Am ein canllawiau Amddiffyn plant a phobl ifanc
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc1 yr hawl i gael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae Arfer meddygol da2 yn rhoi dyletswydd ar bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol) sydd wedi cofrestru â’r GMC i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gweithiwr meddygol proffesiynol ymateb i unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc.
Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Mae amddiffyn plant yn faes gwaith anodd, ac mae’n gallu golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau sy’n heriol ar lefel emosiynol, penderfyniadau sy’n cael eu cymhlethu gan ansicrwydd a phenderfyniadau y maent yn mynd yn groes i ddymuniadau rhieni weithiau.3 Dylai gweithiwr meddygol proffesiynol weithio gyda rhieni a theuluoedd pan fo modd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gofal a’r cymorth y maent ei angen. Ond mewn achosion pan allai buddiannau a dymuniadau rhieni roi diogelwch y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl, rhaid i fuddiannau’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn gyntaf.4 Mae diffyg gweithredu pan fydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol ar gyfer y plentyn a’u teulu.
Nod yr arweiniad hwn yw helpu gweithiwr meddygol proffesiynol i ddiogelu plant a phobl ifanc y maent yn byw gyda’u teuluoedd neu y maent yn byw oddi cartref, gan gynnwys y rhai y mae awdurdod lleol yn gofalu amdanynt.
Yn yr canllawiau hwn, mae ‘camdriniaeth neu esgeulustod’ yn golygu camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol, gan gynnwys salwch ffug neu salwch gwneud, ac esgeulustod emosiynol neu gorfforol, y mae wedi arwain at neu y gallai arwain at niwed sylweddol i blentyn neu berson ifanc. 5 6 7
Mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol ddyletswydd i fod yn ymwybodol o’r cyfreithiau, y codau ymarfer a’r dogfennau arweiniad diweddaraf, gan gynnwys ein cyngor yn Arfer meddygol da2 a 0–18 oed8 a’n harweiniad ynghylch cyfrinachedd 9 a chaniatâd,10 a’u dilyn. Mae’r safonau proffesiynol hyn yn cynnig mwy o gyngor ynghylch asesu galluedd a gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth sy’n ymwneud gydag iechyd plant a phobl ifanc.
Yn yr arweiniad hwn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, defnyddir y termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech’ yn y ffyrdd canlynol:
- Caiff ‘rhaid i chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
- Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
- ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
- na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth
Mae’n hanfodol bod gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol yr hyder i weithredu os byddant yn credu y gallai plentyn neu berson ifanc fod yn cael eu cam-drin neu’n cael eu hesgeuluso. Bydd modd cyfiawnhau unrhyw weithredu, hyd yn oed os darganfyddir nad yw’r plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, ar yr amod bod y pryderon yn rhesymol a’u bod wedi codi am resymau gonest, ac bod y gweithiwr meddygol proffesiynol yn cymryd camau trwy’r sianelau priodol. Bydd modd i weithwyr meddygol proffesiynol sy’n gwneud penderfyniadau ar sail yr egwyddorion yn yr arweiniad hwn, gyfiawnhau eu penderfyniadau a’r camau a gymrwyd ganddynt os byddwn yn cael cwyn am eu harfer.11
Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc o’u genedigaeth nes byddant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed (gweler y diffiniadau o blant, pobl ifanc a rhieni yn yr arweiniad hwn).
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer meddygol da Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol, paragraff 41.
Mae cyfeiriadau at ‘rieni’ yn yr arweiniad hwn yn cynnwys pobl sy’n gofalu am neu’n edrych ar ôl plant neu bobl ifanc. Gallai hyn gynnwys gofalwyr, aelodau teuluol eraill neu oedolion sy’n byw ar yr un aelwyd (gweler y diffiniadau o ‘blant’, ‘pobl ifanc’ a ‘rhieni’ yn yr arweiniad hwn).
Gweler JD v Ymddiriedolaeth Iechyd Cymunedol Dwyrain Berkshire & Ors [2005] UKHL 23 (21 Ebrill 2005) paragraffau 85, 87.
Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (2023) Working together to safeguard children: a guide to inter-agency working to safeguard and promote the welfare of children Nottingham, Llywodraeth EM.
Llywodraeth yr Alban (2021) National guidance for child protection in Scotland 2021 - diweddarwyd yn 2023 Caeredin, Llywodraeth yr Alban.
Bwrdd Diogelu Gogledd Iwerddon (24 Tachwedd 2017) Safeguarding Board for Northern Ireland Procedures Manual
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer meddygol da Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol, paragraff 41.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2007) 0–18 oed Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2017) Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.