Amddiffyn plant a phobl ifanc

Rhoi tystiolaeth mewn llys

Pwyntiau allweddol – pennod 9

  • Mae dyletswydd pennaf pob tyst i’r llys.
  • Dylech roi tystiolaeth sy’n ddiduedd, sy’n onest a heb fod yn gamarweiniol.
  • Dim ond tystiolaeth a safbwyntiau ynghylch materion o fewn eich cymhwysedd proffesiynol y dylech eu rhoi.
  • Dylech weithio o fewn yr amserlenni a bennwyd gan y llys.

Gweithredu fel tyst arbenigol

76

Mae gweithiwr meddygol proffesiynol sy’n gweithredu fel tystion arbenigol yn gallu chwarae rhan bwysig yn y system gyfiawnder. Gall ansawdd a dibynadwyedd barn meddygol arbenigol wneud gwahaniaeth hanfodol i degwch penderfyniadau a chanlyniadau unrhyw achos. Os gofynnir i chi weithredu fel tyst arbenigol mewn achos amddiffyn plant, rhaid I chi ddilyn yr arweiniad yn Darparu datganiadau tyst neu dystiolaeth arbenigol mewnn achos cyfreithiol