Egwyddorion amddiffyn plant a phobl ifanc
Dylai’r egwyddorion canlynol gynnig canllaw i bob gweithiwr meddygol proffesiynol sy’n pryderu am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc.
- Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod – mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol ddyletswydd i weithredu ynghylch unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch diogelwch neu les plentyn neu berson ifanc.
- Rhaid i bob gweithiwr meddygol proffesiynol ystyried anghenion a lles plant a phobl ifanc – mae hyn yn cynnwys meddygon sy’n trin cleifion y maent yn oedolion.
- Mae plant a phobl ifanc yn unigolion y mae ganddynt hawliau – ni ddylai gweithiwr meddygol proffesiynol wahaniaethu mewn ffordd annheg yn erbyn plentyn neu berson ifanc am unrhyw reswm.12
- Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i ymwneud gyda’u gofal eu hunain – mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybodaeth sy’n briodol i lefel eu haeddfedrwydd a’u dealltwriaeth, yr hawl i gael eu clywed a’r hawl i ymwneud gyda phenderfyniadau mawr a wneir amdanynt, yn unol â’u galluedd sy’n datblygu (gweler y cyngor ynghylch asesu galluedd yn atodiad 1 yr arweiniad hwn).
- Rhaid i benderfyniadau a wneir am blant a phobl ifanc gael eu gwneud er eu budd pennaf – nodir y ffactorau i’w hystyried wrth asesu budd pennaf yn atodiad 2.
- Mae gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yr hawl i gael cyngor a gofal meddygol cyfrinachol – ond ni ddylai hyn atal gweithiwr meddygol proffesiynol rhag rhannu gwybodaeth os bydd angen gwneud hynny er mwyn diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
- Mae’n well gwneud penderfyniadau ynghylch amddiffyn plant gydag eraill – bydd ymgynghori gyda chydweithwyr ac asiantaethau eraill y maent yn meddu ar arbenigedd priodol yn diogelu ac yn hyrwyddo budd pennaf plant a phobl ifanc.
- Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol fod yn gymwys a gweithio o fewn eu cymhwysedd er mwyn delio gyda materion amddiffyn plant13 – rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r arfer gorau diweddaraf trwy gyfrwng hyfforddiant sy’n briodol i’w rôl. Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol gael cyngor gan weithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu glinigydd arweiniol neu, os na fyddant ar gael, gan gydweithiwr profiadol os na fyddant yn siŵr sut i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.14
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd warchodedig na ellir eu defnyddio fel rheswm dros drin pobl mewn ffordd annheg. Y rhain yw oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gredo, a chyfeiriadedd rhywiol.
Am arweiniad ynghylch cymhwysedd, gweler yr adroddiad rhyng-golegol ynghylch diogelu plant a phobl ifanc.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae gan weithwyr proffesiynol dynodedig ac a enwir rolau a chyfrifoldebau penodol dros ddiogelu plant a phobl ifanc. Yn yr Alban, mae’r clinigydd arweiniol yn cyflawni’r rôl hwn. Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘gydweithiwr profiadol’ yn yr arweiniad hwn, rydym yn golygu cydweithiwr y mae ganddynt brofiad o wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch a lles plant a phobl ifanc, ond nad ydynt yn weithiwr proffesiynol dynodedig neu a enwir nac yn glinigydd arweiniol.