Amddiffyn plant a phobl ifanc

Diffiniadau o blant, pobl ifanc a rhieni

Pwy yw plant a phobl ifanc?

Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc o’u genedigaeth nes iddynt gael eu pen-blwydd yn 18 oed.

Byddwn yn defnyddio’r term ‘plant’ er mwyn cyfeirio at blant iau nad ydynt yn meddu ar yr aeddfedrwydd a’r ddealltwriaeth i wneud penderfyniadau pwysig drostynt eu hunain.

Byddwn yn defnyddio’r term ‘pobl ifanc’ er mwyn cyfeirio at blant hŷn a mwy profiadol, y maent yn fwy tebygol o fod yn gallu gwneud y penderfyniadau hyn drostynt eu hunain.

Rhieni a chyfrifoldeb rhiant

Yn yr arweiniad hwn, mae cyfeiriadau at ‘rieni’ yn golygu pobl y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant a phobl arall y maent yn gofalu am neu’n edrych ar ôl plant neu bobl ifanc. Gallai hyn gynnwys aelodau teuluol eraill neu oedolion y maent yn byw ar yr un aelwyd.

Mae ‘unigolyn gyda chyfrifoldeb rhiant’ yn golygu rhywun sy’n meddu ar yr hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gan rieni yn ôl y gyfraith dros eu plentyn, gan gynnwys yr hawl i roi eu caniatâd iddynt gael triniaeth feddygol, nes yr adeg pan fyddant yn 18 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a nes byddant yn 16 oed yn yr Alban.

Mae gan famau a thadau priod gyfrifoldeb rhiant, yn yr un modd â thadau di-briod plant a gofrestrwyd er 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon, er 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr ac er 4 Mai 2006 yn yr Alban, ar yr amod bod y tad yn cael eu henwi ar dystysgrif geni y plentyn

Nid oes gan dad di-briod, y cofrestrwyd genedigaeth eu plentyn cyn y dyddiadau hyn, neu ar ôl hynny os nad ydynt yn cael eu henwi ar dystysgrif geni y plentyn, yr hawl awtomatig i gael cyfrifoldeb rhiant. Mae modd iddo sicrhau cyfrifoldeb rhiant trwy ailgofrestru genedigaeth, trwy ymrwymo i gytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda mam y plentyn neu thrwy sicrhau gorchymyn cyfrifoldeb rhiant gan y llysoedd. Mae modd i lys-rieni priod a phartneriaid sifil cofrestredig sicrhau cyfrifoldeb rhiant yn yr un ffyrdd.

Ni fydd rhieni yn colli cyfrifoldeb rhiant os byddant yn ysgaru. Os bydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol dan orchymyn gofal, bydd eu rhieni yn rhannu cyfrifoldeb rhiant gyda’r awdurdod lleol. Os bydd y plentyn mewn gofal gwirfoddol, nid oes gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant. Bydd rhieni yn colli cyfrifoldeb rhiant os caiff plentyn ei fabwysiadu. Mae modd i orchymyn llys gyfyngu cyfrifoldeb rhiant.

Mae gan rieni sy’n mabwysiadu gyfrifoldeb rhiant, yn yr un modd ag unigolyn a benodir yn warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad testamentaidd plentyn, neu unigolyn y rhoddir gorchymyn preswylio iddynt. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb rhiant os bydd gorchymyn gofal yn bodoli mewn perthynas â phlentyn.

Efallai y bydd angen i chi sicrhau cyngor cyfreithiol os na fyddwch yn siŵr pwy sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant dros blentyn.

Yr unig gyfrifoldeb rhiant sy’n parhau nes bydd plentyn yn 18 oed yn yr Alban, yw’r cyfrifoldeb i ddarparu arweiniad i’r plentyn.36 Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at hawliau a chyfrifoldebau rhiant. Yn yr arweiniad hwn, mae cyfeiriadau at ‘gyfrifoldeb rhiant’ yn golygu hawliau a chyfrifoldebau rhiant yn yr Alban.

36

Gweler adran 1(1)(b)(ii) ac adran 1(2)(b) Children (Scotland) Act 1995.