Amddiffyn plant a phobl ifanc

Hyfforddiant a datblygu

Pwyntiau allweddol – pennod 8

  • Dylech wybod yr hyn i’w wneud os ydych yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o ddioddef neu yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
  • Dylech gynnal y wybodaeth a’r sgiliau er mwyn diogelu plant a phobl ifanc ar lefel sy’n briodol i’ch rôl.

Cynnal eich gwybodaeth a’ch sgiliau

71

Rhaid i chi ddatblygu a chynnal y wybodaeth a’r sgiliau er mwyn diogelu plant a phobl ifanc ar lefel sy’n briodol i’ch rôl. Darparir gwybodaeth am lefel yr hyfforddiant amddiffyn plant sy’n angenrheidiol ar gyfer gwahanol rolau, a pha mor aml y dylai gweithiwr meddygol proffesiynol gael yr hyfforddiant hwnnw, yn nogfen Safeguarding children and young people: roles and competences for health care staff.29 Yn ogystal, dylech gymryd rhan mewn hyfforddiant ynghylch sut i gyfathrebu mewn ffordd effeithiol gydag ystod eang o grwpiau rhieni, plant a phobl ifanc.

72

Os ydych yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, dylech fyfyrio am eich perfformiad wrth ddiogelu plant a phobl ifanc yn rheolaidd, ynghyd â’ch cyfraniadau i unrhyw dimau yr ydych yn gweithio ynddynt. Dylech ofyn am a bod yn barod i weithredu mewn perthynas ag adborth yn dilyn gwaith archwilio, trafod achos, adolygu gan gymheiriaid a goruchwyliaeth. Dylech gysylltu â’ch gweithiwr proffesiynol penodol neu ddynodedig neu’r clinigydd arweiniol i gael cyngor ynghylch cyfleoedd i drafod a dysgu gan achosion amddiffyn plant yn eich ardal leol.

73

Os ydych yn gweithio gydag oedolion, dylech sicrhau bod modd i chi nodi’r ffactorau risg yn eu hamgylchedd, y gallent godi pryderon ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod, ac a yw cleifion yn peri risg i blant neu bobl ifanc sy’n agos iddynt.

Dysgu wrth eraill

74

Os bydd cyfleoedd ar gael, dylech ddysgu wrth gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill – er enghraifft, trwy gymryd rhan mewn hyfforddiant aml-ddisgyblaethol neu rannu arfer gorau a sgiliau. Yn ogystal, dylech geisio datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion y mae grwpiau penodol o bobl yn eu hwynebu, megis anghenion cyfathrebu gwahanol grwpiau o bobl anabl.

75

Os ydych yn feddyg penodol neu ddynodedig, yn glinigydd arweiniol neu’n gyfarwyddwr meddygol mewn ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, grŵp comisiynu clinigol neu leoliad arall, dylech gynorthwyo’ch cydweithwyr i nodi cyfleoedd hyfforddi a datblygu.