Amddiffyn plant a phobl ifanc

Cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth

Pwyntiau allweddol – pennod 5

  • Dylech ddweud wrth asiantaeth briodol ar unwaith os ydych yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Dylech sicrhau cyngor os ydych yn pryderu ynghylch posibilrwydd camdriniaeth neu esgeulustod, ond nid ydych o’r farn bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol.
  • Dylech ofyn am ganiatâd i rannu gwybodaeth oni bai bod rheswm arbennig dros beidio gwneud hynny. Mae modd rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd os bydd modd cyfiawnhau hynny er budd y cyhoedd neu os bydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ni ddylech oedi er mwyn sicrhau caniatâd cyn datgelu gwybodaeth os allai hynny roi plant neu bobl ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol.
  • Dylech ddweud wrth eich claf pa wybodaeth a rannwyd, gyda phwy a pham, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl.
  • Dylech gael cyngor os nad ydych yn siŵr pa wybodaeth i’w rhannu, pwy y dylid rhannu’r wybodaeth gyda nhw neu’r ffordd orau o reoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig gyda rhannu gwybodaeth.

Egwyddorion cyfrinachedd

28

Mae cyfrinachedd yn allweddol ar gyfer yr ymddiriedaeth rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chleifion, ac yn rhan hanfodol o ofal da. Heb sicrwydd ynghylch cyfrinachedd, efallai y bydd plant a phobl ifanc, yn ogystal ag oedolion, yn amharod i gael sylw meddygol neu i roi’r wybodaeth i weithwyr meddygol proffesiynol y bydd angen iddynt ei chael er mwyn darparu gofal da. 

29

Efallai y bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn arbennig o bryderus ynghylch cadw gwybodaeth yn gyfrinachol o’u rhieni, ysgolion, gwasanaethau plant, yr heddlu ac asiantaethau statudol eraill. Efallai y bydd gan bobl ifanc, rhieni ac oedolion eraill sy’n cael gofal seiciatrig, a phobl agored i niwed eraill, bryderon tebyg ynghylch rhannu gwybodaeth gyfrinachol.

30

Ond mae rhannu gwybodaeth mewn ffordd briodol yn hanfodol er mwyn darparu gofal diogel ac effeithiol, ar gyfer yr unigolyn a’r gymuned ehangach. Yn ogystal, mae wrth wraidd gweithgarwch amddiffyn plant effeithiol. Mae’n hanfodol bod pob gweithiwr meddygol proffesiynol yn meddu ar yr hyder i weithredu ar sail eu pryderon ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod posibl plentyn neu berson ifanc. 

31

Nid yw cyfrinachedd yn ddyletswydd absoliwt.9 Dim ond os bydd un o’r canlynol yn berthnasol y bydd modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol am rywun.

  1. Rhaid i chi wneud hynny19  yn ôl y gyfraith neu er mwyn ymateb i orchymyn llys.20 
  2. Mae’r unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw wedi rhoi eu caniatâd i chi rannu’r wybodaeth (neu mae’r unigolyn sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant wedi rhoi eu caniatâd os yw’r wybodaeth yn ymwneud â phlentyn nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd).21 
  3. Mae modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd – er enghraifft, os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn deillio o rannu’r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd a’r budd i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
9

Cyngor Meddygol Cyffredinol (2017) Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion Llundain, Cyngor Meddygol Cyffredinol.

19

Yng Nghymru a Lloegr, mae dyletswydd gyfreithiol ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a reoleiddir i adrodd am achosion hysbys o anffurfio organau cenhedlu benywod ymhlith merched a menywod ifanc dan 18 oed i’r heddlu. Mae Llywodraeth EM wedi cyhoeddi dwy ddogfen arweiniad ynghylch FGM: Canllawiau arfer amlasiantaeth: anffurfio organau cenhedlu benywod ac Adrodd gorfodol am anffurfio organau cenhedlu benywod: gwybodaeth weithdrefnol.

20

Nid yw hi wastad yn syml asesu a oes gofyniad cyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth. Os ceir unrhyw amheuaeth, dylech geisio cyngor cyfreithiol. Os bydd y llys wedi gorchymyn bod y wybodaeth yn cael ei datgelu, ac os ydych chi’n ansicr ynghylch pa mor berthnasol yw gwybodaeth neu gofnodion, dylech geisio eglurhad gan eich cyfreithwyr cyfarwyddol neu’r llys.

21

Gweler atodiad 1 i’r canllawiau hyn am gyngor ar asesu galled. Ceir mwy o arweiniad yn 0–18 oed.

Rhannu gwybodaeth am y rhai sydd mewn perygl

32

Rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol, megis gwasanaethau plant eich awdurdod lleol, NSPCC neu’r heddlu ar unwaith os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, oni bai na fyddai gwneud hynny er eu budd pennaf (gweler paragraphs 39 and 40). Ni fydd angen i chi fod yn sicr bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol er mwyn cymryd y cam hwn. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd canlyniadau posibl peidio rhannu gwybodaeth berthnasol, ym mwyafrif llethol yr achosion, yn drech nag unrhyw niwed y gallai rhannu eich pryderon gydag asiantaeth briodol ei achosi.

39

Rhaid i unrhyw benderfyniad i oedi cyn rhannu gwybodaeth gydag asiantaeth briodol pan fo plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, gael ei wneud mewn ffordd ofalus, a dim ond mewn amgylchiadau pan fo’r risg uwch i ddiogelwch neu les y plentyn neu’r person ifanc yn amlwg yn drech na’r manteision o rannu gwybodaeth. Rhaid bod modd i chi gyfiawnhau’ch penderfyniad. Rhaid i chi gofnodi’r penderfyniad i beidio rhannu gwybodaeth ar unwaith, ynghyd â’ch rhesymau ac unrhyw gyngor yr ydych wedi’i gael.

40

Os byddwch, fel eithriad, yn penderfynu na fyddai rhannu gwybodaeth ar unwaith gyda gwasanaethau plant yr awdurdod lleol neu asiantaeth briodol arall er budd pennaf y plentyn neu’r person ifanc, dylech drafod hyn gyda’r plentyn neu’r person ifanc, neu eu rhieni. Rhaid i chi gadw mewn cysylltiad gyda’r plentyn neu’r person ifanc, gan adolygu’r penderfyniad i oedi cyn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd. Rhaid i chi geisio sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael y gofal a’r cymorth y mae angen iddynt ei gael.

33

Wrth ddweud wrth asiantaeth briodol am eich pryderon, dylech ddarparu gwybodaeth am y ddau beth canlynol:

  1. manylion y plentyn neu’r person ifanc, eu rhieni ac unrhyw berson arall y gallent achosi perygl iddynt
  2. y rhesymau dros eich pryderon, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y plentyn neu’r person ifanc ac unrhyw wybodaeth berthnasol am eu rhieni neu eu gofalwyr.
34

Dylech ofyn am ganiatâd cyn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, oni bai bod rheswm arbennig dros beidio gwneud hynny. Er enghraifft, oherwydd: 

  1. y byddai oedi cyn rhannu gwybodaeth berthnasol gydag awdurdod neu unigolyn priodol yn cynyddu’r perygl y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef niwed
  2. y gallai gofyn am ganiatâd gynyddu’r perygl y bydd y plentyn, y person ifanc, chi neu unrhyw un arall yn dioddef niwed
  3. rydych eisoes wedi penderfynu bod datgelu yn gyfiawn er budd y cyhoedd.
35

Dylech ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc am ganiatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i’w roi. Os na, dylech ofyn i unigolyn y maent yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant. Yn ogystal, dylech ofyn am ganiatâd unrhyw oedolion yr ydych yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt. Wrth ofyn am ganiatâd, dylech esbonio’r rheswm pam eich bod yn dymuno rhannu gwybodaeth, a sut y bydd hyn o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, dylech esbonio’r holl bethau canlynol:

  1. pa wybodaeth y byddwch yn ei rhannu
  2. pwy y byddwch yn ei rhannu gyda nhw
  3. sut y defnyddir y wybodaeth
  4. ble y bydd modd iddynt gael cyngor a chymorth annibynnol (gweler Ffynonellau o gyngor a chymorth annibynnol i rieni a theuluoedd er enghreifftiau o sefydliadau).

Rhannu gwybodaeth heb ganiatâd

36

Mae modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol heb sicrhau caniatâd os bydd gofyn i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os byddwch yn cael cyfarwyddyd gan lys, neu os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn codi o rannu’r wybodaeth yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd os na fyddwch yn rhannu’r wybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r unigolyn ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chleifion o bob oedran, a fydd yn deillio o ryddhau’r wybodaeth honno.

37

Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar alluedd, neu riant, yn gwrthod rhoi eu caniatâd i chi rannu gwybodaeth, dylech ystyried eu rhesymau dros wrthod, a phwyso canlyniadau posibl peidio rhannu’r wybodaeth yn erbyn y niwed y gallai rhannu’r wybodaeth ei achosi. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd rhannu gwybodaeth gyda’r asiantaeth briodol er eu budd pennaf fel arfer.

38

Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech esbonio’ch rheswm dros wneud hynny i’r bobl y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw, a darparu’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff 35, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl. Yn ogystal, dylech gofnodi’ch penderfyniad fel y nodir ym mharagraff 54.

Oedi cyn rhannu gwybodaeth

39

Rhaid i unrhyw benderfyniad i oedi cyn rhannu gwybodaeth gydag asiantaeth briodol pan fo plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, gael ei wneud mewn ffordd ofalus, a dim ond mewn amgylchiadau pan fo’r risg uwch i ddiogelwch neu les y plentyn neu’r person ifanc yn amlwg yn drech na’r manteision o rannu gwybodaeth. Rhaid bod modd i chi gyfiawnhau’ch penderfyniad. Rhaid i chi gofnodi’r penderfyniad i beidio rhannu gwybodaeth ar unwaith, ynghyd â’ch rhesymau ac unrhyw gyngor yr ydych wedi’i gael.

40

Os byddwch, fel eithriad, yn penderfynu na fyddai rhannu gwybodaeth ar unwaith gyda gwasanaethau plant yr awdurdod lleol neu asiantaeth briodol arall er budd pennaf y plentyn neu’r person ifanc, dylech drafod hyn gyda’r plentyn neu’r person ifanc, neu eu rhieni. Rhaid i chi gadw mewn cysylltiad gyda’r plentyn neu’r person ifanc, gan adolygu’r penderfyniad i oedi cyn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd. Rhaid i chi geisio sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael y gofal a’r cymorth y mae angen iddynt ei gael.

41

Wrth rannu pryderon ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod posibl, nid ydych yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y ffordd orau o ddiogelu plentyn neu berson ifanc. Rôl gwasanaethau plant yr awdurdod lleol yw hwnnw, ac yn y pen draw, rôl y llysoedd. Hyd yn oed os darganfyddir nad yw’r plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd modd cyfiawnhau rhannu gwybodaeth ar yr amod bod eich pryderon yn rhesymol a’u bod wedi codi am resymau gonest, eich bod yn rhannu’r wybodaeth gyda’r asiantaeth briodol a’ch bod yn rhannu gwybodaeth berthnasol yn unig. 

Ymateb i’ch pryderon

42

Dylech ymateb i’ch pryderon a’u symud ymlaen i’r lefel awdurdod nesaf os byddwch o’r farn nad yw’r person neu’r asiantaeth y gwnaethoch eu hysbysu am eich pryderon wedi gweithredu yn eu cylch mewn ffordd briodol, a bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod o hyd.

Mân bryderon y gallent fod yn rhan o ddarlun ehangach

43

Yn aml, dim ond pan fydd nifer o bobl yn rhannu’r hyn y maent yn ymddangos fel mân bryderon y bydd risgiau i ddiogelwch a lles plant neu bobl ifanc yn dod i’r amlwg. Gallai hyn gynnwys pobl o wahanol asiantaethau. Os bydd cyflwr neu ymddygiad plentyn neu berson ifanc yn peri i chi ystyried y gallai camdriniaeth neu esgeulustod fod yn un esboniad posibl, ond nid ydych o’r farn eu bod yn mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol, dylech drafod eich pryderon gyda’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’ch clinigydd arweiniol neu, os na fyddant ar gael, gyda chydweithiwr profiadol. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y plentyn neu’r person ifanc.

44

Os na fydd eich trafodaethau yn cynnig safbwynt eglur ynghylch posibilrwydd camdriniaeth neu esgeulustod, dylech ystyried rhannu gwybodaeth berthnasol gyfyngedig gydag asiantaethau eraill sy’n cael cyswllt gyda’r plentyn neu’r person ifanc, er mwyn penderfynu a oes risg yn bodoli a fyddai’n cyfiawnhau rhannu gwybodaeth bellach. Byddai gwybodaeth berthnasol yn cynnwys manylion y plentyn neu’r person ifanc a chrynodeb byr o achos y pryder. Rhaid i chi ofyn am ganiatâd i wneud hyn fel y disgrifiwyd ym paragraph 35. Os bydd yr unigolyn neu’r bobl y byddwch yn gofyn iddynt yn gwrthod rhoi eu caniatâd, dylech asesu a yw’r manteision posibl o rannu gwybodaeth yn drech na’r manteision o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, fel y disgrifiwyd ym paragraph 37.

35

Dylech ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc am ganiatâd os ydynt yn meddu ar y galluedd i’w roi. Os na, dylech ofyn i unigolyn y maent yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant. Yn ogystal, dylech ofyn am ganiatâd unrhyw oedolion yr ydych yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt. Wrth ofyn am ganiatâd, dylech esbonio’r rheswm pam eich bod yn dymuno rhannu gwybodaeth, a sut y bydd hyn o fudd i’r plentyn neu’r person ifanc. Yn ogystal, dylech esbonio’r holl bethau canlynol:

  1. pa wybodaeth y byddwch yn ei rhannu
  2. pwy y byddwch yn ei rhannu gyda nhw
  3. sut y defnyddir y wybodaeth
  4. ble y bydd modd iddynt gael cyngor a chymorth annibynnol (gweler Ffynonellau o gyngor a chymorth annibynnol i rieni a theuluoedd er enghreifftiau o sefydliadau).
37

Os bydd plentyn neu berson ifanc sy’n meddu ar alluedd, neu riant, yn gwrthod rhoi eu caniatâd i chi rannu gwybodaeth, dylech ystyried eu rhesymau dros wrthod, a phwyso canlyniadau posibl peidio rhannu’r wybodaeth yn erbyn y niwed y gallai rhannu’r wybodaeth ei achosi. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd rhannu gwybodaeth gyda’r asiantaeth briodol er eu budd pennaf fel arfer.

45

Os nad ydych yn fodlon bod modd cyfiawnhau rhannu gwybodaeth dan yr amgylchiadau, dylech adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd, gan ystyried diogelwch a lles y plentyn neu’r person ifanc. Dylech annog y rhieni neu’r plentyn neu’r person ifanc i gael help a chymorth. Os byddwch yn pryderu yn nes ymlaen bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol fel y nodwyd ym paragraph 32.

32

Rhaid i chi ddweud wrth asiantaeth briodol, megis gwasanaethau plant eich awdurdod lleol, NSPCC neu’r heddlu ar unwaith os byddwch yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, oni bai na fyddai gwneud hynny er eu budd pennaf (gweler paragraphs 39 and 40). Ni fydd angen i chi fod yn sicr bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol er mwyn cymryd y cam hwn. Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, bydd canlyniadau posibl peidio rhannu gwybodaeth berthnasol, ym mwyafrif llethol yr achosion, yn drech nag unrhyw niwed y gallai rhannu eich pryderon gydag asiantaeth briodol ei achosi.

Ymateb i geisiadau am wybodaeth

46

Dylech ystyried yr holl geisiadau am wybodaeth at ddibenion amddiffyn plant o ddifrif ac yn gyflym, gan gofio y gallai gwrthod rhoi’r wybodaeth hon, neu oedi cyn gwneud hynny, gynyddu’r perygl i blentyn neu berson ifanc, neu danseilio ymdrechion i’w diogelu.

47

Rhaid i chi ymateb mewn ffordd lawn a chyflym i orchymyn llys sy’n gofyn am wybodaeth. Yn ogystal, rhaid i chi gydweithredu gyda cheisiadau am wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer adolygiadau ffurfiol22  a gynhelir ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc neu ar ôl i blentyn neu berson ifanc gael niwed difrifol ac mae’n hysbys neu’n cael ei amau bod camdriniaeth neu esgeulustod wedi bod yn ffactor. Diben adolygiad o’r fath yw dysgu gwersi ar ôl gwneud camgymeriadau, a gwella systemau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Yn ogystal, dylech gydweithredu gyda gweithdrefnau a sefydlwyd er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar.23 

22

Er enghraifft, adolygiadau achos difrifol yng Nghymru a Lloegr, adolygiadau achos arwyddocaol yn yr Alban, adolygiadau rheoli achos yng Ngogledd Iwerddon, cwestau ac ymchwiliadau, ac ymholiadau ynghylch marwolaethau sydyn neu annisgwyl plant.

23

Er enghraifft, trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a threfniadau diogelu’r cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon (PPANI). Gweler paragraff 71 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion am arweiniad pellach.

48

 Cyn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, dylech gymryd yr holl gamau canlynol.

  1. Cadarnhau manylion yr unigolyn sydd wedi gofyn am y wybodaeth – er enghraifft, trwy eu ffonio yn ôl os byddwch yn cael cais dros y ffôn gan unigolyn neu asiantaeth nad ydych yn eu hadnabod.
  2. Cadarnhau bod y cais yn ddilys, deall pam bod yr unigolyn neu’r asiantaeth yn gofyn am y wybodaeth, pa wybodaeth y mae angen iddynt ei chael, a sut y gallent ddefnyddio’r wybodaeth yn y dyfodol.
  3. Sicrhau eich bod wedi bodloni un o’r amodau er mwyn rhannu gwybodaeth, a nodwyd ym paragraph 31.
31

Nid yw cyfrinachedd yn ddyletswydd absoliwt.9 Dim ond os bydd un o’r canlynol yn berthnasol y bydd modd i chi rannu gwybodaeth gyfrinachol am rywun.

  1. Rhaid i chi wneud hynny19  yn ôl y gyfraith neu er mwyn ymateb i orchymyn llys.20 
  2. Mae’r unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw wedi rhoi eu caniatâd i chi rannu’r wybodaeth (neu mae’r unigolyn sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant wedi rhoi eu caniatâd os yw’r wybodaeth yn ymwneud â phlentyn nad ydynt yn meddu ar y galluedd i roi caniatâd).21 
  3. Mae modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd – er enghraifft, os bydd y manteision i blentyn neu berson ifanc a fydd yn deillio o rannu’r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd a’r budd i’r unigolyn o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
49

Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei rhannu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y plentyn neu’r person ifanc, eu rhieni ac unrhyw bobl perthnasol eraill y maent yn cael cyswllt gyda’r plentyn neu’r person ifanc. Bydd gwybodaeth berthnasol yn cynnwys ffactorau risg teuluol, megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, neu achosion blaenorol o gamdriniaeth neu esgeulustod, ond ni ddylech rannu cofnodion cyflawn fel arfer.24 Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech ddilyn y cyngor ym paragraph 38.

38

Os byddwch yn rhannu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd, dylech esbonio’ch rheswm dros wneud hynny i’r bobl y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw, a darparu’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff 35, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl. Yn ogystal, dylech gofnodi’ch penderfyniad fel y nodir ym mharagraff 54.

24

Os nad ydych yn siŵr a yw gwybodaeth yn berthnasol ac a ddylech rannu gwybodaeth benodol neu beidio, gweler paragraffau 42 - 52 of 0–18 oed.

50

Os nad ydych yn siŵr a ddylech rannu gwybodaeth neu beidio, dylech drafod eich pryderon a’r ffordd orau o reoli unrhyw risg i blentyn neu berson ifanc gyda’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’r clinigydd arweiniol, neu os na fyddant ar gael, gyda chydweithiwr profiadol.

Rhannu gwybodaeth yn y tîm gofal iechyd/eraill sy’ndarparu gofal

51

Os bydd plentyn neu berson ifanc y ceir amheuon eu bod mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod yn cael eu cyfeirio at ofal iechyd arbenigol, dylech sicrhau eich bod yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am y pryderon amddiffyn plant yn y cyfeiriad. Dylech hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, neu’r rhieni, o’r hyn a rannwyd a gyda phwy, oni bai y byddai gwneud hyn yn rhoi’r plentyn, y person ifanc neu unrhyw un arall mewn mwy o berygl