymryd rhan mewn gweithdrefnau amddiffyn plant
Os gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithdrefnau amddiffyn plant, rhaid i chi gydweithredu’n llawn. Dylai hyn gynnwys mynychu cynadleddau amddiffyn plant, cyfarfodydd strategaeth ac adolygiadau achos er mwyn darparu gwybodaeth a mynegi’ch barn. Efallai y bydd modd i chi gyfrannu hyd yn oed os na fydd gennych unrhyw bryderon penodol (er enghraifft, mae modd i feddygon teulu rannu argraffiadau unigryw ynghylch teulu plentyn neu berson ifanc weithiau).
Os trefnir cyfarfodydd ar fyr rybudd neu ar adegau anghyfleus, dylech ymdrechu i’w mynychu. Os na fydd modd i chi fod yno, rhaid i chi geisio darparu gwybodaeth berthnasol ynghylch y plentyn neu’r person ifanc a’u teulu i’r cyfarfod, naill ar dros y ffôn neu thrwy gyfrwng cyfleuster fideo-gynadledda, ar ffurf adroddiad ysgrifenedig neu thrwy drafod y wybodaeth gyda gweithiwr proffesiynol arall (er enghraifft, yr ymwelydd iechyd), er mwyn iddynt allu rhoi adroddiad llafar yn ystod y cyfarfod.