Atodiad 1 – Asesu galluedd plentyn neu berson ifanc
1. Ar gyfer unrhyw ymchwiliadau neu driniaethau yr ydych yn bwriadu eu cynnal, rhaid i chi benderfynu a oes modd i blentyn neu berson ifanc ddeall yr hyn a fydd yn digwydd, pam bod angen i chi gynnal yr ymchwiliad neu’r driniaeth, a’r canlyniadau posibl. Yn ogystal, rhaid eu bod yn deall canlyniadau peidio cael yr ymchwiliad neu’r driniaeth. Gallant roi eu caniatâd i’r ymchwiliad neu’r driniaeth, dim ond os bydd modd iddynt ddeall, cadw, defnyddio a phwyso a mesur y wybodaeth hon, ac esbonio’u penderfyniad i eraill. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sicrhau bod plentyn neu berson ifanc wedi cael yr holl wybodaeth berthnasol a’i bod wedi cael ei thrafod gyda nhw mewn ffordd drylwyr cyn penderfynu a ydynt yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd i’r ymchwiliad neu’r driniaeth neu beidio.
2. Mae’r galluedd i roi caniatâd yn dibynnu’n fwy ar allu plentyn neu berson ifanc i ddeall ac i bwyso a mesur y dewisiadau, yn hytrach na’u hoedran. Wrth asesu eu galluedd i roi caniatâd, dylech gofio’r ddau bwynt canlynol.
a. Mae modd i chi gymryd bod person ifanc yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd pan fyddant yn 16 oed.
b. Efallai y bydd person ifanc dan 16 oed yn meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd, gan ddibynnu ar eu haeddfedrwydd a’u gallu i ddeall yr hyn a fydd yn digwydd.35
3. Mae’n bwysig eich bod yn asesu aeddfedrwydd a dealltwriaeth pob plentyn neu berson ifanc, gan ystyried cymhlethdod a phwysigrwydd y penderfyniad y mae angen ei wneud. Dylech gofio na fydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar y galluedd i roi eu caniatâd i driniaeth syml ac sy’n gymharol rhydd rhag risg, yn meddu o reidrwydd ar y galluedd i roi eu caniatâd i driniaeth gymhleth sy’n cynnwys risgiau uchel neu ganlyniadau difrifol. Yn ogystal, mae modd i ddatblygiad corfforol ac emosiynol plentyn neu berson ifanc effeithio ar eu gallu i roi caniatâd, yn ogystal â newidiadau i’w hiechyd a’u triniaeth.
Gweler Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969, Age of Majority Act (Northern Ireland) 1969, Age of Legal Capacity (Scotland) Act 1991, Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000, Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Gillick v West Norfolk and Wisbech AHA [1985] UKHL 738 Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969