Amddiffyn plant a phobl ifanc

Atodiad 2 – Asesu budd pennaf

1. ‘Lles pennaf’ plentyn neu berson ifanc ddylai fod yr egwyddor ganolog ym mhob penderfyniad a allai effeithio arnynt. Bydd asesu budd pennaf plentyn neu berson ifanc yn cynnwys yr hyn a ddynodir ar lefel glinigol mewn achos penodol. Yn ogystal, dylech ystyried: 

a. safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc, i’r graddau y maent yn gallu eu mynegi, gan gynnwys unrhyw ddewisiadau a fynegwyd ganddynt yn y gorffennol

b. safbwyntiau’r rhieni 

c. safbwyntiau pobl arall sy’n agos i’r plentyn neu’r person ifanc

d. credoau a gwerthoedd diwylliannol, credoau a gwerthoedd crefyddol a chredoau a gwerthoedd eraill y plentyn neu’r person ifanc neu eu rhieni

e. safbwyntiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud gyda darparu gofal i’r plentyn neu’r person ifanc, ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill y mae ganddynt ddiddordeb yn eu lles

f. pa ddewis, os oes mwy nag un, a fydd yn cyfyngu leiaf ar ddewisiadau’r plentyn neu’r person ifanc yn y dyfodol.

2. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Bydd y pwysigrwydd y byddwch yn ei neilltuo i bob pwynt yn dibynnu ar yr amgylchiadau, a dylech ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Ni ddylech ffurfio unrhyw dybiaethau am fudd pennaf plentyn neu berson ifanc nad oes modd eu cyfiawnhau, ac y maent wedi cael eu seilio ar ffactorau amherthnasol neu wahaniaethol, megis eu hymddygiad, eu hymddangosiad neu eu hanabledd.